Tudalen 1 o 2

CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2010 8:58 am
gan ceribethlem
Oedd unrhywun arall yn cyfogi wrth weld y ddau yma yn siarad ar lawnt Stryd Downing?

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Iau 13 Mai 2010 8:18 pm
gan Chickenfoot
Dim mwy na'n dw i'n taflu fyny ychydig yn fy ngheg pan mae Mandelson neu Harperson ar y teledu.

Dw i jest ym miffed bod nhw ddim wedi meddewl am handshake cwl i neud ar ddechrau ac ar ddiwedd bob cynhadledd i'r wasg eto.

Mae ymateb y Mirror i'r newyddion yma wedi bod yn hollol pathetig - pwyso'r panic button go iawn.

Granted, mae'r Sun di mynd mynd dros ben llestri hefyd, ond i ddweud y gwir dw i'n falch boed y peth wedi'i datrys.

Dw i'm yn mynd i daflu'n tegannau o'r pram fel mae llawer o gefnogwyr Llafur wedi gwneud. Mae'r Ceidwadwyr wedi ennill - deal with it.

Mae'r ffaith bod gwnnym arweinwr o'r enw Dave yn achos i ddathlu. Wel mae o i fi beth bynnag.

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2010 7:05 am
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:Dim mwy na'n dw i'n taflu fyny ychydig yn fy ngheg pan mae Mandelson neu Harperson ar y teledu.

Dyw Mandelson a Harperson ddim yn giglo fel ddau gariad ifanc ydyn nhw. Hwnna fi ddim yn lico am Callmedave a Nick. Mae'r gigls yn rhoi delwedd o ddiffyg sylwedd sylweddol.

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2010 8:38 am
gan SerenSiwenna
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Dim mwy na'n dw i'n taflu fyny ychydig yn fy ngheg pan mae Mandelson neu Harperson ar y teledu.

Dyw Mandelson a Harperson ddim yn giglo fel ddau gariad ifanc ydyn nhw. Hwnna fi ddim yn lico am Callmedave a Nick. Mae'r gigls yn rhoi delwedd o ddiffyg sylwedd sylweddol.


Ha ha, ia, alla i ddim penderfynnu pam fod nhw'n actio fel hyn: A'i gan ei bod nhw mor awkward ac yn cerdded o hamgylch ei gilydd ar egg shells yn cogio hoffi'i gilydd, ac felly yn ei gor-wneud hi; yntau mae nhw di byta gormod o Haribo's mewn midnight feast draw yn rhif 10 ac mae nhw ar perma-sugar-rush; neu, yda'n nhw wir morpenwag a mae nhw'n ymddangos, a jest yn syrthio mewn cariad a'i gilydd a la Cruise a cruz ar set Vanilla Sky?

Mandelson yn reit cwl actiwli and you gotta love him for the "And give me some of that Guacaole" gan pwyntio at y mushy peas tra'n cofio fod yn 'man of the people' :lol: :lol: :lol:

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2010 1:08 pm
gan Chickenfoot
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Dim mwy na'n dw i'n taflu fyny ychydig yn fy ngheg pan mae Mandelson neu Harperson ar y teledu.

Dyw Mandelson a Harperson ddim yn giglo fel ddau gariad ifanc ydyn nhw. Hwnna fi ddim yn lico am Callmedave a Nick. Mae'r gigls yn rhoi delwedd o ddiffyg sylwedd sylweddol.



Mae gweld y ddau ohonyn nhw'n giglo fel cariadon neu plant ysgol drwg neu beth bynnag yn neud i fi cherwrthin. Mae'n diddanu fi. Tydi Mandy a Harperson ddim - maen nhw'n creepy fuckers nad yw'n cynnig unrhyw adloniant.

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2010 3:37 pm
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Dim mwy na'n dw i'n taflu fyny ychydig yn fy ngheg pan mae Mandelson neu Harperson ar y teledu.

Dyw Mandelson a Harperson ddim yn giglo fel ddau gariad ifanc ydyn nhw. Hwnna fi ddim yn lico am Callmedave a Nick. Mae'r gigls yn rhoi delwedd o ddiffyg sylwedd sylweddol.



Mae gweld y ddau ohonyn nhw'n giglo fel cariadon neu plant ysgol drwg neu beth bynnag yn neud i fi cherwrthin. Mae'n diddanu fi.
Diddanu, mewn ffordd Ant a Decaidd, dyw e' ddim yn llenwi dyn a hyder am y pum mlynedd nesaf. Fi ddim ishe gweld y gwleidyddion sydd ar fin rhewi fy nghyflog yn ymddwyn fel diddanwyr, neu gariadon ifanc. Cyfog-time eto.
Chickenfoot a ddywedodd:Tydi Mandy a Harperson ddim - maen nhw'n creepy fuckers nad yw'n cynnig unrhyw adloniant.
Yn hollol. Mae'n nhw'n siarad am bethau o sylwedd (cytuno gyda'u safbwynt ai peidio), dyn nhw ddim yna i'n diddanu.

OS yw rhywun am diddanu ni, wedyn gwneud twat o'u hunain ar X-ffactor neu rhyw bollocs cyffelyb yw'r ateb, nid dod yn brif (neu ddiprwy brif) wenidog.

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2010 8:15 pm
gan Nanog
ceribethlem a ddywedodd: Fi ddim ishe gweld y gwleidyddion sydd ar fin rhewi fy nghyflog yn ymddwyn fel diddanwyr, neu gariadon ifanc. Cyfog-time eto.


Ar fin rhewi dy gyflog? Ei ostwng glei. Rwyt ti'n gweithio yn y sector gyhoeddus ac wedi cael blynyddoedd o fyw'n fras ar draul y sector breifat. A fi'n gwybod.......a ti'n gwybod......dyna beth sy'n gwneud ti i gyfogi! Hen flas diflas ar 'reality sandwich'. :winc:

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2010 8:57 pm
gan Chickenfoot
dyn nhw ddim yna i'n diddanu


Wel, doeddwn i ddim yn ceisio agrymwu eu bod nhw, one mae ychydig o adloniant anfwriadol yn bonus fach mae'r byd mewn gymaint o stad.
'Sa gwellhad neu ddau yn well one dydi hynna fddim am ddigwydd yn fuan nacdi?

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2010 9:22 am
gan ceribethlem
Nanog a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: Fi ddim ishe gweld y gwleidyddion sydd ar fin rhewi fy nghyflog yn ymddwyn fel diddanwyr, neu gariadon ifanc. Cyfog-time eto.


Ar fin rhewi dy gyflog? Ei ostwng glei. Rwyt ti'n gweithio yn y sector gyhoeddus ac wedi cael blynyddoedd o fyw'n fras ar draul y sector breifat. A fi'n gwybod.......a ti'n gwybod......dyna beth sy'n gwneud ti i gyfogi! Hen flas diflas ar 'reality sandwich'. :winc:

:lol:
Wedi nal i :winc:

Re: CallmeDave a Nick Clegg

PostioPostiwyd: Sad 15 Mai 2010 11:13 am
gan Nanog
:)

Mi ddywedais i wrth y bwrdd bwyd noswaith o'r blaen i rai aelodau o'r teulu i fod yn ofalus....beidio mynd i ddyled, ceisio safio tamed o arian rhag ofn bydd rhywun yn colli swydd. Dywedodd un ohonynt fy mod yn 'Mr Gloom'. Mae llawer yn meddwl fydd pethau yn mynd yn ol i'r norm yn gyflym iawn......ond efallai taw y blynyddoedd diwethaf oedd y rhai oedd yn anghyffredin ac wedi mynd o'r norm. Dyna yw fy marn i. Pob lwc i bawb.

Ac mae Cameron a Clegg yn gwneud i mi gyfogi....yn yr un modd a'r muppets gynt. :(