Aled a ddywedodd:Pogon, ti di iselhau dy hun i lefel is nag oeddwn i'n meddwl y buaset ti hyd yn oed yn gallu.
Ma dod ag Ian Brady i mewn i'r drafodaeth ac awgrymu rywsut fod yna debygrwydd rhwng ei weithredoedd o a'r marwolaethau yn sgil y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon yn, o fethu meddwl am air gwell, yn 'sick'. Mor 'sick' ddylwn i ddim ymateb, ond ti di gneud i fi deimlo mor sal a blin o'n i'n meddwl dylet ti gal gwbod.
Cywilydd arnat ti am fod yn barod i nofio yn y fath gachu.
Dwi'n ymddiherio os dwi wedi gwneud cam i Ian Brady trwy ei gymharu ag anifail mor ffiaidd a Martin McGuiness.
Yn wahanol i Aled a 'Comical Cardi' dwi'n gallu cyfiawnhau popeth dwi di sgwenu gyda ffeithiau.
Yn ei gyfnod fel O.C. yr IRA yn Sir Londonderry roedd McGuiness yn gyfrifol am farwolaethau 5 plentyn.
Kathryn Eakin (9)
Gordon Gallagher(9)
Bernadette McCool(9)
Carol Ann McCool (4)
Kathleen Feeny(14)
Doedd y plant uchod ddim wedi'u lladd mewn 'crossfire'. Roedd dau wedi'u lladd trwy osod 'incendiary device' yn eu cartref, dau arall mewn bom di-rybudd yn Claudy.
Cymharwch y gweithredau uchod gyda beth wnaeth y Paras. A oedd y plant uchod yn saethu at yr IRA cyn iddynt gael eu lladd?
Mae McGuiness yn gyfrifol am farwolaeth 37 Pabydd yn ystod yr un cyfnod, y rhan fwyaf yn 'suspected informers' . Yn wahanol i'r rhai cafodd eu lladd ar Ddydd Sul gwaedlyd yr oeddynt wedi'u saethu mewn gwaed oer, ac yr oeddynt wedi'u arteithio cyn iddynt farw.
Dwi ishe gweud rhywbeth o ddifri i Nic ac ychydig o bobl eraill ar y maes.
Mewn gwirionedd sdim ots gyda chi o gwbl mewn hawliau dynol.
Yr hawl mwyaf bwysig oll yw'r hawl i fyw, a dyw McGuiness a'u teip ddim yn poeni dim am hynny.
Trwy amddiffyn ei 'hawl' i fod yn weinidog chi'n sarhau y rhai cafodd eu lladd ganddo.
Cymharwch eich dicter pathetig ynglyn a Janet Street-Porter am weud ychydig o bethau twp, a dicter hollol dealladwy Protestaniaid Gogledd Iwerddon wrth weld 'mass murderer' fel eu gweinidog addysg.
A gyda llaw dim ond tu-hwnt i Ogledd Iwerddon y mae pobl naif ac anwybuddus yn cydnabod McGuiness yn bennaf fel 'y gweinidog addysg diwethaf' a nid 'the Butcher of the Bogside'. Pan gafodd ei apwyntio naeth plant gerdded maes o'u gwersi. Dyw e ddim erioed di bod mewn ysgol Protestanaidd (sef mwyafrif yr ysgolion y dalaith) . Fydd e byth yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif. Byth.