Aled a ddywedodd:pogon a ddywedodd:Fyddai'r fyddin Brydeinig wedi herwgipio, arteithio ac yna llofruddio Jean McConville, mam i ddeg er enghraifft?
Wyt ti wedi clywed am internment? Wyt ti wedi clywed am y cannoedd o Gatholigion a garcharwyd ac a arteithwyd gan fyddin Prydain heb unrhyw achos heblaw eu bod yn Gatholigion? Ac wrth gwrs yr 14 o bobl ddi-niwed a laddwyd ar 'Bloody Sunday' gan dy arwyr di-fai, gwynach na gwyn di.
Arwynebol iawn Aled, sylwi fod ti wedi methu ateb pwynt Pogon.
Os oes yna eilyn addoli 'arwyr' fan hyn dwi'n credu mai ti sydd wrthi.
Ydi o'n berthnasol fod y Paras dan yr argraff fod na saethu tuag atynt?
Beth yw pwrpas yr Ymchwiliad?
Os mae cael at y gwir yw'r pwrpas yna mae gofyn i M McG am ei symudiadau + symudiadau yr IRA yn ystod y diwrnod hwnnw yn rhesymol. Os yw M McG yn gwrthod ateb yna mae hynny yn ddadlennol.
Ac Aled, ti di gofyn y cwestiwn ddim yn golygu dy fod yn sarhau cof y rhai hynny a laddwyd - dadl plentynaidd yw awgrymu hynny. Wedi'r cyfan, mae'r gan 'Sunday, Bloody Sunday' yn gri o'r galon gan Wyddel wrth ymateb i ddigwyddiad arall erchyll yn hanes ei wlad, ond fel y dywed Bono cyn canu y gan yma'n fyw "This song is not a rebel song". Does dim rhaid bod yn gefnogol i'r paras i ofyn y cwestiwn - beth ddigwyddodd?