Tudalen 1 o 1

Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2011 12:35 am
gan Sioni Size
...the fiercely ambitious Huw Edwards is resisting any idea of sharing the role. "Huw has been swotting up for ages on the names of royal children and foreign dignitaries" says a BBC insider. "He is a devoted monarchist, and has met Prince Charles on several occasions."

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2011 6:17 am
gan Josgin
Bradwr. Dic Sion Dafydd.

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2011 7:23 am
gan ceribethlem
Sioni Size a ddywedodd:...the fiercely ambitious Huw Edwards is resisting any idea of sharing the role. "Huw has been swotting up for ages on the names of royal children and foreign dignitaries" says a BBC insider. "He is a devoted monarchist, when it comes to improving his C.V., and has met Prince Charles on several occasions."

Wedi trwsho hwnna i ti.

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2011 8:27 am
gan nicdafis

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2011 12:43 pm
gan ceribethlem
Mae'n stori am ddim mewn gwirionedd (y rhan am Huw Edwards h.y.), mae'r boi yn gorfod dweud ei fod yn freniniaethwr er mwyn cael y jobyn. Pe bai'n dweud ei fod yn weriniaethwr pybyr, bydden nhw'n rhoi'r jobyn i rywun arall. Yn anffodus mae'r rhglen yn mynd i ddenu lot fawr o wylwyr, ac felly bydd yn codi proffil Huw Edwards.

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2011 4:04 pm
gan Nanog
Dwi'n cofio Betty George yn siarad am Hywel Teifi Edwards a dwi'n meddwl ateb i gwestiwn am beth oedd yn gwylltio'r Athro. Meddai hi......"Y Prydeindod 'ma........!" :? Fel y dywedais sawl blwyddyn nol nawr bellach ar Maes-e.......mae Huw bach wedi gadael y bywyd bras yn Llundain fynd i'w ben. Ond mae hyn yn weddol cyffredin ymysg y cyfryngis....felly dyle ni ddim fod yn rhy galed arno.

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Gwe 22 Ebr 2011 6:44 pm
gan Josgin
Anochel yw dweud fod yr Arglwydd Dwmffat Ellis-Thomas yn brysur crafu i'w frenhines hefyd.

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ebr 2011 4:33 pm
gan Nanog
Roeddwn i'n meddwl efalle fy mod wedi myn dros ben llestri uchod ond mae ambell un arall yn teimlo'n debyg.

I'm a Repuplican get me out of here.
I'm off to the hills walking today to avoid the forelock tugging rubbish on the Television. My only fear is that it will not be a case of solitary complementation as there probably be hundreds doing the so thing. It will be worth it to avoid Huw Edwards what would Hywel Tefi have thought of his son mouthing such sycophantic claptrap?


http://nationalleft.blogspot.com/2011/0 ... -here.html

Re: Yn yr Independent am Huw Edwards...

PostioPostiwyd: Llun 02 Mai 2011 7:13 pm
gan Seonaidh/Sioni
Hwre! Rwi'n falch o weld hynny! Ddydd Gwener es innau ar y tren hyd Amgueddfa Werin yr Ucheldiroedd (Taigh-tasgaidh Sluagh na Gàidhealtachd) a threuliais i ddiwrnod diddorol yno, ymhell oddi wrth yr holl gyfryngau torfol ac ati. Mae'n safle gwych os byddwch chi yn yr ardal (Bail' Ùr an t-Slèibh, ar yr A9 rhwng Perth ac Abernis).