I fod yn deg efo'r Bonwr Edwards, fe oedd (fel ei dad) ac y mae(?) yn gefnogwr brwd o Y Byd. Gobaith am ddewis llawer gwell mewn siop bapur na'r blincin Telegraph! Dim ildio!! Mae'r ffordd y mae Golwg360 wedi jesd postio'r newyddion yma mewn ffordd ddi-fflach heb fymryn o "ongl" ddifyr yn hollol chwerthinllyd a pathetig. Paham ddiawl nad yw hi'n bosibl i ni ymateb a phostio neges ar waelod y stori?
Weles i deitl yr edefyn yma, ac edrych ynddi yn disgwyl gweld trafodaeth difyr am y gwahaniaeth rhwng hemoglobin wedi'i ocsidio, a hemoglobin wedi'i rhydwytho
Roedd e'n amlwg i finne ers sawl blwyddyn taw fel hyn y byddai Huw Edwards yn datblygu. Brit yw e bellach. Fel meddai'r Cymro......Murray the Hump....."Mae gan pawb ei brys" a Cardi yw Edwards ond de fe!