Tudalen 1 o 1

Y Ceidwadwyr vs Pobl Hoyw

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2010 8:47 pm
gan Iwan Rhys
Da chi, peidiwch a chredu bod y Ceidwadwyr wedi newid:

http://www.guardian.co.uk/politics/2010 ... d-gay-cure

Un o 'sêr y dyfodol' ymhlith y Ceidwadwyr yw Philippa Stroud. Hi yw pennaeth y 'Centre for Social Justice', y felin drafod (thinktank) a sefydlwyd gan Iain Duncan Smith, cyn arweinydd y Ceidwadwyr, ac mae hi, mae'n debyg, wedi dylanwadu'n drwm ar bolisiau cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr.

A beth yw ei safbwynt ar bobl hoyw? Mae hi'n credu mai diafoliaid y tu mewn iddyn nhw sy'n eu gwneud nhw'n hoyw, ac mai gweddio drostyn nhw yw'r ffordd i'w hiachau. Falle mai dyma fydd polisi'r Llywodraeth Geidwadol o fewn mis.

Guto Bebb, Alun Cairns, ac ymgeiswyr eraill y Ceidwadwyr yng Nghymru - dyma'r math o blaid ry'ch chi'n rhan ohoni, felly ai dyma'r math o bolisiau ry'ch chi eisiau eu gweithredu?

Da chi, peidiwch a chredu bod y Ceidwadwyr wedi newid.

Re: Y Ceidwadwyr vs Pobl Hoyw

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2010 7:28 pm
gan Seonaidh/Sioni
Iwan Rhys a ddywedodd:A beth yw ei safbwynt ar bobl hoyw? Mae hi'n credu mai diafoliaid y tu mewn iddyn nhw sy'n eu gwneud nhw'n hoyw, ac mai gweddio drostyn nhw yw'r ffordd i'w hiachau.

Rw i'n sicr bydd na rai ohonom ni'n gweddio am ganlyniad yr etholiad... Weithiau rw i'n credu mai diafoliaid tu mewn iddyn nhw sy'n eu gwneud nhw'n Doriaid...

Re: Y Ceidwadwyr vs Pobl Hoyw

PostioPostiwyd: Sad 18 Medi 2010 11:51 am
gan Blewyn
Iwan Rhys a ddywedodd:Guto Bebb, Alun Cairns, ac ymgeiswyr eraill y Ceidwadwyr yng Nghymru - dyma'r math o blaid ry'ch chi'n rhan ohoni, felly ai dyma'r math o bolisiau ry'ch chi eisiau eu gweithredu?


Ia dyna chdi, mae cred grefyddol un aelod o'r blaid yn golygu mai dyma yw polisi y blaid yn gyfan. Go dda wan....

Re: Y Ceidwadwyr vs Pobl Hoyw

PostioPostiwyd: Sad 18 Medi 2010 12:07 pm
gan nicdafis
Wedi cymryd 4 mis a hanner i ti benderfynnu bod yn grac am hyn, Blewyn?

Re: Y Ceidwadwyr vs Pobl Hoyw

PostioPostiwyd: Sad 18 Medi 2010 4:35 pm
gan Josgin
Efallai am eu bod yn coleddu syniadau fel hyn mae pobl yn pleidleleiso trostynt.