Tudalen 1 o 1

RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Llun 08 Ebr 2013 3:19 pm
gan Chickenfoot
Mae'r jociau wedi dechrau'n barod, ond dw i'n anghyffyrddus iawn hefo'r syniad o ddilorni hen ddynes hefo dementia.
Er gwaethaf effaith ei pholisiau, a barn llawer o bobol amdani, dw i'm yn feddwl 'roedd hi eisiau dinistrio bywydau.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Llun 08 Ebr 2013 7:55 pm
gan RhiannonEleri
A oedd hi'n anghyffyrddus yn dilorni'r dosbarth gweithiol yn ystor yr 80au? Dwi'n eithaf siwr nad oedd hi'n poeni ei bod yn dinistrio bywydau y milwyr a lladdwyd ar ynysoedd y Falklands na'r glowyr a cafodd eu sarhau i'r eithaf.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Llun 08 Ebr 2013 8:31 pm
gan Hen Rech Flin
Does neb yn dilorni hen ddynes efo dementia (na chwaith yn clodfori hen ddynes efo dementia). Mae'r ffaith bod Mrs Thatcher wedi cael dementia yn ei henaint yn gwbl amherthnasol i'r coffa am dani.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Sul 14 Ebr 2013 9:50 am
gan ceribethlem
Cytunaf yn llwyr gyda'r Hen Rech Flin.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Sul 14 Ebr 2013 2:45 pm
gan Josgin
Nid yw beirniadu rhywun yn syth ar ol iddynt farw yn gywerth a'i gwatwar. Ni fuaswn yn ei beirniadu am ryfel y Malfinas - cofier mai'r Archentwyr oedd y cyntaf i ddefnyddio arfau, ac felly ymateb y gwnaeth i sefyllfa. Fy meirniadaeth i fuasai ei pharodrwydd ynfyd i gael gwared o'r diwydiant cynhyrchu ym Mhrydain, sydd yn cael effaith andwyol ar ein gallu i werthu nwyddau dramor heddiw. Yr oedd y polisi ar werthu tai cyngor yn wallus, gan na chaniatawyd adeiladu tai newydd. Un peth hurt yw mai ei gwir etifedd oedd Tony Blair - gwr sydd a llawer mwy o waed ar ei ddwylo, ac oedd llawer llai egwyddorol.
Yr oedd Mrs Thatcher yn ddynes anrhydeddus a charedig tu hwnt yn bersonol, ond dwry ei pholisiau fe lwyddodd i greu naws anonest a hunanol oedd yn hollol ddirgroes i werthoedd anghydffurfiol ei thad.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Sul 14 Ebr 2013 8:14 pm
gan Chickenfoot
Digon teg. Ar y llaw arall, 'roedd safbwyntiau Nigel Farage yn y Sun heddiw yn gweund i fi deimlo'n sal.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Sul 14 Ebr 2013 8:25 pm
gan Chickenfoot
Hen Rech Flin a ddywedodd:Does neb yn dilorni hen ddynes efo dementia (na chwaith yn clodfori hen ddynes efo dementia). Mae'r ffaith bod Mrs Thatcher wedi cael dementia yn ei henaint yn gwbl amherthnasol i'r coffa am dani.


Digon teg, Rhech, digon teg. Consider me chided. :ffeit: Jest gweld rhan o'r ymateb braidd yn hallt, gan fod y dynes rhoddod y polisiau dadleuol yn eu lle wedi marw ers blynyddoedd. Falla fy mod i'n feddalu yn fy henaint, ond roedd lot o'r jociau amdani'n son am ei dementia/stroc, a wnaeth hynna fy nharo i fel rywbeth anghywir i wneud.
Ar y llaw arall, fi soniodd am ei pholisiau yn ail linell y post a dyliwn i ddim wedi cymysgu'r ddau bwynt.

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Llun 15 Ebr 2013 5:05 am
gan Hen Rech Flin
Chickenfoot a ddywedodd:Digon teg, Rhech, digon teg. Consider me chided. :ffeit: Jest gweld rhan o'r ymateb braidd yn hallt, gan fod y dynes rhoddod y polisiau dadleuol yn eu lle wedi marw ers blynyddoedd. Falla fy mod i'n feddalu yn fy henaint, ond roedd lot o'r jociau amdani'n son am ei dementia/stroc, a wnaeth hynna fy nharo i fel rywbeth anghywir i wneud.
Ar y llaw arall, fi soniodd am ei pholisiau yn ail linell y post a dyliwn i ddim wedi cymysgu'r ddau bwynt.


Os wyt wedi clywed pobl yn lladd ar Mrs Thatcher oherwydd ei hoedran, ei hafiechyd, ei rhyw rwy'n hollol gytûn ei fod yn gwbl annerbyniol.

Yn bersonol nid ydwyf wedi clywed y fath sylwadau - ond wedi clywed rhai yn awgrymu mae dyna gefndir pob sylw negyddol amdani!

Rhag ofn bod unrhyw camddeall rwy'n casáu’r ffug coffa am ddynes iach, yn ei llawn bwyll, a achosodd niwed anfaddeuol ar gymunedau Cymru yn ystod ei phumdegau hwyr a'i chwedegau cynnar!

Re: RIP Maggie T

PostioPostiwyd: Llun 15 Ebr 2013 5:05 am
gan Hen Rech Flin
Chickenfoot a ddywedodd:Digon teg, Rhech, digon teg. Consider me chided. :ffeit: Jest gweld rhan o'r ymateb braidd yn hallt, gan fod y dynes rhoddod y polisiau dadleuol yn eu lle wedi marw ers blynyddoedd. Falla fy mod i'n feddalu yn fy henaint, ond roedd lot o'r jociau amdani'n son am ei dementia/stroc, a wnaeth hynna fy nharo i fel rywbeth anghywir i wneud.
Ar y llaw arall, fi soniodd am ei pholisiau yn ail linell y post a dyliwn i ddim wedi cymysgu'r ddau bwynt.


Os wyt wedi clywed pobl yn lladd ar Mrs Thatcher oherwydd ei hoedran, ei hafiechyd, ei rhyw rwy'n hollol gytûn ei fod yn gwbl annerbyniol.

Yn bersonol nid ydwyf wedi clywed y fath sylwadau - ond wedi clywed rhai yn awgrymu mae dyna gefndir pob sylw negyddol amdani!

Rhag ofn bod unrhyw camddeall rwy'n casáu’r ffug coffa am berson iach, yn ei llawn bwyll a achosodd niwed anfaddeuol ar gymunedau Cymru yn ystod ei phumdegau hwyr a'i chwedegau cynnar! Dydy ei rhyw, y ffaith ei bod wedi byw dros oed yr addewid na'r ffaith ei bod wedi dioddef afiechydon hyll yn lliniaru dim ar ei chyfraniad cas