Tudalen 1 o 1
Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Maw 22 Medi 2009 8:58 pm
gan Mali
Newydd fod yn darllen am yr adeiladwr a aeth OTT ar ben to yn ddiweddar .
Dyma'r hanes o wefan y BBC.
Dwi ddim yn meddwl y baswn i'n cyflogi rhywun fel hyn.
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Maw 22 Medi 2009 9:18 pm
gan Mwnci Banana Brown
Itha reit fyd. Os nadi nw wedi talu am y gwaith, yr adeiladwr sy dal bia'r material. Ishe hyn i ddigwydd yn fwy amal.
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Maw 22 Medi 2009 9:29 pm
gan Duw
Wel, dwi wedi gwrthod talu (cow)bois am waith o'r blaen a gwnaethant bygwyth mynd â'u stwff. Wedes i bod hwnna'n iawn, jest eu bod yn gosod y pibellau nol fel oedden nhw cyn iddyn nhw rhacso'r system. Roedd gosod popeth yn ol yn fwy o hasl na'i werth e iddyn nhw. Yn y diwedd, tales i am y materials ond nid am eu hamser.
Anodd dweud pwy oedd yn gywir fan'yn - os taw cowboi job odd e - dylae'r perchennog fod wedi taflu cerrig at y twat ar y to, ar y llaw arall, os bai'r perchennog, dyle'r adeiladwr fod wedi plymio trwy'r to a 'bomio' trwy'r nenfwd a claimo ar inswrans y tit.
Thus spake Zarathustra!
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Mer 23 Medi 2009 3:53 am
gan Mali
Mae'n debyg fod 'na fai ar y ddwy ochr , ond da chi ddim yn meddwl fod yr adeiladwr a'i fab wedi gwneud peth anghyfrifol ? Be ddiawl mae hyn yn ddysgu i'r genhedlaeth iau 'lly ?
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Mer 23 Medi 2009 7:31 pm
gan Duw
Os bai'r perchennog, dwi'n meddwl roedd y boi'n iawn. Dysgu ei fab i ddangos asgwrn cefen. Ma ishe 'stand up guys' mas fanna. Wylle bo tymed o fynd yn rhy bell fan hyn, ond pob lwc iddo os odd e'n erfyn arian am waith o safon sy dal i'w dalu.
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Sad 03 Hyd 2009 4:50 am
gan Gwenci Ddrwg
Anghofiwch am bwy sy'n cywir. Does neb sydd eisiau llogi fo rwan! Rili, pwy yn y byd sydd eisiau llogi adeiladwr sy'n risgio dinistrio dy dŷ? Ma o newydd golli busnes dichonol rhwng pawb sydd di clywed am hyn.
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Llun 05 Hyd 2009 4:01 pm
gan Mali
Helo Gwenci !
Falch fod 'na rywun arall yn gweld y goleuni . 'Roedd gweithred yr adeiladwr yn ddigon babiaidd....yn gwneud i mi feddwl am blentyn bach ddim yn cael ei ffordd ac yn dechrau taflu ei deganau o gwmpas . A sdim isho llawer o asgwrn cefn i wneud hynny.
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Llun 05 Hyd 2009 5:43 pm
gan Duw
Cytuno bo'r canlyniad iddo fe'n anffodus. Er, nid ydym yn gwybod y stori, felly anodd yw beirniadu. Wylle bo'r boi ar ddiwedd ei dennyn, yn gwynebu bilie dyw e ddim yn gallu talu oherwydd y perchennog. Pwy â wyr?
Babiadd, posib, ond adloniant blydi dda!
Re: Ydi hyn yn mynd yn rhy bell?
Postiwyd:
Gwe 09 Hyd 2009 3:19 am
gan Gwenci Ddrwg
Er, nid ydym yn gwybod y stori, felly anodd yw beirniadu
Cytuno- nes i ddim ddeud oedd o'n cywir neu anghywir...jest nas oes gynno fo waith rwan!
Eniwe, Duw, mae dy avatar yn edrych fel crap mewn shitter.
Gret dwi newydd fwyta.