Y Ceidwadwyr vs Pobl Hoyw
Postiwyd: Llun 03 Mai 2010 8:47 pm
Da chi, peidiwch a chredu bod y Ceidwadwyr wedi newid:
http://www.guardian.co.uk/politics/2010 ... d-gay-cure
Un o 'sêr y dyfodol' ymhlith y Ceidwadwyr yw Philippa Stroud. Hi yw pennaeth y 'Centre for Social Justice', y felin drafod (thinktank) a sefydlwyd gan Iain Duncan Smith, cyn arweinydd y Ceidwadwyr, ac mae hi, mae'n debyg, wedi dylanwadu'n drwm ar bolisiau cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr.
A beth yw ei safbwynt ar bobl hoyw? Mae hi'n credu mai diafoliaid y tu mewn iddyn nhw sy'n eu gwneud nhw'n hoyw, ac mai gweddio drostyn nhw yw'r ffordd i'w hiachau. Falle mai dyma fydd polisi'r Llywodraeth Geidwadol o fewn mis.
Guto Bebb, Alun Cairns, ac ymgeiswyr eraill y Ceidwadwyr yng Nghymru - dyma'r math o blaid ry'ch chi'n rhan ohoni, felly ai dyma'r math o bolisiau ry'ch chi eisiau eu gweithredu?
Da chi, peidiwch a chredu bod y Ceidwadwyr wedi newid.