Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 6:10 pm
gan RET79
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Hynny A'R pwynt PAM ddyliai Cymru cael byddin bethbynnag? Niwtraliaeth fuasai mwya delfrydol, siwr?


Buaswn i'n gobeithio fod gen prif weinidog y Cymru ti'n siarad am fwy o asgwrn cefn nag i fod yn neutral pan mae pobl o dan ormes mewn rhannau o'r byd yn sgrechian allan am help i gael gwared a'u arweinwyr drwg.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 1:15 am
gan garynysmon
Dyna yw swydd Nato. Dylia Cymru gael eu gwarchod gan yr U.N, does ddim angen gwastraffu arian ar fyddin enfawr a bomiau niwclear.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 9:21 am
gan Garnet Bowen
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Hynny A'R pwynt PAM ddyliai Cymru cael byddin bethbynnag? Niwtraliaeth fuasai mwya delfrydol, siwr?


Niwtraliaeth? Be, ymhob sefyllfa? Peidio a cael byddin, ac aros yn niwtral dim ots pwy ydi'r gelyn? Mae dy syniada di'n mynd yn fwy afreal fesul diwrnod.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:00 am
gan Hogyn o Rachub
Mae'n real ac yn bractegol. Pam wastio arian ar fyddin? Ella fod lle i rhyw warchodlu bychan, ond dyna'r oll. Cymru niwtral.

(A gyda llaw, lleisio barn y blaid rwyt ti a minnau'n aelodau ohoni ydw i)

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:09 am
gan Garnet Bowen
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n real ac yn bractegol. Pam wastio arian ar fyddin? Ella fod lle i rhyw warchodlu bychan, ond dyna'r oll. Cymru niwtral.

(A gyda llaw, lleisio barn y blaid rwyt ti a minnau'n aelodau ohoni ydw i)


Ella mod i'n aelod o'r blaid, ond tydi hynnu ddim yn meddwl mod i'n cytuno a hi ar bob dim.

Dwi'n meddwl fod niwtraliaeth yn lwfdra moesol, ac yn aml yn arwain at rywbeth lot fwy hyll. Edrych di ar y gwledydd niwtral yn ystod yr ail ryfel byd - Sbaen, Yr Iwerddon a'r Swisdir. Mi oedd 'na elfen gryf iawn o ffasgaeth yn bodoli, ac yn dal i fodoli, yn bob un o'r gwledydd hynny. Mae posib dadlau mai cefnogwyr Hitler a oedd yn rhy dlawd, llwfr, neu gwan i ochri efo fo yn agored oedd y dair gwlad.

Ac mi ydw i'n un sy'n credu'n gryf mewn byddinoedd, yn enwedig yn y cyd-destyn modern. Gwneud dim digon ydi methiant mwyaf byddinoedd heddiw - yn Srebrenica, Somalia a Rwanda yn ddiweddar, ac yn y Congo heddiw. Mae 'na gyfrifoldeb ar y gwledydd cyfoethog, grymus, i ddefnyddio eu cyfoeth a'u grym i helpu'r llai ffodus, a'r milwyr yn aml iawn ydi'r rhai sy'n gyfrifol am wneud hyn.

Dwi'n meddwl y bydd rhaid i mi ystyried yn ddwys cyn gyrru fy siec adnewyddu aelodaeth y Blaid.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 12:12 pm
gan Cwlcymro
Dwi'm yn siwr pa ochr i ochri a deud y gwir. Mewn byd delfrydol swn i'n licio meddwl nad oes angen byddin, ond ma'r byd ma'n bell o fod yn ddelfrydol.
Er mae prin iawn yw y siawns i Gymru ei hyn gael ei ymosod (gobeithio!) dyw hi ddim yn iawn i ddeud 'mi neith yr UN ein hamddiffyn ni'. Os ydy ni'n disgwyl cal help gan y Cenhedloedd Unedig yna mai ond yn deg i ni gyfrannu hefyd.

Ydy'r UN efo milwyr ei hyn, ta gwledydd sy'n rhoi rhai o'i milwyr nhw pan ma'r angen?
Os yr ail, bysa'n rhaid i Gymru rhoi milwyr os ydy nhw yn disgwyl yn deg i gal help os mewn trwbwl.

Yn y diwedd, er mor neis fysa gwlad heb un, dwi'n gweld bod angen ryw faint o fyddin.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 12:20 pm
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:Ydy'r UN efo milwyr ei hyn, ta gwledydd sy'n rhoi rhai o'i milwyr nhw pan ma'r angen?


Gwledydd sy'n cyfrannu milwyr, fel bo'r angen.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 12:45 pm
gan Cwlcymro
Diolch Garnet! :D

PostioPostiwyd: Maw 16 Rhag 2003 12:53 am
gan Iago2
A cofiwch mai Rhodri Morgan sydd wrth y llyw fan hyn!