Re: CallmeDave a Nick Clegg
Postiwyd: Sad 15 Mai 2010 11:22 am
Nanog a ddywedodd::)
Mi ddywedais i wrth y bwrdd bwyd noswaith o'r blaen i rai aelodau o'r teulu i fod yn ofalus....beidio mynd i ddyled, ceisio safio tamed o arian rhag ofn bydd rhywun yn colli swydd. Dywedodd un ohonynt fy mod yn 'Mr Gloom'. Mae llawer yn meddwl fydd pethau yn mynd yn ol i'r norm yn gyflym iawn......ond efallai taw y blynyddoedd diwethaf oedd y rhai oedd yn anghyffredin ac wedi mynd o'r norm. Dyna yw fy marn i. Pob lwc i bawb.
Ac mae Cameron a Clegg yn gwneud i mi gyfogi....yn yr un modd a'r muppets gynt.
Mae'n nhw'n neud i fi gyfogi mewn ffordd hollol wahanol i unrhyw wleidyddion o'r blaen!
Odd un o'r ConDems ar y teledu bore 'ma, ac fe wnath hi ryw analogy am stad ariannol Prydain a cherdiau credyd. H.y. fod rhaid talu'r cerdiau credyd bant neud bydd y llog yn codi'n ormodol. Bolycs o analogy yw hyn wrth gwrs gan fod posib symud y ddyled o un cerdyn credit at un arall i fanteisio ar y 3-6 mis o ddiffyg llog bob tro!