Ed Milliband a pharadocs gwaelodol y Blaid Lafur

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ed Milliband a pharadocs gwaelodol y Blaid Lafur

Postiogan Dili Minllyn » Llun 28 Maw 2011 7:11 pm

Mae Ed Miliband wedi cael ei feirniadu am ei eiriau wrth y dyrfa yn Llundain Dydd Sadwrn, ac ni ddylai hynny ein synnu.

Credaf fod ei sefyllfa ef yn tynnu sylw at baradocs gwaelodol y Blaid Lafur, sef ei bod yn rhan o'r mudiad llafur, ond yn gorfod drwy'r amser dangos mor barchus a di-berygl ydyw, ac felly ymbellhau oddi wrth weddill y mudiad. Gwelwyd hyn pan gafwyd streic gan aelodau Unite (un o brif gyllidwyr y Blaid Lafur) yn British Airways yn 2010. Yn lle cefnogi'r undeb a'i streic, rhaid oedd ei Gordon Brown eu condemnio'n hallt.

Yn anad dim, mae rhaid i Lafur ymbellhau oddi wrth bob dim sy'n awgrymu torcyfraith neu drais. Ond dyna Ed Miliband yn gosod trap iddo'i hunan yn ei araith yn Llundain:

The suffragettes, who fought for votes for women and won. The civil rights movement in America that fought against racism and won. The anti apartheid movement that fought the horror of that system and won.”

Dyna dri mudiad, wrth gwrs, a arferai dorcyfraith a anfudd-dod sifil. Yn achos y mudiad yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, trowyd yn y diwedd at drais yn Ne Affrica ei hunan; ac buodd y swffrgetiaid wrthi'n chwalu ffenestri a gosod bomiau er mwyn ennill y blaidlais. Dyma'r union dactegau sy'n gwbl wrthun i bleidwyr dulliau seneddol, cyfansoddiadol fel y mae Llafur i fod. Rhywsut, roedd Miliband yn temilo ei bod yn iawn iddo ganmol y rhai a dorrodd y gyfraith yn gorffennol, ond wrth gwrs bu'n gorfod condemnio'r rhai a fu'n chwalu ffenestri Ddydd Sadwrn diwethaf.

Os edrychwn ni ar enghraifft hanesyddol arall, cyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2010, cyhoeddodd Llafur y fideo yma yn camol gwrth-Ffasgwyr Brwydr Cable Street. Ar y pryd yn 1936, roedd Llafur yn awyddus i gadw pellter mawr rhyngddi hi a'r Comiwnyddion ac Iddewon a geisiai rwystro Ffasgwyr rhag gorymdeithio trwy ddwyrain Llundain trwy eu peledu nhw efo brics a photeli. Gallwch fod yn siwr erbyn hyn, tasai rhywun yn arfer y fath dactegau treisgar yn erbyn y BNP ni fyddent yn cael eu canmol a'u cefnogi gan Lafurwyr.

Roedd Miliband Ddydd Sadwrn yn trio chwarae'r ffon ddwybig, trwy fod yn arweinydd plaid gyfansoddiadol barchus, ac ar yr un pryd yn ceisio ei gysylltu ei hunan gyda thraddodiadau o wrthryfel a gwrthdystio anghyfreithlon. Roedd yr anghysondeb yn weddol amlwg i'w weld.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Ed Milliband a pharadocs gwaelodol y Blaid Lafur

Postiogan Cynfael » Sul 03 Ebr 2011 12:55 pm

Yn Wir, yr economi ar hyn o bryd yw ddrwg iawn a bobl yn colli waith yw ddim yn dda ond i defnyddio'r hanes fel Apartheid yn dde Africa ac y Civil Rights yn America i gymharu i'r toris yw anghyfartal iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cynfael
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 22 Rhag 2010 2:30 pm
Lleoliad: Caer, Lloegr

Re: Ed Milliband a pharadocs gwaelodol y Blaid Lafur

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 12 Ebr 2011 8:53 pm

Beth am gymhariaeth efo 80au? Rydyn ni wedi bod yma (mwy no lai) o'r blaen...trychinebus.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron