Tudalen 1 o 1

AV ie neu Na?

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 9:33 am
gan Griff-Waunfach
Dwi eisioes wedi pleidleisio yn y referendum, ac Ie oedd fy marn i. Beth yw'ch barn chi?

Re: AV ie neu Na?

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 10:52 am
gan Cynfael
Fydda i ddim yn bleidleisio. Y ddau ie a nage yw annheg!

Re: AV ie neu Na?

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 12:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Rhaid i mi gyfaddef 'sgen i ddim math o farn ar hyn o bryd. Dwi'n gwbod bod y system gyfredol yn annheg ond eto mae'r bleidlais amgen yn gostus, yn gymhleth iawn ac yn anghyfrannol. Dwi'm yn gwybod pa ffordd i bleidleisio os i wneud o gwbl.

Re: AV ie neu Na?

PostioPostiwyd: Sul 24 Ebr 2011 6:00 pm
gan ceribethlem
Does dim teimlad cryf iawn gen i'r naill ffordd na'r llall. Fi'n credu fyddai'n mynd am yr Ie, achos fi'n credu fod e'n bryd newid pethe. Mae apathy mawr mewn etholiadau, yn rhannol (efallai) gan fod cymaint o bobl yn teimlo mai gwastraff byddai pleidleisio.

Re: AV ie neu Na?

PostioPostiwyd: Maw 26 Ebr 2011 10:21 pm
gan Seonaidh/Sioni
Bues i erioed o blaid AV. Ond dwi ddim yn ystyried mod i'n mynd i bleidleisio o gwbl yn y refferendwm - ddim yn credu ynddynt. Be fyddai o'i le wrth codi Bil AV yn y Senedd beth bynnag? Pam nadyn nhw wedi gwneud hynny? Nhw sy'r gwleidyddion etholedig - caru neu gasau - eu swydd hwy ydy gwneud cyfreithion. Oedd na refferendwm pan newidiasan nhw y ffordd o bleidleisio mewn etholiadau Ewrop? Neu pan newidiasan nhw'r ffordd o bleidleisio mewn etholiadau lleol yn yr Alban? Nad oedd, ac ni ddylasai fod.