Tudalen 1 o 1

Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 7:55 am
gan Nanog
http://www.dailymail.co.uk/news/article ... ds-newsxml

Mae David Cameron wedi bygwth teuluoedd sy'n disgwyl i'r treth-dalwr i dalu am eu plant drwy dderbyn fudd-daliadau.

Rhai ystadegau:

Mae bron i 100,00 o'r rhai sydd ar fudd-daliadau gyda pedwar neu fwy o blant;

Mae dros 900 o'r uchod gyda o leia 8 o blant.


"Anhygoel!" dywedaf i. Mae'n hen bryd i fynd i'r afael a'r broblem yma. Beth ydych chi'n meddwl?

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 8:16 am
gan Josgin
Cytuno. Mae 30 mlynedd o fod yn athro, a gweld anghyfrifoldeb a barusrwydd rhieni, wedi fy nhroi yn erbyn bydd-daliadau dibendraw.

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2011 9:21 pm
gan Seonaidh/Sioni
Anghytuno. Bydd y plant o gwmpas beth bynnag: ai eu gweld nhw'n newynu's eisiau?

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Maw 14 Meh 2011 5:58 am
gan Josgin
Wnaiff nhw ddim os yw eu rhieni'n blaenoriaethau eu gwariant. Yr oedd pobl ers talwm yn gweld y gwahaniaeth rhwng 'angen' ac 'eisiau' . Mae miloedd o bobl yng
Nghymru wedi eu cyflyrru gan y blaid Lafur i feddwl fod 'eisiau' yn gyfystyr a 'hawl i' .

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Mer 15 Meh 2011 4:39 am
gan Blewyn
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Anghytuno. Bydd y plant o gwmpas beth bynnag: ai eu gweld nhw'n newynu's eisiau?

Mi fyddan nhw allan yn llnau stepan drws pobl am fechdan bell cyn newynu. Reit handi.

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2011 3:35 pm
gan Seonaidh/Sioni
Sums it up rili, Blewyn - basai Cameron yn falch iawn ohonoch chi.

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Gwe 18 Ion 2013 8:41 pm
gan Gwenci Ddrwg
Yr oedd pobl ers talwm yn gweld y gwahaniaeth rhwng 'angen' ac 'eisiau' . Mae miloedd o bobl yng
Nghymru wedi eu cyflyrru gan y blaid Lafur i feddwl fod 'eisiau' yn gyfystyr a 'hawl i' .

Cytuno'n llwyr. Mae angen cymorth i bobl mewn trafferth difrif, ond mae gormod ohonon nhw'n elwa oddi wrth y system er mwyn osgoi fod yn gyfrifol. Fodd bynnag, os ydy'r plant yn bodoli eisoes, be 'di'r pwynt eu cosbi nhw am droseddau eu rhieni?
Sums it up rili, Blewyn - basai Cameron yn falch iawn ohonoch chi.

Ah, felly os ydy Cameron yn cefnogi rhywbeth, ti'n gwybod mai peth draw ydy o. Dwi'n hoffi dy resymeg.

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Gwe 18 Ion 2013 10:08 pm
gan rhiannon548
Ar ol gweithio mewn ysgol ers sawl blwyddyn fe welaf nad y plant sydd yn gweld gwerth y budd daliadau di-ben draw yma. Yn aml gwelwch fod y plant yn mynd heb sawl peth gan gynnwys pethau sylfaenol e.e. bwyd digonol a dillad addas tra bod y rieni yn gyrru o gwmpas mewn ceir crand, yn byw mewn tai moethus, gyda'r smartphones diweddaraf, yn ysmygu ac yn mwynhau noswaith allan ar ol noswaith allan dro ar ol tro. Mae'r plant yn derbyn brecwast am ddim wedi eu hariannu gan y llywodraeth, ciniawau am ddim yn yr ysgol ac yn cael te naill ai am ddim neu am bris rhad mewn clwb ar ol ysgol, sydd yn golygu mai ond ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol mae angen i'r rhieni dalu am fwyd iddynt.
Os ydy'r rhieni yma yn byw mewn ardal difreintiedig yn aml maent yn derbyn gofal plant am ddim o'r crud sydd yn golygu fod y plant yn cael mynychu meithrinfa ddydd am ddim unwaith maent yn cael ei geni er bod eu rhieni adref. Y rhieni yma gan amlaf yw'r rhai sydd yn gwneud y swae fwyaf pan mae ysgol yn cau oherwydd eira neu ddigwyddiadau tebyg.
Hefyd y mae nifer o bobl yn datgan eu bont yn byw arwahan tra mewn gwirionedd maent yn byw fel cwpwl gydag un oedolyn yn defnyddio cyfeiriad gwahanol. Fodd bynnag mae hyn yn anodd i'w brofi a does neb yn codi ael pan maent yn cael mwy a mwy o blant er eu bont yn byw arwahan.
Cytunaf a helpu bobl sydd a gwir angen am y cymorth ariannol gwerthfawr yma ond mae gormod o bobl yn cam ddefnyddio'r system a mae'r niferoedd uchel o gamddefnyddwyr wedyn yn sbwylio'r peth i bobl sydd wir ei angen.
Fy ddywedodd Mam erioed y buasai hi wedi hoffi cael pedwar o blant, fodd bynnag doedd hi na'n Nhad ddim a incwm uchel felly fe stopion nhw ar ddau gan na fyddent yn gallu fforddio mwy yn gyfforddus. Efallai ei bod hi'n bryd i'r bobl sydd yn hawlio'r budd-daliadau cymryd dalen o'u llyfr nhw.

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Sad 19 Ion 2013 4:25 am
gan Hen Rech Flin
Mae'r rhai sy'n credu bod modd elwa o'r sustem budd-daliadau trwy gael nifer mawr o blant yn gwybod dim am y sustem budd-daliadau ac yn gwybod dim am gost magu plant.

Mae yna problem ddemograffig fawr yng ngwledydd y gorllewin sy'n cael ei achosi gan bobl yn planta'n hwyr ac yn methu magu digon o blant. Mae mamau yn eu harddegau a'r rhai sy'n cael teuluoedd mawr yn gwneud cymwynas gymdeithasol, hebddynt byddai'r balans demograffig yn llawer llawer gwaeth nag ydyw.

Re: Cameron yn bygwth teuluoedd 'anghyfrifol'

PostioPostiwyd: Sad 19 Ion 2013 3:25 pm
gan ceribethlem
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r rhai sy'n credu bod modd elwa o'r sustem budd-daliadau trwy gael nifer mawr o blant yn gwybod dim am y sustem budd-daliadau ac yn gwybod dim am gost magu plant.

Mae yna problem ddemograffig fawr yng ngwledydd y gorllewin sy'n cael ei achosi gan bobl yn planta'n hwyr ac yn methu magu digon o blant. Mae mamau yn eu harddegau a'r rhai sy'n cael teuluoedd mawr yn gwneud cymwynas gymdeithasol, hebddynt byddai'r balans demograffig yn llawer llawer gwaeth nag ydyw.

Yn anffodus dyw ffeithiau ddim yn berthnasol ar gyfer y Daily Heil type ranters.