Tudalen 1 o 2

Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 10:53 am
gan Dili Minllyn
Wedi bod yn darllen hunan-gofiant NIgel Farage Fighting Bull ac wedi fy siomi ar yr ochr orau. Fel llawer o bobl, bues i'n cymryd mai twmffat o'r radd flaenaf oedd Farage (ac yntau a'i blaid yn enwog am alw am ddiddymu'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi pwyllgor o Aelodau Seneddol yn ei le, ymhlith pethau eraill). Fel mae'n digwydd, boi hynod ddifyr yw e, a'i lyfr yn hynod onest (yn wahanol i'r rhan fwyaf o hunan-gofiannau).

Yn y bôn, libertarian Torïaidd yw e, yn hoff o gael llonydd i fwynhau ei ddewis pleserau. Fel Tori hen-ffasiwn, mae'n frwd iawn dros sefydliadau "organig" (fel cyfansoddiad anysgrifenedig Prydain, a mesur pethau mewn moddfeddi a throedfeddi). Mae e'n ffraeth iawn hefyd wrth dynnu ambell flewyn o drwynau hunan-bwysigion yr Undeb Ewropeaidd.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion, mae'n weddol o onest am faint y gall gwleidyddion ei wneud i wella'r byd: "It's going to be pretty much the normal shitty mess, but we'll muddle through and try to keep it as fair and as much fun as possible."

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 2:15 pm
gan Josgin
Sylw diddorol.Mae'n gyson gydag argraff a gefais mewn sawl hunan-gofiant gwleidyddol yn ystod y 90au. Yr oedd Ceidwadwyr yn aml yn hedonistaidd, ac yn ymhyfrydu mewn hynny - dyddiaduron Alan Clarke oedd yr enghraifft eithafol o hynny. Nid oeddent yn gwneud unrhyw gyfrinach o'r ffaith eu bod yn mwynhau bywyd i'r eithaf. Tybiaf fod Boris Johnson yn etifedd i'r math yma o agwedd . Yn sgil hynny , yr oeddent yn gymeriadau mwy diddorol, ond anatyniadol(Jonathan Aitken a Jeffrey Archer hefyd ).
Yr oedd gwleidyddion y blaid Lafur , ar y llaw arall, yn bores llwyr o ran eu personoliaeth. Yr oeddent yn bobl oedd wedi llwyr ymroi i'w gwaith a'u hegwyddorion , ac felly gyda tueddiad i fod yn hunan-gyfiawn a diflas ( Ken Livingstone, Gordon Brown a Tony Benn , er enghraifft ) . Cofiaf rhywun yn disgrifio'r gwahaniaeth mawr rhwng dawnsfeydd gwyllt yr 'Young Conservatives ' , a chynadleddau Stalinistaidd y Sosialwyr ifanc . Mae eithriadau - Mae Roy Hattersley yn un amlwg . Yng Nghymru, meddylier am y gwahaniaeth rhwng asbri a lolian Guto Bebb a clones llwyd gwleidyddol -gywir Plaid Cymru.
Mae rhai'n gallu bod yn ddiflas , hunan-gyfiawn a di-egwyddor - Peter Hain .
Un eithriad amlwg i'r uchod oedd Margaret Thatcher. Gyda'i chefndir piwritanaidd anghydffurfiol, yr oedd ei hagwedd at fywyd yn gyffredinol yn un hen-ffasiwn. Ni chredaf i neb ei chyhuddo erioed o fyw bywyd di-egwyddor . I'r gwrthwyneb. Serch hynny , yr oedd ei hagwedd tuag at yr economi a dad-ffrwyno cyfalafiaeth yn creu amodau addas i bobl fel Archer ac Aitken wneud fel y mynnant , gan symud tir canol gwleidyddiaeth mor bell i'r dde fod gwr fel Tony Blair yn gallu cael ei ethol fel prif wenidog ar ran y blaid Lafur.

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 3:32 pm
gan Rhobert Ap Wmffre
Diddorol iawn darllen y sylwadau yma am wleidyddion Prydain o safbwynt America, lle mae angen i bron bob wleidydd ymddangos yn foesol, yn grefyddol ac yn "lân" ei fywyd personol. Mae 'na eithriadau, wrth gwrs, ac weithiau mae pleidleiswyr yn maddau iddynt am wendidau personol. Rhaid cyfadde dwi heb ddarllen llyfrau Sarah Palin na Barack Obama chwaith. Mae personoliaeth ac areitheg enynnol Palin yn fy niflasu, ac mae hi'n dweud pob math o gelwydd fyddai'n anghyfreithlon ym Mhrydain oherwydd cyfreithiau enllib. Beth bynnag, dwi'n nabod pobl sy'n ei charu gan ei bod yn "fam gyffredin."
Rwy'n cofio rhywun yn y Guardian yn ei chymharu hi â Thatcher, ond does dim cymhariaeth. Er fy mod yn anghytuno'n llwyr â bron popeth a wnaed gan y "Ddynes Haearn," ac ideoleg y Torïaid yn gyffredinol, gallaf gyfadde bod Magi yn wleidydd deallus ac egwyddorol. Ni allwn ddweud hynny byth am Palin, ond er y tueddaf i gefnogi polisïau Obama, dwi ddim yn siwr y gallaf ei ddysgrifio fel dyn hollol onest ac egwyddorol ychwaith. Credaf fod ennill etholiadau trwy apelio at bobl nad yw'n agored eu meddyliau (ar ddwy ochr) yn bwysicach na llywodraethu yng ngwleidyddiaeth America. :rolio:

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 5:55 pm
gan Dili Minllyn
Josgin a ddywedodd:Tybiaf fod Boris Johnson yn etifedd i'r math yma o agwedd.

Mae Johnson wedi dweud mai un gwahaniaeth rhwng Torïaid a sosialwyr yw bod Torïaid yn mwynhau bywyd. Mae fel llyfr John O'Farrell Things Can Only Get Better, lle mae criw o fyfyrwyr Llafur yn penderfynu bod gwenu yn asgell-dde.

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 6:52 pm
gan Josgin
Yr union lyfr !

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 8:41 pm
gan Chickenfoot


Dw i'n eitha ffan o Nige - yn bennaf gan mai dim ond ar Question Time dw i wedi'i weld am amryw swm sylweddol o amser, a 'doedd o ddim am son am bolisiau dadleuol ar fanna, siwr o fod.

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 10:02 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Daw Nigel Fromage frais yn wreiddiol o Wlad Belg a gogledd Ffrainc. Dadlennol :D

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2010 12:08 pm
gan Josgin
Chwalu fy namcaniaeth am Sosialwyr sychdduwiol - Tommy Sheridan ! .

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Sad 26 Chw 2011 9:41 am
gan Dili Minllyn
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Daw Nigel Fromage frais yn wreiddiol o Wlad Belg a gogledd Ffrainc. Dadlennol :D

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaint, glywais i (yn ymyl cartref Charles Darwin). Efallai fod enw'r teulu'n Ffrengig. Yn ddifyr, mae Farage ei hunan yn mynnu ei ynganu yn "Ffarej" i odli gyda "garej".

Dwi'n gweld bod Mr Farage wedi bod ar Mumsnet a dod mas yn fyw. Roedd y drafodaeth yn cynnwys un datganiad diddorol ganddo: "On the subject of a single British culture, this is something that was quoted in a UKIP manifesto/policy document last year, and which I think was pretty unhelpful. Hands up, we got it wrong."

Josgin a ddywedodd:Un eithriad amlwg i'r uchod oedd Margaret Thatcher. Gyda'i chefndir piwritanaidd anghydffurfiol, yr oedd ei hagwedd at fywyd yn gyffredinol yn un hen-ffasiwn. Ni chredaf i neb ei chyhuddo erioed o fyw bywyd di-egwyddor . I'r gwrthwyneb. Serch hynny , yr oedd ei hagwedd tuag at yr economi a dad-ffrwyno cyfalafiaeth yn creu amodau addas i bobl fel Archer ac Aitken wneud fel y mynnant...

Yn hyn o beth, mae'n werth darllen hwn gan Michael Gove yn honni bod y Thatcheriaid yn rhan o'r traddodiad punk.

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Sad 26 Chw 2011 10:39 am
gan Nanog
Dili Minllyn a ddywedodd:Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaint, glywais i (yn ymyl cartref Charles Darwin).



Pratts Bottom?