Tudalen 1 o 1

O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Sul 12 Chw 2012 7:16 pm
gan Chickenfoot
http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-devon-16980025

Fel rywun sydd yn gorfod sefyll fel lemon pan mae'r ofergoeliaeth hyn rywsut yn derbyn parch, dw i'n feddwl bod y datblygiad yma'n un ddiddorol iawn.
Dw i bron i aros yn fy nghadair sawl gwaith pan mae offeiriad/cynghorydd yn gofyn am gymorth rywbeth na all neb profi er mwyn gwbeud penderfyniadau, ond byth wedi cael y guts i neud.

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Sul 12 Chw 2012 7:17 pm
gan Chickenfoot
Hang on, wnes i cock up yn nheitl yr edefyn, yn do :wps:

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2012 1:52 pm
gan Duw
Blydi Cristnogion - llwytho'u hofergoelion lawr llwnc y gweddill ohonom ni eto. Da iawn y Barnwr weda i, ond yn sicr, i mi, mae'n fater parch, nid y gyfraith. Gallwn ddychmygu beth fyddai ymateb rhai cynghorwyr Cristnogol os oedd gweddiau Islamaidd yn cael eu galw mewn ardaloedd lle roedd mwyafrif o Fwslemiaid ar y cyngor. :seiclops:

Dyle crefydd fod yn rhywbeth personol, neu'n cael ei ddathlu mewn addoldai, yn hytrach na heintio'r byd secwlar.

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2012 7:33 pm
gan Chickenfoot
Y tro nesaf mae'n rhaid i fi mynychu cyfarfod, dw i am eistedd trwy'r weddi. Grrr, dw i'n rebel! :winc: Ti'n feddwl y bydd unrhyw gyngor yn talu sylw i'r dyfarniad?

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Iau 16 Chw 2012 11:30 pm
gan Duw
Gwell iddyn nhw neu byddant yn torri'r gyfraith. Does neb tu hwnt i'r gyfraith, gan gyfri Duw. :)

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Gwe 17 Chw 2012 12:06 am
gan Seonaidh/Sioni
Mae duw tu hwnt i'r gyfraith. (Ddim Mr. Duw sy'n postio yma...) Pam? Naill ai does 'na ddim duw ac felly fydd cyfraith ddim yn berthnasol, neu mae duw hollalluog yn bodoli ac fyddai hi/o ddim yn hollalluog petai o dan y gyfraith.

Ac beth ydi'r pwrpas o geisio gwthio'r hollalluog ar anghredinwr? Ym marn i, mae'r bobl sy'n meddwl felly - meddwl y dylai gweddiau fod yn rhan o fusnes y cyngor ayyb - yn dangos diffyg credu ymysg eu hunain.

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Gwe 17 Chw 2012 9:46 am
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:Y tro nesaf mae'n rhaid i fi mynychu cyfarfod, dw i am eistedd trwy'r weddi. Grrr, dw i'n rebel! :winc: Ti'n feddwl y bydd unrhyw gyngor yn talu sylw i'r dyfarniad?

Gweddïa, gan ofyn "Ein tad, pam y Duck billed platypus, pam? Amen"

Re: O Arglwydd, rhoddom i ni cynghorion eich bendith

PostioPostiwyd: Sad 18 Chw 2012 12:24 am
gan Chickenfoot
It's evolution, baby.