Tudalen 1 o 2

Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Gwe 20 Awst 2010 2:38 pm
gan Nanog
Oes gan y clown Brown unrhyw beth o werth i'w ddweud? Byddech chi'n fodlon talu arian i wrand arno'n araethu?

Gordon Brown signs up for $100,000 speaking engagements
Former PM will break House of Commons silence by going on lecture circuit


http://www.guardian.co.uk/politics/2010 ... ngagements


Yn wir, beth sy'n digwydd yn yr hen fyd 'ma? :?

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Sad 21 Awst 2010 4:43 pm
gan dawncyfarwydd
Beth ydi'r broblem? Mae yna bobol yn fodlon talu llawer o arian am areithiau. Mae cyn-brif weinidogion yn gallu gofyn am swm go deidi. Ddylai Brown beidio ceisio gwneud arian er mwyn sicrhau dyfodol ariannol ei deulu? Dydw i ddim yn hoffi Blair na Brown ond beth ar y ddaear sy'n bod ar dderbyn arian gan bobl sy'n dymuno iddyn nhw siarad efo nhw?

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Llun 23 Awst 2010 5:18 pm
gan Nanog
dawncyfarwydd a ddywedodd:Beth ydi'r broblem? Mae yna bobol yn fodlon talu llawer o arian am areithiau. Mae cyn-brif weinidogion yn gallu gofyn am swm go deidi. Ddylai Brown beidio ceisio gwneud arian er mwyn sicrhau dyfodol ariannol ei deulu? Dydw i ddim yn hoffi Blair na Brown ond beth ar y ddaear sy'n bod ar dderbyn arian gan bobl sy'n dymuno iddyn nhw siarad efo nhw?


Dwi ddim yn meddwl y bydd dyfodol ariannol teulu un o gyn brif-weinidogion Prydain yn un llai na llewyrchus. Trachwant. Ond beth sydd yn gwneud i mi benronni yw fod pobol yn fodlon talu arian i wrando arnynt. Beht fydd Brown yn traethu amdano? Sut mae ennill etholiadau? Na. Sut mae peidio trin economi'r wlad.......efalle? Sa i'n gwybod.....Ond rwy'n gwybod am un peth.....mae gwell pethau gyda fin i wneud gyda fy arian na talu i wrando ar y ddau twlsyn 'na.

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2010 5:27 pm
gan Sioni Size
Does dim byd yn bod yn sylfaenol ar rywun yn cael ei dalu am siarad, ond ella fod y cefndir a'r pynciau i'r areithiau hyn yn haeddu golwg fanylach.

Pedlodd Brown a Blair gelwydd llwyr i gyfiawnhau ymosod ar wlad a meddianu ei adnoddau, gan arwain at farwolaeth dros filiwn o'i thrigolion a'i dinistr. Bellach mae Blair yn cael £100,000 yr araith, a mae'n rhyfedd gweld nad oes unrhyw hysbysebion o'r areithiau yma. Does na'm posteri fel 'Tony Blair - Theatr Harlech am un noson yn unig' i'w gweld. Mae fel petai yr holl areithiau yma'n ffordd o 'wobrwyo' Tony am ryw ffafrau yn y gorffennol efallai heb i'r holl beth fod yn frwnt mewn unrhyw fodd amlwg.

A beth fydd pwnc nesaf Mr Blair?
The former prime minister is to earn more than £200,000 at twin international conferences in Singapore and Kuala Lumpur next month – speaking about how to become a success and make lots of money


Wel, ma hynna'n hawdd. Ewch yn arweinydd plaid, sathrwch unrhyw egwyddor oedd gan y blaid honno i'r baw, enillwch etholiad, ewch am fwyd gyda rhai o gwmniau mawr y byd, gwnewch yn union be mae America eisiau achos mae nhw'n nabod pobl gyfoethog iawn, helpwch ym mhob ffordd bosib i ddechrau rhyfel er budd y cwmniau mawr a'r Americanwyr yma, gadewch y parti pan mae'n amlwg fod yr holl beth `arwain y wlad` digri ma am fynd yn ffliwt, dechreuwch gwmniau 'consyltio' er mwyn dosbarthu eich gwybodaeth eithriadol a di-duedd o'r ffordd i wneud arian mewn llefydd fel Afghanistan ac Irac...

If anyone knows about making money, it is Mr Blair. It emerged last week that he kept secret for nearly two years payment for advice to an oil firm with drilling interests in Iraq, as well as a £1m deal to advise the Kuwaiti royal family.

The committee finally published details last week. His work took his earnings since quitting Downing Street in July 2007 to an estimated £20m, which includes the £4.6m deal for his book, The Journey, to be published in September. While Mr Blair's office denied that the advice to UI Energy was related to its work in Iraqi oilfields, the revelation fuelled concerns that he is using his contacts as Middle East envoy to enrich himself.


....ac i'r rhai na sy'n medru talu drwy'r llyfrau yn y modd confensiynol i gymryd mantais o'ch cysylltiadau gwefreiddiol yn y farchnad newydd yma ella byddech yn medru gwneud araith bach mewn cinio ar `sut i wneud arian`, a wedyn bydd y cyfrifydd, a'r dyn treth, yn hapus. Hawdd.

Felly nagoes, does dim byd sylfaenol yn bod ar rywun yn derbyn gwahoddiad i siarad mewn cynhadledd. A mae'r bwyd yn neis iawn bid siwr.
http://www.independent.co.uk/news/people/news/the-blair-rich-project-1924797.html
http://www.dailymail.co.uk/news/article-1224190/Inside-Blair-Inc-Complex-web-official-duties-secretive-private-companies-business-deals-make-life-No-10-lucrative.html

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2010 9:20 pm
gan Nanog




Siarad am Bliar.....wythnos wedi iddo ddatgan i'r byd fod yr arian byddai'n dod o'i hunan-gofiant yn mynd i'r Llen Brydeining, fe wnaeth e gofrestri rhyw fath o fanc yn Mayfair......ond yn dawel iawn yn tro hwn.

ON Diolch Sioni am dy bost. Diddorol ac rwy'n cytuno pob gair heb law am na dy fod yn meddwl ei fod yn wrthun i gyn brif weinidog fynd o gwmpas y byd yn gwneud arian mawr ar drau ei gyn swydd oedd yn un breintiedig. Mi ddylai fod 'na reolau yn erbyn hyn.

Rwyf yn synnu nad oes neb arall wedi ymateb yma. Rhaid eu bod yn galaru am weld cefnau NuLabour. Rwyf innau'n galaru, nid am weld eu cefnau, ond o wynebu blynyddoedd o drybini economaidd sy'n ein diwgwyl o'u hachos.

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2010 10:24 pm
gan Duw
Gall wneud be mae e ishe. Gwynt teg ar ei ol e. Diddorol gwnaeth neb wrando arno wrth iddo geisio adeiladu llywodraeth, ond nawr mae pobol yn barod i dalu i wrando arno. Wyndran os neiff e alw enwe ar y bobol wrth iddo fynd i'w gar ar ddiwedd y noswaith. Oes wir ots gan unrhyw un? :rolio:

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2010 2:10 am
gan ceribethlem
Fel mynte Duw, os oes pobol yn fodlon talu i wrando ar y boi, pob lwc iddo fe. Bydden i ddim yn talu yn bersonol.

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2010 12:29 pm
gan Sioni Size
Pan ti'n dweud fod pobl yn fodlon talu Ceri, pwysy'n cael y cynnig? Ges di gynnig? Welis di hysbyseb yn rywle? Nid y `farchnad` sy'n gyrru hyn. Does na'm hyrwyddwyr ar y ffon yn haslo Tony a Gordon fyth a beunydd i wneud eu stand yp.

Ddrwg gen i Nanog, bod yn goeglyd oeddwn wrth ddweud nad oes dim byd sylfaenol yn bod ar hyn, yn ddiweddglo sbeitlyd blin. Mae Brown hefyd yn ddyn ffiaidd er mor bathetig ac yr un mor anaddas i dderbyn cildyrnau fel hyn, ond yn anffodus iddo ef nid yn gymaint o superstar a Tony. Er, o ran egwyddor, efallai na fyddai dim byd yn bod ar rywun fel Ghandi i siarad yn gyhoeddus, neu Evo Morales i enwi un o'r rhai byw prin fyddai'n deilwng, ond mae'r gwahaniaeth amlwg y byddai'r ddau hynny yn siarad i bwrpas ac achos yn hytrach nag am £200,000.

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Maw 31 Awst 2010 1:58 pm
gan Duw
Ffili gweld y broblem. Falch na wnes i gael cynnig i fod yn onest. Mae hwn yn non-issue i mi.

Re: Bliar a nawr Brown

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2010 4:31 pm
gan Sioni Size
Dyna fo. Ond efallai, neu efallai ddim, y byddi'n gweld problem hefo hyn.
O bapur ei gyfaill a'i gyd-entrepreneur Rupert Murdoch:
TONY BLAIR has been cashing in on his contacts from the Iraq conflict and his role as Middle East peace envoy for a private business venture expected to earn him more than £5m a year.

The former prime minister has sold his political and economic expertise to two countries, Kuwait and the United Arab Emirates, via his fledgling private consultancy. He also represents the investment bank JP Morgan in the region.

Blair has been working in the Middle East as a peace envoy while amassing a fortune from the American lecture circuit. His consultancy, the London-based Tony Blair Associates (TBA), emulates the New York partnership Kissinger Associates, which was founded by Henry Kissinger, the former national security adviser to President Nixon. One friend of Blair said: “TBA has been set up to make money from foreign governments and major companies. There’s a focus on the Middle East, because that’s where the money is.”

His expanding business interests as he roves across the Middle East means he flips his roles on a daily basis in official meetings: one hour, he is the official peace envoy meeting a Middle East minister or ruler; the next, he is a representative of TBA or JP Morgan.

http://www.timesonline.co.uk/tol/news/uk/article6879436.ece

Mae TB associates wedi bod yn derbyn arian mawr gan bobl sydd am fanteisio ar fwyngloddio yn Affganistan hefyd.