Does dim byd yn
bod yn sylfaenol ar rywun yn cael ei dalu am siarad, ond ella fod y cefndir a'r pynciau i'r areithiau hyn yn haeddu golwg fanylach.
Pedlodd Brown a Blair gelwydd llwyr i gyfiawnhau ymosod ar wlad a meddianu ei adnoddau, gan arwain at farwolaeth dros filiwn o'i thrigolion a'i dinistr. Bellach mae Blair yn cael £100,000 yr araith, a mae'n rhyfedd gweld nad oes unrhyw hysbysebion o'r areithiau yma. Does na'm posteri fel 'Tony Blair - Theatr Harlech am un noson yn unig' i'w gweld. Mae fel petai yr holl areithiau yma'n ffordd o 'wobrwyo' Tony am ryw ffafrau yn y gorffennol efallai heb i'r holl beth fod yn frwnt mewn unrhyw fodd amlwg.
A beth fydd pwnc nesaf Mr Blair?
The former prime minister is to earn more than £200,000 at twin international conferences in Singapore and Kuala Lumpur next month – speaking about how to become a success and make lots of money
Wel, ma hynna'n hawdd. Ewch yn arweinydd plaid, sathrwch unrhyw egwyddor oedd gan y blaid honno i'r baw, enillwch etholiad, ewch am fwyd gyda rhai o gwmniau mawr y byd, gwnewch yn union be mae America eisiau achos mae nhw'n nabod pobl gyfoethog iawn, helpwch ym mhob ffordd bosib i ddechrau rhyfel er budd y cwmniau mawr a'r Americanwyr yma, gadewch y parti pan mae'n amlwg fod yr holl beth `arwain y wlad` digri ma am fynd yn ffliwt, dechreuwch gwmniau 'consyltio' er mwyn dosbarthu eich gwybodaeth eithriadol a di-duedd o'r ffordd i wneud arian mewn llefydd fel Afghanistan ac Irac...
If anyone knows about making money, it is Mr Blair. It emerged last week that he kept secret for nearly two years payment for advice to an oil firm with drilling interests in Iraq, as well as a £1m deal to advise the Kuwaiti royal family.
The committee finally published details last week. His work took his earnings since quitting Downing Street in July 2007 to an estimated £20m, which includes the £4.6m deal for his book, The Journey, to be published in September. While Mr Blair's office denied that the advice to UI Energy was related to its work in Iraqi oilfields, the revelation fuelled concerns that he is using his contacts as Middle East envoy to enrich himself.
....ac i'r rhai na sy'n medru talu drwy'r llyfrau yn y modd confensiynol i gymryd mantais o'ch cysylltiadau gwefreiddiol yn y farchnad newydd yma ella byddech yn medru gwneud araith bach mewn cinio ar `sut i wneud arian`, a wedyn bydd y cyfrifydd, a'r dyn treth, yn hapus. Hawdd.
Felly nagoes, does dim byd sylfaenol yn bod ar rywun yn derbyn gwahoddiad i siarad mewn cynhadledd. A mae'r bwyd yn neis iawn bid siwr.
http://www.independent.co.uk/news/people/news/the-blair-rich-project-1924797.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-1224190/Inside-Blair-Inc-Complex-web-official-duties-secretive-private-companies-business-deals-make-life-No-10-lucrative.html