Tudalen 2 o 2

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Sad 26 Chw 2011 2:13 pm
gan Dili Minllyn
Nanog a ddywedodd:Pratts Bottom?

Agos iawn. Mae'n hannu o Downe, rhyw 4 milltir o Pratts Bottom.

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Sad 26 Chw 2011 4:20 pm
gan Cynfael
Dili Minllyn a ddywedodd:
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Daw Nigel Fromage frais yn wreiddiol o Wlad Belg a gogledd Ffrainc. Dadlennol :D

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaint, glywais i (yn ymyl cartref Charles Darwin). Efallai fod enw'r teulu'n Ffrengig. Yn ddifyr, mae Farage ei hunan yn mynnu ei ynganu yn "Ffarej" i odli gyda "garej".


Wi'n meddwl wi'n cofio 'na yn sgwrs ar y teledu mae e wedi dweud maen'n gyfenw Huguenot

Re: Llyfr annisgwyl o ddifyr Nigel Farage

PostioPostiwyd: Sul 27 Chw 2011 10:39 am
gan Dili Minllyn
Cynfael a ddywedodd:Wi'n meddwl wi'n cofio 'na yn sgwrs ar y teledu mae e wedi dweud maen'n gyfenw Huguenot

Perffaith iddo fe - hannu o garfan fuodd yn gorfod ffoi o'r Cyfandir oherwdd gormes unffurfiaeth Ewropeiadd. :winc: