Tudalen 3 o 3

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Sul 13 Medi 2009 10:16 am
gan Blewyn
Mae'r ateb yn syml iawn. Yr unig reswm i wrthod platfform i siarad i unrhyw un ydy os yw eu dadleuon yn wrth-ddemocrataidd, gan na all democratiaeth arloesi os bo'r egwyddor o 1 person 1 pleidlais yn cael ei fygwth.

Os ydy'r BNP yn mynnu gwahaniaethu rhwng unigolion ar sail hil neu liw, maent yn bygwth democratiaeth. Os ddechreuwn ni wahaniaethu ar sail hil, be nesa - ? Lliw gwallt ? Lliw llygaid ? Fedr democratieth ddim arloesi os yw hi'n bosib i un sector o'r boblogaeth i benderfynnu difreinio y gweddill ar sail mympwyol. Yr unig sail iawn i wahaniaethu yn ol yw ymddygiad unigolion neu garfannau.

Yn yn gorffennol, mae'r BNP (a'r National Front gynt) wedi eu gwahardd o nifer fawr o blatfformau cyhoeddus am y rheswm eu bod yn wrth-ddemocrataidd. Yn ddiweddar, mae llys wedi barnu fod rhaid i bob cyfundrefn -gan gynnwys y BNP - dderbyn aelodau o bob hil. Mae hyn yn golygu fod yn BNP yn gyfundrefn teg, o ran polisi aelodaeth os dim arall, a mi welwn os ydy hyn wedi bod yn ddigon o hwb i'r parti newid ei agwedd tuag at y cwestiwn o hil. Os nad ydynt, os ydy nhw dal yn mynnu gyrru Prydeinwyr o'r wlad ar sail eu lliw heb eu bod wedi gwneud dim o'i le, ni ddylid rhoi platfform iddynt. Os wna nhw ollwng eu polisiau gwrth-democrataidd, wedyn mae'n rhaid rhoi platfform iddynt.

Sori am sgwennu ateb hir, d'oes gen i ddim amser i sgwnnu un byr.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Sul 20 Medi 2009 6:15 pm
gan Dili Minllyn
Blewyn a ddywedodd:Mae'r ateb yn syml iawn. Yr unig reswm i wrthod platfform i siarad i unrhyw un ydy os yw eu dadleuon yn wrth-ddemocrataidd, gan na all democratiaeth arloesi os bo'r egwyddor o 1 person 1 pleidlais yn cael ei fygwth.

Ar sail hynny, fydden ni byth yn rhoi llwyfan i lawer o wrthwynebwyr sosialaidd y BNP, sydd am ddymchwel trefn democratiaeth seneddol, a rhoi unbenaeth y proletariaid yn ei lle.

Mi fues am flynydoedd, ar ran y Gynghrair Wrth-Natsïaidd, yn galw am ‘dim llwyfan i ffasgwyr’, ond penderfynais i yn y pen dawr na ellid cyfiawnhau’r fath beth. Os dywedwn ni ‘dim llwyfan i ffasgwyr’, beth sy’n cadw rhywun arall rhag mynnu cadw sosialwyr/ceidwadwyr/rhyddfrydwyr o lwyfannau cyhoeddus? Peth go beryglus yw i un garfan o bobl honni mai nhw sy’n gwybod beth yw cwmpas a chyfyngiadau syniadau ‘derbynniol’ ac wedyn mynnu na ddylid clywed neb a chanddo syniadau ‘annerbynniol’. Fel dywedodd Enoch Powell (un y ceisiodd sawl un ei gadw o sawl llwyfan) os clywch chi rywun yn dadlau’n afresymol, dylai fynd ati i’w gwrthbrofi’n rhesymol – peth digon hawdd ei wneud yn achos y BNP.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Iau 01 Hyd 2009 1:46 am
gan Blewyn
Dili Minllyn a ddywedodd:Ar sail hynny, fydden ni byth yn rhoi llwyfan i lawer o wrthwynebwyr sosialaidd y BNP, sydd am ddymchwel trefn democratiaeth seneddol, a rhoi unbenaeth y proletariaid yn ei lle.

Dwi 'rioed wedi clywed y fath ddadl (o blaid unbenaeth y proletariaid - a be ydy hynna ? Sut fedri di gael unbenaeth o grwp o bobl ?) yn cael ei fynegi o ddifri gan unrhyw un.
Os dywedwn ni ‘dim llwyfan i ffasgwyr’, beth sy’n cadw rhywun arall rhag mynnu cadw sosialwyr/ceidwadwyr/rhyddfrydwyr o lwyfannau cyhoeddus?

Y ffaith nad oes gennyt ddadl call o blaid eu rhwystro. Mae ffasgwyr yn erbyn democratiaeth, felly d'oes ganddynt ddim hawl i fynnu llwyfan mewn trefn wleidyddol democrataidd. Dyna ydy'r gwahaniaeth rhyngddynt a'r sosialwyr/ceidwadwyr/rhyddfrydwyr.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 3:42 am
gan Gwenci Ddrwg
Sut fedri di gael unbenaeth o grwp o bobl ?

http://en.wikipedia.org/wiki/Dictatorsh ... roletariat (hanes sosialaidd sylfaenol)

Yn gyffredinol, dwi'n cytuno efo Dili- os dach chi'n barod i wrando ar farn y sosialwyr eithaf -er eu bod nhw'n arfer gwrth-ddemocrataidd- ddylech chi rhoi siawns i'r BNP, polisïau ffasgaidd neu dim.

Mae ffasgwyr yn erbyn democratiaeth, felly d'oes ganddynt ddim hawl i fynnu llwyfan mewn trefn wleidyddol democrataidd. Dyna ydy'r gwahaniaeth rhyngddynt a'r SOSIALWYR/ceidwadwyr/rhyddfrydwyr.

Wps.

Re: A dylai'r BNP fod ar Question Time?

PostioPostiwyd: Maw 13 Hyd 2009 8:56 am
gan Cymro13
Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn rhoi llwyfan i BNP i ddangos eu gwir natur i'r bobl , gweler enghreifftiau isod o flog Colin Nosworthy

The party leader, Nick Griffin was convicted of inciting racial hatred after a BNP magazine he published denied the reality of the Holocaust – Nazi Germany’s murder of 15 million Jews, trade unionists, gypsies, Slavs, black, lesbian, gay and disabled people.
In 2004, Mark Collett, leader of the BNP youth wing, was recorded by Channel 4 saying that AIDS is “a friendly disease because blacks, drug users and gays have it.”
The same leading BNP member was caught on a Channel 4 Dispatches documentary praising Hitler and claiming that Nazi Germany would have been a better place to live than some parts of Britain.
Nick Eriksen, one of their London Assembly candidates said “Rape is simply sex. Women enjoy sex, so rape cannot be such a terrible ordeal… [it] is like suggesting force-feeding a woman chocolate cake is a heinous offence.”
John Tyndall, BNP founder and former leader said “Mein Kampf is my bible”


Os nad oedd y BNP wedi cael rhyw fath o lwyfan i ddweud y pethe ffiadd yma bydde lot o bobl ddim yn gwynebu realiti o wir natur y BNP a dyna pam mae'n bwysig fod y bobl yma yn cael eu exposo a gorfod gwynebu ac ateb cwestiynnau anodd gan bobl. Yr unig lwyfan fydde'n BNP yn cael os ydyn ni'n gwrthod yw eu propaganda nhw eu hunain yn chware ar ofnau pobl y wlad am fewnfudo etc a gneud i bobl gredu fod e'n wir