Tudalen 1 o 1

Arestio Blair

PostioPostiwyd: Maw 26 Ion 2010 9:26 am
gan Cardi Bach
Mae george monbiot wedi lawnsio gwefan newydd:

http://www.arrestblair.org

Mae'n cynnig gwobr i bobl sydd yn ceisio gwneud arest dinesydd (Citizens arrest) heddychlon.

Esgusodwch y dyfyniad saesneg yma -

We have four purposes:

- To remind people that justice has not yet been done.

- To show Mr Blair that, despite his requests for people to “move on” from Iraq, the mass murder he committed will not be forgotten.

- To put pressure on the authorities of the United Kingdom and the countries he travels through to prosecute him for a crime against peace, or to deliver him for prosecution to the International Criminal Court.

- To discourage other people from repeating his crime.


os ydych chi'n credu fod Tony Blair yn euog o droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth, yna ewch draw i gefnogi.

Os nad ydych chi'n credu hyn, yna peidiwch boddran.

Re: Arestio Blair

PostioPostiwyd: Maw 26 Ion 2010 9:57 pm
gan Duw
Mewn egwyddor - diawl o foi. Yn y byd real - feri gwd diar tsiap, wy lwc afftyr awhyr own. :rolio:
Deiff byger ol ohono. Sioe fawr ar y bocs. Gwastraff arian llwyr - doedd byth bwriad i ddarganfod drwgweithredoedd. Allai wynto'r papur ffeil yn llosgi o fanyn.

Re: Arestio Blair

PostioPostiwyd: Mer 27 Ion 2010 7:31 am
gan Josgin
Ydi'r gwr yma'n byw'n Machynlleth bellach ?

Re: Arestio Blair

PostioPostiwyd: Iau 28 Ion 2010 11:36 pm
gan Seonaidh/Sioni
Josgin a ddywedodd:Ydi'r gwr yma'n byw'n Machynlleth bellach ?

Lle peryglus am Albanwyr ynte - MacHunllef...

Re: Arestio Blair

PostioPostiwyd: Sad 30 Ion 2010 4:21 am
gan dewi_o
Adam Pricei wneud Citizen Arrest ar Tony Blair, efallai ?

Re: Arestio Blair

PostioPostiwyd: Sad 30 Ion 2010 8:48 pm
gan Rhys Llwyd
Un cwestiwn athronyddol/ddiwinyddol. Roeddw ni'n gwrando ar dad y milwr cyntaf o Gymru fu farw yn Irac, hwnnw a safodd yn erbyn Blair yn yr etholiad. A cwestiwn sy'n codi yw hyn. A'i cyfiawnder y maen ceisio neu dialedd? Oherwydd y mae gwahaniaeth pwysig rhwng y ddau beth. Maen siwr mae cyfiawnder y maen ceisio yn hytrach na dialedd a da felly. Ond mae pwynt yn dod lle gall y linell rhwng fod eisiau dial a chael cyfiawnder fod yn anelwig iawn. A teimlaf i weithiau fod llawer o'r ymgyrchu yn erbyn Tony Blair yn gwyro ormod i'r pegwn dial/atgasedd yn hytral na chyfiawnder/maddeuant.

Ond amwni fod rhaid i ddyn edifarhau i dderbyn maddeuant ac hyd y gwelaf i mae Blair yn parhau i fod yn ddi-edifar.

Re: Arestio Blair

PostioPostiwyd: Sul 31 Ion 2010 4:19 pm
gan Josgin
Bu dialedd yn gerbyd i gyfiawnder ar hyd y blynyddoedd. Mae teimladau rhiant a gollodd blentyn yn gallu cymysgu'r ddau elfen. Mae'n siwr fod yna ymgyrchwyr o fewn canolfan Wiesenthal oedd ond yn brwydro am gyfiawnder, ond yn sicr , mae'n siwr fod dial yn gyrru rai eraill. A yw'r cyfiawnder sy'n dilyn yn llai yn sgil hynny ?
Nid chlywais neb yn galw am ladd Blair, felly a yw'n deg ei alw'n ddial ? .
Ni wn os darllenaist y llyfr 'Godfather ' erioed , Rhys , ond mae golygfeydd cyntaf y llyfr yna, pryd mae Amerigo Bonasera'r ymgymerwr yn gofyn am gymorth Don Corleone yn cynnwys adlais o dy gwestiwn. Mae Don Corleone yn deall y gwahaniaeth (serch ei fod yn lofrudd), ond nid yw'r ymgymerwr .
I ddilyn yr edefyn gwreiddiol, ni fydd Blair edifar byth. Os y bydd Iraq yn wlad sefydlog, gyfoethog ymhen 10 mlynedd ,pwy a wyr.
Os y bydd yn gyflafan waedlyd barhaus, bydd wedi bod yn anghywir.