RET79 :
Felly yw chi am weld Cymru hefo byddin ei hun? Gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un byddin wedi'r cyfan ynys ydym ni.
ia, siwr iawn, ac mae'n gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un iaith yn unig - wedi'r cyfan, ynys ydym ni.
A be am fyddin i America, Canda, Mexico, Brazil, Ariannyn, Cuba, Ecuador etc etc? Wedi'r cyfan ynys ydy nhw hefyd, un fawr ella, ond ynys!
A be am fyddin i Ynys Mon? Ac i Ynys Manaw? Be am Ynys Enlli, di nhw isho byddin?
Ma na lot o resyma i chdi ddefnyddio dros cal byddin Brydeinig RET, di'r ffaith bo ni'n ynys ddim yn un!!.
Am Ewrop mater o ddyfalu ydio faint o lais fasa gan Gymru fel gwlad. Wrth i'r Undeb symyd at QMV (Qualified Majority Voting) ma'r gwledydd bach yn gallu uno ar bolisiau i drechu'r rhai mawr. Ar y funud mond yn y petha bach ma hyn yn digwydd, ma'r 'cewri' yn cadw ei veto ym mhob man sensetif, ond gyda pob treaty newydd ma na fwy a mwy o QMV yn cael ei ddefnyddio. Wrth bledleisio fel yma ma ganddo ni lawer mwy o bwer fel gwlad unigol all ddewis ei ffrindia na fel rhanbarth o Brydain.
Am Peter Hain, paid bod mor ddwl. Wrth eistedd yn y senedd mae'n siarad dros Nedd. Ond y funud mae'n siarad ar UNRHYWBETH i'w wneud a'i swydd (neu swyddi fel mai erbyn hyn, 3 ohony nhw!) siarad dros y llywodraeth Lafur mae o, dyna holl bwrpas cabinet. Ac yn Ewrop yn SICR siarad dros Blair maeo. Doedd Hain erioed yn dewis be oedda ni yn ei wneud yn Ewrop, lawr i Blair ma'r dewis yna, a dydio DDIM yn gwrando ar Gymru.