Tudalen 1 o 2

Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 8:18 am
gan ceribethlem
Yn ol Radio Cymru, mae heddiw yn cael ei adnabod fel "Worse off Wednesday". Roeddent yn ceisio meddwl am term Cymraeg, eu ymgais hwy oedd Mercher Miniog. Roeddwn i'n meddwl bydde Merchyll yn swno'n well. Beth yw eich barn chi?

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 9:35 am
gan Hogyn o Rachub
Be ydio yn y lle cynta?

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 11:21 am
gan ceribethlem
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Be ydio yn y lle cynta?

Yr enw mae'r cyfryngau wedi ei bennu am heddiw oherwydd fod toriadau'r toriaid yn cymryd effaith o heddiw mlaen. Bydd y mwyafrif ohonom ar ein colled o heddiw.

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 1:25 pm
gan Hogyn o Rachub
Dydd Mercher shit felly.

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 4:08 pm
gan obi wan
Dydd Mercher Main

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 4:58 pm
gan sian
obi wan a ddywedodd:Dydd Mercher Main


Da!

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 5:37 pm
gan ceribethlem
obi wan a ddywedodd:Dydd Mercher Main

Wedi golygu'r pol piniwn i gynnwys hwn!

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2011 8:14 pm
gan ceribethlem
Yn anffodus mae newid y pol piniwn yn golygu fod y pledleisiau blaenorol wedi diflannu!

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 2:11 am
gan Hen Rech Flin
Mae ceisio talfyrru’r gair Mercher i Merch braidd yn hurt, gan fod ystyr cyflawn i Merch fel gair ynddi hun. Merch hyll yw hogan sy' ddim yn olygus iawn - nid dydd Mercher anffodus.

Dydd Mercher Mawrddrwg!

Re: Merchyll neu Mercher Miniog?

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 7:24 am
gan ceribethlem
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae ceisio talfyrru’r gair Mercher i Merch braidd yn hurt, gan fod ystyr cyflawn i Merch fel gair ynddi hun. Merch hyll yw hogan sy' ddim yn olygus iawn - nid dydd Mercher anffodus.

Dydd Mercher Mawrddrwg!

Fi ddim yn newid y pol eto! Cyfuno Mercher ac erchyll oedd y bwriad, nid merch hyll :lol: