Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Postiogan pogon_szczec » Mer 05 Tach 2003 9:41 am

Linciau i rol allweddol a chwaraeodd llofruddiwr, aelod o gyngor llywodraethu'r IRA, a Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon Martin 'Butcher's Boy' McGuiness yn ddigwyddiadau Dydd Sul gwaedlyd.

http://www.guardian.co.uk/bloodysunday/ ... 00,00.html

http://www.telegraph.co.uk/news/main.jh ... blod06.xml

http://www.geocities.com/bloodysunday1972/news105.html
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cardi Bach » Mer 05 Tach 2003 9:46 am

diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan nicdafis » Mer 05 Tach 2003 10:07 am

Mae'r erthygl o'r Telegraph bron yn dair blwydd oed. Doedd hyn ddim yn glir i mi nes i mi orffen a darllen "President Bill Clinton's family will travel with him next week when he makes his third and final visit, while in office, to Ireland." Mae'r cyhuddiadau ynddi gan "Infliction" <a href="http://www.guardian.co.uk/print/0,3858,4181865-102285,00.html">wedi eu gwadu</a> gan filwr Prydeinig (erthygl o'r Observer, Mai 2001).

Mae'n warthus bod yr Arglwydd Saville wedi dweud does dim hawl 'da McGuinness wrthod ateb rhai cwestiynau, ac i awgrymu bydd hyn yn tueddu effeithio ar farn y llys ynglyn â'i rôl yn nigwyddiadau'r Sul Gwaedlyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Boris » Mer 05 Tach 2003 10:15 am

nicdafis a ddywedodd:Mae'n warthus bod yr Arglwydd Saville wedi dweud does dim hawl 'da McGuinness wrthod ateb rhai cwestiynau, ac i awgrymu bydd hyn yn tueddu effeithio ar farn y llys ynglyn â'i rôl yn nigwyddiadau'r Sul Gwaedlyd.


Dal dy ddwr Nic. Mae Sien Fein wedi galw am yr ymchwiliad hwn fel rhan o'r broses o adfer Cymdeithas Sifig yng Ngogledd Iwerddon. Heb onestrwydd am y gorffennol sut mae creu ffydd yn y dyfodol? Mae penderfyniad McGuinness i wrthod ateb cwestiynnau yn sarhad ar yr ymchwiliad ac yn sarhad ar y teuluoedd hynny sydd am wybod y gwir am 'Bloody Sunday'.

Beth fyddai dy agwedd tuag at aelod o'r Paras yn gwrthod ateb cwestiynnau? Gwahanol iawn fe dybiwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Chris Castle » Mer 05 Tach 2003 10:16 am

Beth bynnag roedd rôl yr IRA, wnaeth Paras ladd y gwerin pobl.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan pogon_szczec » Mer 05 Tach 2003 10:25 am

nicdafis a ddywedodd:
Mae'n warthus bod yr Arglwydd Saville wedi dweud does dim hawl 'da McGuinness wrthod ateb rhai cwestiynau, ac i awgrymu bydd hyn yn tueddu effeithio ar farn y llys ynglyn â'i rôl yn nigwyddiadau'r Sul Gwaedlyd.


Yn amlwg mae Nic ishe gweld amnesti i'r IRA a 'truth and reconciliation commision' i'r llywodraeth Brydeinig yn unig.

Rhaid i'r fyddin fod yn wynach na wyn, a sdim rhaid i'r IRA fod yn gyfrifol am ddim byd a wnaethon nhw.

Dyma sut mae'r cyfryngau'n delio a newydd o Ogledd Iwerddon.

Gobeithio bydd ymholiad llawn ynglyn a rol llofruddiwr arall, Beelzebub barfog Belfast ei hun, Gerry Adams, arwienydd IRA/Sinn Fein ym momio 'La Mon'.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Boris » Mer 05 Tach 2003 10:35 am

Chris Castle a ddywedodd:Beth bynnag roedd rôl yr IRA, wnaeth Paras ladd y gwerin pobl.


Falle wir, ond os y bu i'r IRA danio ar y fyddin a chreu ymdeimlad o fod dan ymosodiad onid yw hynny yn berthnasol i'r ymchwiliad?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Mr Gasyth » Mer 05 Tach 2003 4:44 pm

Dwi'm yn gweld dy bwynt Pogon.
Ma McGuinness wedi deud nad oedd gan neb o'r IRA arfau ar Bloody Sunday, a does neb wedi profi'n wahanol. Y cwbl ma McGuinness wedi gwrthod neud ydi 'incriminatio' bobl eraill oedd yn caniatau i arfau gael eu cadw yn eu tai ond nad oedd a dim i wneud a lladd y 14 person fu farw y dydd hwnnw.
14-0 oedd y sgor, pa mor glir tisho pethe fod?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 05 Tach 2003 5:18 pm

Boris a ddywedodd:
Chris Castle a ddywedodd:Beth bynnag roedd rôl yr IRA, wnaeth Paras ladd y gwerin pobl.


Falle wir, ond os y bu i'r IRA danio ar y fyddin a chreu ymdeimlad o fod dan ymosodiad onid yw hynny yn berthnasol i'r ymchwiliad?


Dyna be sy'n digwydd mewn Rhyfel.

Gymaint mae'r sefydliad Prydeinig gyda'i braich Propoganda, The British Broadcasting Corporation, wedi trio chwarae'r peth lawr a disgrifio'r digwyddiadau yn Ulster dros y blynyddoedd yn "Derfysgiaeth" - Rhyfel oedd e. Nid dau garfan crefyddol yn ymladd yn erbyn ei gilydd oedd hyn, ma hwnna yn rhy syml. Gweriniaethwyr yn ymladd yn erbyn yr Unoliaethwyr ac y Fyddin "Brydeinig".
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan nicdafis » Mer 05 Tach 2003 5:57 pm

Boris a ddywedodd:Beth fyddai dy agwedd tuag at aelod o'r Paras yn gwrthod ateb cwestiynnau? Gwahanol iawn fe dybiwn.


Yr un peth. Pam wyt ti'n cymryd y byddwn i'n rhoi hawliau sifil i aelod un fyddin ac nid i aelod byddin arall? :?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron