Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Tach 2003 8:45 am

Newt Gingrich a ddywedodd:Mae disgrifio Blair fel 'Butcher of Baghdad yn hurt


O, ffor ffycs sêc, <i>dyna oedd y pwynt</i>. Y pwynt oedd am sgorio pwyntiau gan ddefnyddio iaith hurt, un-deimensiwn, plentynaidd.

king missile a ddywedodd: These are all good points, yet none of them lead anywhere.
None of them are points at all.
There are no points.
There is no point.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chris Castle » Gwe 14 Tach 2003 10:06 am

beth yw'r broblem efo datgan enwau cyn aelodau o'r IRA?


Mae IRA wedi galw "ceasefire", dyw hynny ddim yn wir am y grwpiau "Teyrngarol". Grwp gwleidyddol (er treisiol) yw'r IRA. Grwpiaw casineb ethnic yw'r grwpiau treisiol "teyrngarol". Cofiwch y rhaglen teledu diwedda lle soniwyd swyddogion y Maze am y carhorion.
"Wnes i wbod gwleidyddiaeth y carcharor trwy edrych ar ei gell. Mewn celloedd yr gweriniaethwyr roedd llyfrau hanes, athroniaeth, a gwleidyddiaeth. Mewn celloedd y teyrngarwyr roedd guns and ammo, playboy a'r news of the world"


Rheswm arall dwi'n fyw gefnogl i Sinn Fein nagydw i i'r Unoliaethwyr ydy'r modd wnaethon nhw gwrthod y gweithred decommissioning diweddaraf, er oedd e'n yn ôl amodau cytundeb dydd gwener y groglith.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan pogon_szczec » Gwe 14 Tach 2003 1:32 pm

Dwi di bod yn ymchwilio tipyn bach mwy am y Butcher's Boy.

Gwybodaeth gorau yn dod o bennod o lyfr amdano ar wefan CAIN, gan gynnwys araith bendigedig gan Ian Paisley.

Dal i fod ar Gyngor Llwyodraethu'r IRA mae e.

Dylai pawb gyda diddordeb yn y pwnc dan sylw ei ddarllen.

http://cain.ulst.ac.uk/othelem/people/m ... ston01.htm

Os oes diddordeb gyda rhywun am faint o bobl cafodd eu llofruddio ganddo (gan gynnwys 36 Pabydd) cyn iddo fynd yn Weinidog Addysg Gogledd Iwerddon, mae'r wybodaeth ar gael yma.

http://www.upmj.co.uk/Martin%20McGuinness.htm
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Gwe 14 Tach 2003 8:24 pm

[]
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Gwe 14 Tach 2003 8:25 pm

Chris Castle a ddywedodd:
Mae IRA wedi galw "ceasefire", dyw hynny ddim yn wir am y grwpiau "Teyrngarol". Grwp gwleidyddol (er treisiol) yw'r IRA.


Sori Chris ond dyw hynny ddim yn wir o gwbl. Beth am lofruddiaeth Eamon Collins a gafodd ei ladd am sgwenu llyfr yn feirniadol o'r IRA? (Gei di ragor o enghraifftiau trwy fynd i'r linc i'r Butcher's boy ar wefan Cain).

Grwpiaw casineb ethnic yw'r grwpiau treisiol "teyrngarol".


Fel y mae'r IRA. Gweler y ffigyrau manwl ar wefan CAIN, neu cer at wefan FAIR am fanylion.


Cofiwch y rhaglen teledu diwedda lle soniwyd swyddogion y Maze am y carhorion. "Wnes i wbod gwleidyddiaeth y carcharor trwy edrych ar ei gell. Mewn celloedd yr gweriniaethwyr roedd llyfrau hanes, athroniaeth, a gwleidyddiaeth. Mewn celloedd y teyrngarwyr roedd guns and ammo, playboy a'r news of the world"


Sy'n gwneud eu gweithredoedd yn waeth am nad ynt yn anwybyddus.

Rheswm arall dwi'n fyw gefnogl i Sinn Fein nagydw i i'r Unoliaethwyr ydy'r modd wnaethon nhw gwrthod y gweithred decommissioning diweddaraf, er oedd e'n yn ôl amodau cytundeb dydd gwener y groglith.


Yn ol y cytundeb byddai'r di-arfogi wedi'i orffen o fewn 2 flynedd. Blair addawodd hefyd ni fyddai rhaid i Unioliaethwyr rhannu llywodraeth gyda mudiad para-filwrol heb ddiarfogi. Dyma pam bleidleisiodd y Protestaniaid o'i blaid. Dal i aros am ddiarfogi llawn ydynt. Byddant yn aros am byth am nad yw Sinn Fein/IRA ishe cael gwared o'u cerdyn gorau.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Newt Gingrich » Gwe 14 Tach 2003 11:14 pm

nicdafis a ddywedodd:O, ffor ffycs sêc, <i>dyna oedd y pwynt</i>. Y pwynt oedd am sgorio pwyntiau gan ddefnyddio iaith hurt, un-deimensiwn, plentynaidd.

king missile a ddywedodd: These are all good points, yet none of them lead anywhere.
None of them are points at all.
There are no points.
There is no point.


Enghraifft berffaith ddywedwn i o ddyfyniad plentynaidd hunan bwysig sy'n nodweddu bron holl gyfraniadau 'o mor rhesymol' Nic. Os tisio trafod yna gwna hynny, os ti am esitedd yn ol fel rhyw 'sage' yna, gan ddefnyddio dy ieithwedd, ffyc off.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan pogon_szczec » Sul 16 Tach 2003 2:34 pm

nicdafis a ddywedodd:


Dw i'n credu bod fy mhwynt am ba mor un-dimensiwnol yw delwedd McGuinness tu fas o Ogledd Iwerddon wedi'i gadarnhau gan pogon. Mae McGuinness wedi ennill lot o barch am ei waith fel gweinidog addysg, ac am wn i wedi gweithio cyn galeted ag unrhywun i wneud yn siwr bod dyfodol i'r broses datganoli yng Ngogledd Iwerddon, <i>er ei fod e'n arweinydd yr IRA</i>.

Ond dydy hyn i gyd ddim yn cyfri dam, achos Martin Butcher Boy McGuiness yw e!

Sut ydw i fod i ymateb i ddadlau dwfn fel 'na?


Rhaid cytuno gyda sylwadau doeth Nic.

Mae rhagfarn warthus yn y wasg Brydeinig yn erbyn mass-murderers sy'n dangos pa mor cul eu meddwl yw Saeson. Beth yw'r ots os yw e'n gyfrifol am ladd rhyw 80 o bobl ac yn dal i fod yn brif strategydd fudiad para-filwrol os yw'n gweithio yn dda am ychydig o fisoedd fel gweinidog addysg.

Dwi'n meddwl hefyd bod triniaeth mass murderer arall, Ian Brady, wedi bod yn warthus. Wedi'r cyfan tipyn o gymeriad yw e, sy wedi'i wneud ychydig o bethau ffol yn y gorffennol. Pam na ddylai Brady fynd yn weinidog addysg Prydain? Wedi'r cyfan mae e'n gyfrifol am ladd llai o blant na McGuinness, the 'Butcher of the Bogside.'
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Sioni Size » Gwe 21 Tach 2003 3:36 pm

A mae Tony Blair yn gyrfifol am ladd 10 mil gwaith yn fwy na neb o Gogledd Iwerddon.
Mi yda chi'n ddethol iawn yn eich diffiniad o bwy sy'n ddioddefwyr teilwng, Pogon a Newt.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 21 Tach 2003 4:38 pm

Pogon, ti di iselhau dy hun i lefel is nag oeddwn i'n meddwl y buaset ti hyd yn oed yn gallu.
Ma dod ag Ian Brady i mewn i'r drafodaeth ac awgrymu rywsut fod yna debygrwydd rhwng ei weithredoedd o a'r marwolaethau yn sgil y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon yn, o fethu meddwl am air gwell, yn 'sick'. Mor 'sick' ddylwn i ddim ymateb, ond ti di gneud i fi deimlo mor sal a blin o'n i'n meddwl dylet ti gal gwbod.
Cywilydd arnat ti am fod yn barod i nofio yn y fath gachu.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan pogon_szczec » Sul 23 Tach 2003 3:17 pm

Aled a ddywedodd:Pogon, ti di iselhau dy hun i lefel is nag oeddwn i'n meddwl y buaset ti hyd yn oed yn gallu.
Ma dod ag Ian Brady i mewn i'r drafodaeth ac awgrymu rywsut fod yna debygrwydd rhwng ei weithredoedd o a'r marwolaethau yn sgil y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon yn, o fethu meddwl am air gwell, yn 'sick'. Mor 'sick' ddylwn i ddim ymateb, ond ti di gneud i fi deimlo mor sal a blin o'n i'n meddwl dylet ti gal gwbod.
Cywilydd arnat ti am fod yn barod i nofio yn y fath gachu.


Dwi'n ymddiherio os dwi wedi gwneud cam i Ian Brady trwy ei gymharu ag anifail mor ffiaidd a Martin McGuiness.

Yn wahanol i Aled a 'Comical Cardi' dwi'n gallu cyfiawnhau popeth dwi di sgwenu gyda ffeithiau.

Yn ei gyfnod fel O.C. yr IRA yn Sir Londonderry roedd McGuiness yn gyfrifol am farwolaethau 5 plentyn.

Kathryn Eakin (9)
Gordon Gallagher(9)
Bernadette McCool(9)
Carol Ann McCool (4)
Kathleen Feeny(14)

Doedd y plant uchod ddim wedi'u lladd mewn 'crossfire'. Roedd dau wedi'u lladd trwy osod 'incendiary device' yn eu cartref, dau arall mewn bom di-rybudd yn Claudy.

Cymharwch y gweithredau uchod gyda beth wnaeth y Paras. A oedd y plant uchod yn saethu at yr IRA cyn iddynt gael eu lladd?

Mae McGuiness yn gyfrifol am farwolaeth 37 Pabydd yn ystod yr un cyfnod, y rhan fwyaf yn 'suspected informers' . Yn wahanol i'r rhai cafodd eu lladd ar Ddydd Sul gwaedlyd yr oeddynt wedi'u saethu mewn gwaed oer, ac yr oeddynt wedi'u arteithio cyn iddynt farw.

Dwi ishe gweud rhywbeth o ddifri i Nic ac ychydig o bobl eraill ar y maes.

Mewn gwirionedd sdim ots gyda chi o gwbl mewn hawliau dynol.

Yr hawl mwyaf bwysig oll yw'r hawl i fyw, a dyw McGuiness a'u teip ddim yn poeni dim am hynny.

Trwy amddiffyn ei 'hawl' i fod yn weinidog chi'n sarhau y rhai cafodd eu lladd ganddo.

Cymharwch eich dicter pathetig ynglyn a Janet Street-Porter am weud ychydig o bethau twp, a dicter hollol dealladwy Protestaniaid Gogledd Iwerddon wrth weld 'mass murderer' fel eu gweinidog addysg.

A gyda llaw dim ond tu-hwnt i Ogledd Iwerddon y mae pobl naif ac anwybuddus yn cydnabod McGuiness yn bennaf fel 'y gweinidog addysg diwethaf' a nid 'the Butcher of the Bogside'. Pan gafodd ei apwyntio naeth plant gerdded maes o'u gwersi. Dyw e ddim erioed di bod mewn ysgol Protestanaidd (sef mwyafrif yr ysgolion y dalaith) . Fydd e byth yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif. Byth.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron