Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 12:20 pm
gan Garnet Bowen
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Byddwn i'n dadlai y byddai Cymru a'r Alban fel gwledydd annibynol yn Ewrop yn medru dylanwadu yn llawer yn fwy effeithiol, a cheisio atebion at broblemau'r gwledydd yma yn llawer gwell fel aelodau cyflawn o'r Undeb Ewropeaidd.


Dwi'n meddwl mai cytuno i anghytuno fyddai galla. :)

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 3:17 pm
gan Hogyn o Rachub
Chris Castle a ddywedodd:Sut all darn o dir penderfynnu Polisiau darn o dir ei bod hi'n rhan ohoni?


Paid fod mor blydi ocward, Chris, ti'n gwybod yn iawn be dwi'n feddwl gyda beth ddwedish i. Nid oes gan Gymru fawr o lais. Pe fyddai pobl Cymru yn pleidleisio o blaid yr Ewro, er engrhaifft, a mwyafrif yn Lloegr yn erbyn, mi fyddai gynnon ni'r Ewro. Rheolaeth dros ein gwlad ein hun yw'r unig ffordd y byddai hyn yn wahanol.

Ac ydan, mi rydan ni'n cael ein rheoli gan Loegr, Garnet. Mae hynny'n glir i unrhywun sy'n fodlon agor ei lygaid.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 3:34 pm
gan garynysmon
Dwi'n ffendio hi'n anodd coelio fod unrhyw Gymro yn credu ein bod yn cael chwarae teg yn y 'status quo' rydym ynddi ar hyn o byd. Sut all unrhyw Gymro eistedd yn ol a dweud nid ydym angen sedd yn yr Undeb Ewopeaidd ac yn y U.N?. Wrth gwrs ein bod ei angen!! Sut allwn alw ein hunain yn wlad hebddynt?. Yntau ydiach yn fodlon i fod yn 'region' o Brydain/Loegr Chris Castle a Garnet Brown?. Ar ddiwedd y dydd, Prydeindod yw Saesnigrwydd.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 7:39 pm
gan RET79
Felly yw chi am weld Cymru hefo byddin ei hun? Gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un byddin wedi'r cyfan ynys ydym ni.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 8:15 pm
gan Aran
RET79 a ddywedodd:Felly yw chi am weld Cymru hefo byddin ei hun? Gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un byddin wedi'r cyfan ynys ydym ni.


ia, siwr iawn, ac mae'n gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un iaith yn unig - wedi'r cyfan, ynys ydym ni.

diolch i Dduw bod yna bobl sy'n barod i ymwrthod y ffasiwn sense...

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 8:31 pm
gan Cwlcymro
RET79 :
Felly yw chi am weld Cymru hefo byddin ei hun? Gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un byddin wedi'r cyfan ynys ydym ni.


ia, siwr iawn, ac mae'n gwneud lot mwy o sense i Brydain gael un iaith yn unig - wedi'r cyfan, ynys ydym ni.


A be am fyddin i America, Canda, Mexico, Brazil, Ariannyn, Cuba, Ecuador etc etc? Wedi'r cyfan ynys ydy nhw hefyd, un fawr ella, ond ynys!

A be am fyddin i Ynys Mon? Ac i Ynys Manaw? Be am Ynys Enlli, di nhw isho byddin?

Ma na lot o resyma i chdi ddefnyddio dros cal byddin Brydeinig RET, di'r ffaith bo ni'n ynys ddim yn un!!.


Am Ewrop mater o ddyfalu ydio faint o lais fasa gan Gymru fel gwlad. Wrth i'r Undeb symyd at QMV (Qualified Majority Voting) ma'r gwledydd bach yn gallu uno ar bolisiau i drechu'r rhai mawr. Ar y funud mond yn y petha bach ma hyn yn digwydd, ma'r 'cewri' yn cadw ei veto ym mhob man sensetif, ond gyda pob treaty newydd ma na fwy a mwy o QMV yn cael ei ddefnyddio. Wrth bledleisio fel yma ma ganddo ni lawer mwy o bwer fel gwlad unigol all ddewis ei ffrindia na fel rhanbarth o Brydain.

Am Peter Hain, paid bod mor ddwl. Wrth eistedd yn y senedd mae'n siarad dros Nedd. Ond y funud mae'n siarad ar UNRHYWBETH i'w wneud a'i swydd (neu swyddi fel mai erbyn hyn, 3 ohony nhw!) siarad dros y llywodraeth Lafur mae o, dyna holl bwrpas cabinet. Ac yn Ewrop yn SICR siarad dros Blair maeo. Doedd Hain erioed yn dewis be oedda ni yn ei wneud yn Ewrop, lawr i Blair ma'r dewis yna, a dydio DDIM yn gwrando ar Gymru.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 11:17 pm
gan RET79
Cwlcymro a ddywedodd:Ma na lot o resyma i chdi ddefnyddio dros cal byddin Brydeinig RET, di'r ffaith bo ni'n ynys ddim yn un!!.


Ti ddim wedi rhoi rheswm call pam fod fy rheswm i ddim yn gwneud synnwyr. Buasai cael tri army gwahanol i amddiffyn prydain ddim yn gwneud llawer o synnwyr.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 10:52 am
gan Cwlcymro
Yn rehswm 'call' iydi os sa chdi'n defynddio'r dull yna o benderfynnu rownd y byd mi fysa na fyddin i bob ynys. Byddin i Iwerddon i gyd?
Ma na resyma pan ma Prydain yn wahanol, ac felly efo mwy o reswm dros gal byddin unedig. Ond fedra ni'm mynd o gwmpas yn deud dylsa pob ynys gal byddin unedig nadran?

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 12:12 pm
gan Hogyn o Rachub
Hynny A'R pwynt PAM ddyliai Cymru cael byddin bethbynnag? Niwtraliaeth fuasai mwya delfrydol, siwr?

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 5:44 pm
gan Chris Castle
Niwtraliaeth fuasai mwya delfrydol, siwr?


Megis Tibet?