Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Mer 05 Tach 2003 6:06 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:
Mae'n warthus bod yr Arglwydd Saville wedi dweud does dim hawl 'da McGuinness wrthod ateb rhai cwestiynau, ac i awgrymu bydd hyn yn tueddu effeithio ar farn y llys ynglyn â'i rôl yn nigwyddiadau'r Sul Gwaedlyd.


Yn amlwg mae Nic ishe gweld amnesti i'r IRA a 'truth and reconciliation commision' i'r llywodraeth Brydeinig yn unig.


Paid rhoi geiriau yn fy ngheg, plîs. Ddwedais i ddim byd o'r fath.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan pogon_szczec » Mer 05 Tach 2003 10:00 pm

Aled a ddywedodd:Dwi'm yn gweld dy bwynt Pogon.
Ma McGuinness wedi deud nad oedd gan neb o'r IRA arfau ar Bloody Sunday, a does neb wedi profi'n wahanol. Y cwbl ma McGuinness wedi gwrthod neud ydi 'incriminatio' bobl eraill oedd yn caniatau i arfau gael eu cadw yn eu tai ond nad oedd a dim i wneud a lladd y 14 person fu farw y dydd hwnnw.
14-0 oedd y sgor, pa mor glir tisho pethe fod?


Y cwestiwn yw pam ddechreuodd y Paras saethu.

A oedd rhywun yn saethu atynt?

A'r ateb i'r cwestiwn yw .......... Oedd

Tystiolaeth pwy .......... Ian Paisley?

Na, Daly, Esgob Londonderry (pabydd)

Felly y cwestiwn i 'Butcher's Boy' McGuiness, arweinydd IRA Londonderry y saithdegau cynnar yw a danniodd e'r dryll cynta a sbardinodd y gelanedd neu gorchymyn rhywun arall i'w wneud e?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Mer 05 Tach 2003 10:11 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:
Gymaint mae'r sefydliad Prydeinig gyda'i braich Propoganda, The British Broadcasting Corporation, wedi trio chwarae'r peth lawr a disgrifio'r digwyddiadau yn Ulster dros y blynyddoedd yn "Derfysgiaeth" - Rhyfel oedd e.


Bolycs llwyr.

Dwi di gweld rhaglenau dogfen a dramau gwrth-Brydeinig di-ri am Ogledd Iwerddon, dim un o safbwynt yr Unioliaethwyr.

Os taw rhyfel oedd e pam nad oedd yr IRA yn dilyn y Geneva Convention?

Fyddai'r fyddin Brydeinig wedi herwgipio, arteithio ac yna llofruddio Jean McConville, mam i ddeg er enghraifft?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan nicdafis » Mer 05 Tach 2003 11:59 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:A'r ateb i'r cwestiwn yw .......... Oedd


Rhaid fod e'n wir, mae e mewn coch. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Iau 06 Tach 2003 9:00 am

pogon a ddywedodd:Felly y cwestiwn i 'Butcher's Boy' McGuiness, arweinydd IRA Londonderry y saithdegau cynnar yw a danniodd e'r dryll cynta a sbardinodd y gelanedd neu gorchymyn rhywun arall i'w wneud e?


A'r ateb mae o wedi roi iddyn nhw ydi 'na' a 'na'. Pob rhyddid i ti beidio'i goelio fo Pogon, ond alli di'm deud fod o heb ei ateb nhw.

pogon a ddywedodd:Os taw rhyfel oedd e pam nad oedd yr IRA yn dilyn y Geneva Convention?

Fyddai'r fyddin Brydeinig wedi herwgipio, arteithio ac yna llofruddio Jean McConville, mam i ddeg er enghraifft?


Wyt ti wedi clywed am internment? Wyt ti wedi clywed am y cannoedd o Gatholigion a garcharwyd ac a arteithwyd gan fyddin Prydain heb unrhyw achos heblaw eu bod yn Gatholigion? Ac wrth gwrs yr 14 o bobl ddi-niwed a laddwyd ar 'Bloody Sunday' gan dy arwyr di-fai, gwynach na gwyn di.

Wbeth da'n y Telegraph/Mail/Sun bore ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan pogon_szczec » Iau 06 Tach 2003 9:33 am

Aled a ddywedodd:
pogon a ddywedodd:
A'r ateb mae o wedi roi iddyn nhw ydi 'na' a 'na'. Pob rhyddid i ti beidio'i goelio fo Pogon, ond alli di'm deud fod o heb ei ateb nhw.


Felly, celwyddgi yw'r llygad-dyst Daly Esgob Londonderry a welodd rywun yn saethu at y milwyr?

Os nag wyt ti'n credu ei dystiolaeth, tystiolaeth pwy fyddi di'n derbyn?

Ac os nad oedd y dyn yn aelod yr IRA, pwy oedd e.

Un o gefnogwyr Paisley 'falle?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cardi Bach » Iau 06 Tach 2003 9:36 am

pogon_szczecin a ddywedodd:
Os taw rhyfel oedd e pam nad oedd yr IRA yn dilyn y Geneva Convention?

Fyddai'r fyddin Brydeinig wedi herwgipio, arteithio ac yna llofruddio Jean McConville, mam i ddeg er enghraifft?


A dyw'r fyddin Brydeinig byth yn torri rheolau Geneva yn nagyn nhw...oh, hold on, Irac...cluster bombs...pryd odd hyn? 6 mis yn ol?

Ma 'buddigwyr' rhyfel o hyd yn dod bant gyda phob mathau o droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan pogon_szczec » Iau 06 Tach 2003 9:40 am

Gwnaeth Mihangel son am 'ryfel' yr IRA.

Pa ryfel mae'n son amdano? Y rhyfel yn erbyn bod yn fastards llwyr a fydd yn llosgi mewn uffern am byth?

Wel, maen nhw wedi colli'r brwydr 'na yn barod.

Cofia Jean McConville.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Mr Gasyth » Iau 06 Tach 2003 10:15 am

pogon a ddywedodd:Pa ryfel mae'n son amdano? Y rhyfel yn erbyn bod yn fastards llwyr a fydd yn llosgi mewn uffern am byth?


So ma gen ti 'direct line' efo Duw wan oes? Ma na swydd yn dod fyny'n y Fatican cyn hir, dos amdani.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Iau 06 Tach 2003 10:32 am

pogon_szczecin a ddywedodd:Gwnaeth Mihangel son am 'ryfel' yr IRA.

Pa ryfel. Y rhyfel yn erbyn bod yn fastards llwyr a fydd yn llosgi mewn uffern am byth?

Wel, maen nhw wedi colli'r brwydr 'na yn barod.

Cofia Jean McConville.


Pogon, os wyt ti am gario mlan am McConville, druan, beth am i fi gadw weud, Cofia 100,000 Dresden, cofia miliynnau...Irac, Sierra Leon, Affganistan, India, Pakistan, Bangladesh, Aotearoa, Awstralia, Ariannin...

Neu, i gadw at y pwnc falle dylen i weud,

Cofia:
Bernard McGuigan
Gerard V Donaghy
Hugh P Gilmore
John F Duddy
James McKinney
James J Wray
John P Young
Kevin McElhinney
Michael G Kelly
Michael M McDaid
Patrick J Doherty
William A McKinney
William N Nash
John Johnston
(http://www.bloodysundaytrust.org/eduevents.htm)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai