Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Mer 12 Tach 2003 5:16 pm

boris a ddywedodd:Cardi Bach :
Chris Castle :
Cofia rwpeth arall. Os mae McGuinness yn ateb y cwestiynnau bydd pawb yn gwbod Lle mae aelodau/caefnogwyr yr IRA ar y dydd mewn cwestiwn yn byw.

Mae Paras yn aros yn di-enw.


Pwynt da Chris.

Mae'r Paras yn cael aros yn anonimys drwy'r holl ymchwiliad. yr unig beth mae McGuinness yn gwrthod ddweud yw lle y cuddiodd e holl arfau'r IRA yn Derry tra'n 'second-in-command' (nid arweinydd, fel yr honnodd Pogon ynghynt).

Byddai datgelu hyn yn datgelu enwau conffidants iddo, ac yn bradychu eu ffydd.




Oeddwn i o'r farn fod hyn yn anghywir ond (yn wahanol i lawer o fewn maes e heb ffeithiau gwell oedd aros yn dawel). Fodd bynnga, Y Guardian heddiw (ydw, dwi'n darllen rhacsyn y chwith weithiau!);

"An IRA witness was in a stable condition last night after collapsing while giving evidence to the Bloody Sunday inquiry. Identified as Official IRA Man Four, and an adjutant in 1972, he told the enquiry: "The Brits were gunning down innocent civilians. I took my short weapon [pistol] out of my pocket and fired two, possible three shots"

Dau bwynt,

1. Dim jyst y Paras sy'n cael cynnig tystiolaeth yn ddi-enw

2. Mae'r IRA yn cyfaddef saethu tuag at y Paras.

Cyfiawnhau y gyflafan? Nac ydi siwr.

Egluro y gyflafan? Nac ydi, fe fu i'r Paras or ymateb.


Ti'n son am yr IRA yn cyfaddef saethu tuag at y Paras (pwynt 2), edrych ar yr hyn ddywedodd:
IRA Man 4 a ddywedodd:The Brits were gunning down innocent civilians. I took my short weapon [pistol] out of my pocket and fired two, possible three shots"

Ydy mae'n cyfaddef idoo danio, ond ohwerwydd fod "The Brits were gynning down innocent civillians", felly ymateb oedd e'n ei wneud, nid cychwyn tanio yn syth.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Boris » Mer 12 Tach 2003 5:27 pm

nicdafis a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Beth fyddai dy agwedd tuag at aelod o'r Paras yn gwrthod ateb cwestiynnau? Gwahanol iawn fe dybiwn.


Yr un peth. Pam wyt ti'n cymryd y byddwn i'n rhoi hawliau sifil i aelod un fyddin ac nid i aelod byddin arall? :?


Felly fe fyddet yn fodlon cachu ar ben y teuluoedd hynny sydd, 30 blynedd yn ddiweddarach yn gofyn am atebion er mwyn cael rhoi pen ar y mater.


Byddwn, wrth gwrs. Da iawn ti am sboto hynny. Dyna fyddai fy unig amcan wrth drial sicrhau bod pob dinasyddion y Deyrnas Unedig yn mwynhau'r un hawliau sifil.

Ble ydw i wedi dweud mod i'n cefnogwr Sinn Fein? Ble ydw i wedi dweud bod Martin McGuinness yn ddyn di-fai? Am wn i, dw i ddim wedi cynnig unrhyw farn ar bwy oedd ar fai am ddigwyddiadau y Sul Gwaedlyd, jyst dweud ydw i bod hawliau sifil yn uwchben gwleidyddiaeth. Os dych chi'n dweud nad oes hawl 'da McGuinness i beidio ateb cwestiynau, neu'n awgrymu bod gwrthod ateb bob cwestiwn yn profi bod ganddo rywbeth i'w cyddio, dych chi ar y ffordd i danseilio ein holl gyfundrefn o gyfiawnder.

Hoffi fe neu beidio, dyn ni i gyd yma yn byw dan yr un wladwriaeth â Martin McGuinness (iawn, nid ti pogon, cei di fynd yn ôl at dy ewynnu). Os ydy e'n colli ei hawliau sifil, dyn ni i gyd yn eu colli.


Ond Nic, M McG oedd am gael ymchwiliad - un llawn os dwi'n cofio ei eiriau. Pam felly ymwrthod rhag ateb?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Mer 12 Tach 2003 5:30 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ti'n son am yr IRA yn cyfaddef saethu tuag at y Paras (pwynt 2), edrych ar yr hyn ddywedodd:
IRA Man 4 a ddywedodd:The Brits were gunning down innocent civilians. I took my short weapon [pistol] out of my pocket and fired two, possible three shots"

Ydy mae'n cyfaddef idoo danio, ond ohwerwydd fod "The Brits were gynning down innocent civillians", felly ymateb oedd e'n ei wneud, nid cychwyn tanio yn syth.


Cytuno, dwi ddim yn credu fy mod wedi awgrymu pwy saethodd gyntaf nac cyfrannu at y drafodaeth yn y modd yma. Yn hytrach mae yna bwynt amlwg sef y ffaith fod yr IRA, wedi 30 mlynedd o wadu, wedi gorfod cyfaddef fod dynion ganddyn nhw yn y dorf ac fod yna saethu wedi digwydd.

Fel dwi di deud, tydi hynny ddim yn cyfiawnhau dim, ond siawns fod o'n berthnasol.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan nicdafis » Mer 12 Tach 2003 11:48 pm

Boris a ddywedodd:Ond Nic, M McG oedd am gael ymchwiliad - un llawn os dwi'n cofio ei eiriau. Pam felly ymwrthod rhag ateb?


Achos ei fod e wedi addo i'w gyn-gyd-aelodau yn yr IRA na fyddai fe byth yn dweud ble oedd yr IRA yn cuddio eu harfau, ac ei fod e'n credu nad yw'r gwybodaeth hynny yn berthnasol i'r achos hwn? Achos bod ei deyrngarwch i'r bobl 'na yn gryfach na'i ddyletswydd i'r ymchwiliad? Achos er mwyn cadw y broses heddwch ar y reiliau, mae rhaid iddo fe gadw cefnogaeth y bobl 'na?

Pwy a wyr? Dw i ddim, a dwyt ti ddim chwaith. Wyt ti'n meddwl dy fod di, achos taw Martin "Butcher's Boy" McGuinness yw e, felly mae rhaid bod rhywbeth 'da fe i'w guddio, ond diolch byth, nid fel 'na ein sustem cyfraith yn gweithio.

Fy mhwynt (os dydy hi ddim yn ddigon amlwg erbyn hyn) yw does dim ots beth yw ei resymau. Os dydy e ddim am ateb y cwestiynau, does dim rhaid iddo fe wneud. Cei di ofyn "PAHAM" mewn llytherennau bras, mawr, coch, a fydd yr ateb yr un peth. Mae hawl 'da fe beidio ateb, ac mae'n debyg bod rhesymau gyda fe i beidio wneud. Gan ei fod e'n ddim byd mwy na "murdering mick" i garfan mawr y cyhoedd Prydeinig, diolch i'n gwasg hynod o wrthrychol, does dim lot 'da fe i'w golli, nag oes?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Newt Gingrich » Iau 13 Tach 2003 12:37 am

nicdafis a ddywedodd:Fy mhwynt (os dydy hi ddim yn ddigon amlwg erbyn hyn) yw does dim ots beth yw ei resymau. Os dydy e ddim am ateb y cwestiynau, does dim rhaid iddo fe wneud. Cei di ofyn "PAHAM" mewn llytherennau bras, mawr, coch, a fydd yr ateb yr un peth. Mae hawl 'da fe beidio ateb, ac mae'n debyg bod rhesymau gyda fe i beidio wneud. Gan ei fod e'n ddim byd mwy na "murdering mick" i garfan mawr y cyhoedd Prydeinig, diolch i'n gwasg hynod o wrthrychol, does dim lot 'da fe i'w golli, nag oes?


Cyfraniad nodweddiadol o anadeiladol Nic. Gyda llaw, sda ti radd mewn bod yn nawddoglyd? I fobl gogledd Iwerddon nid 'murdering mick' yn unig yw Martin McG ond yn hytrach y gweinidog addysg diwethaf. Dwi'n credu fod cyfraniad Martin McG yn hynod negyddol ac yn creu dim ffydd yn ei barodrwydd i ddatblygu gwleidyddiaeth newydd yn y dalaith. Os na ti'n gallu gweld hynny - ffein, ond yn y dyfodol gawn ni lai o dy gyfraniadau 'holier than thou' plis?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan pogon_szczec » Iau 13 Tach 2003 8:35 am

Murdering Mick yw e.

A pam mae son am cyn-aelod?

Tua pythefnos yn ol daeth yn glir taw fe yw 'P O' Neill' llefarydd yr IRA.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Chris Castle » Iau 13 Tach 2003 9:12 am

Barnwr:
O ble aeth y gyn och chi'n cario?


M. McGuiness:
Ces i'r gyn oddi wrth
Quartermaster yr IRA Di-Enw,
Billy boy house,
29 Coronation Street,
Belfast.


Yntydi'n amlwg pam dyw e ddim yn ateb y fath cwestiwn?

Heblaw am hynny dwi'n credu y mae mwyafrif yma'n cytuno. Wnaeth Paras or ymateb a mae'n amheus pwy saethodd yn gyntaf. Cyn ddryged â'i gilydd yw'r byddin a'r IRA yma.


Murdering Mick yw e.

Dyna'r fath casineb ethnig wnaeth dechrau'r rhyfel yn y lle gyntaf - dim hawliau 'da pabyddion. A phrif chwareon y fyddin Prydeinig oedd Paddy-bashing.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Boris » Iau 13 Tach 2003 10:50 am

Chris Castle a ddywedodd:Barnwr:
O ble aeth y gyn och chi'n cario?


M. McGuiness:
Ces i'r gyn oddi wrth
Quartermaster yr IRA Di-Enw,
Billy boy house,
29 Coronation Street,
Belfast.


Yntydi'n amlwg pam dyw e ddim yn ateb y fath cwestiwn?



Dwi'n cytuno efo rhelyw dy neges, ac mae 'murdering mick' yn derm anffodus boed Pogon neu Nic Dafis yn eu ddefnyddio.

Serch hynny, dwi ddim yn llwyr gytuno efo'r uchod. Mae yna amnest yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon - felly beth yw'r broblem efo datgan enwau cyn aelodau o'r IRA? Os mai trais gan fudiadau teyrngarol yw'r ddadl yna dywed hynny, ond os mae ofn cyfraith gwlad yw'r pwynt yna mae'n anghywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan nicdafis » Iau 13 Tach 2003 4:57 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:Cyfraniad nodweddiadol o anadeiladol Nic. Gyda llaw, sda ti radd mewn bod yn nawddoglyd? I fobl gogledd Iwerddon nid 'murdering mick' yn unig yw Martin McG ond yn hytrach y gweinidog addysg diwethaf. Dwi'n credu fod cyfraniad Martin McG yn hynod negyddol ac yn creu dim ffydd yn ei barodrwydd i ddatblygu gwleidyddiaeth newydd yn y dalaith. Os na ti'n gallu gweld hynny - ffein, ond yn y dyfodol gawn ni lai o dy gyfraniadau 'holier than thou' plis?


Sori os dw i'n dod ar draws yn nawddoglyd, nid hwnna yw'r bwriad, wrth gwrs. Dw i'n teimlo yn gryf bod ystyr geiriau yn bwysig - obsesiwn sy'n cael ei ddisgrifio rownd fan hyn fel "cuddio tu ôl i semantics".

Dw i'n credu bod fy mhwynt am ba mor un-dimensiwnol yw delwedd McGuinness tu fas o Ogledd Iwerddon wedi'i gadarnhau gan pogon. Mae McGuinness wedi ennill lot o barch am ei waith fel gweinidog addysg, ac am wn i wedi gweithio cyn galeted ag unrhywun i wneud yn siwr bod dyfodol i'r broses datganoli yng Ngogledd Iwerddon, <i>er ei fod e'n gyn-arweinydd yr IRA</i>. Mae'n drueni nad yw'n teimlo ei fod e'n gallu bod yn gwbl agored gyda'r ymchwiliad, ond does dim rheswm dros gredu ei fod e wedi wneud y penderfyniad hwnna heb ystyried yr effaith y caiff e ar yr ymchwiliad ei hunan, a'r broses heddwch yn gyffredinol.

Ond dydy hyn i gyd ddim yn cyfri dam, achos Martin Butcher Boy McGuiness yw e!

Sut ydw i fod i ymateb i ddadlau dwfn fel 'na?

Dw i'n derbyn bod McGuinness yn gyfrifol am ladd pobl yn y gorffennol, a felly mae rhai pobl yma yn meddwl does dim lle 'da fe yn y broses democratiaeth yng Ngogledd Iwerddon. Dw i'n anghytuno â nhw, am y rhesymau dw i'n eisioes wedi rhoi: mae dwylo McGuinness yn lanach na'r rhai Tony Butcher of Baghad Blair, er enghraifft, ond does neb yn dweud na ddylai hwnna fod yn rhan o'r broses heddwch.

Dw i'n siwr hefyd sai Tony Blair yn gwrthod ateb cwestiynau mewn ymchwiliad o'r fath (a fydd rhaid iddo fe, un dydd, a fydd hynny yn wneud beth sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon yn edrych fel chwarae plant) byddwn i yr un mor awyddus i chi iddo gael ei orfodi i'w hateb. Ond fyddwn i'n rong.

Dw i'n jyst mynd rownd mewn cylchoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Newt Gingrich » Iau 13 Tach 2003 11:37 pm

nicdafis a ddywedodd:

Mae'n drueni nad yw'n teimlo ei fod e'n gallu bod yn gwbl agored gyda'r ymchwiliad, ond does dim rheswm dros gredu ei fod e wedi wneud y penderfyniad hwnna heb ystyried yr effaith y caiff e ar yr ymchwiliad ei hunan, a'r broses heddwch yn gyffredinol.


Dw i'n derbyn bod McGuinness yn gyfrifol am ladd pobl yn y gorffennol, a felly mae rhai pobl yma yn meddwl does dim lle 'da fe yn y broses democratiaeth yng Ngogledd Iwerddon. Dw i'n anghytuno â nhw, am y rhesymau dw i'n eisioes wedi rhoi: mae dwylo McGuinness yn lanach na'r rhai Tony Butcher of Baghad Blair, er enghraifft, ond does neb yn dweud na ddylai hwnna fod yn rhan o'r broses heddwch.

Dw i'n siwr hefyd sai Tony Blair yn gwrthod ateb cwestiynau mewn ymchwiliad o'r fath (a fydd rhaid iddo fe, un dydd, a fydd hynny yn wneud beth sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon yn edrych fel chwarae plant) byddwn i yr un mor awyddus i chi iddo gael ei orfodi i'w hateb. Ond fyddwn i'n rong.

Dw i'n jyst mynd rownd mewn cylchoedd.


Dadl wan iawn Nic. Yn waeth na hynny ti'n gwerthu rhyw image rhesymol sy'n ffug. Mae disgrifio Blair fel 'Butcher of Baghdad yn hurt - dwi'n casau y boi, ond 'Butcher of Baghdad'? Ychydig yn ormodol efallai?

O ran Blair yn ateb cwestiynnau mewn ymchwiliad - beth yn union oedd yr Hutton enquiry? Rhith? Breuddwydio ddaru fi? Os dwi'n cofio fe fuodd Blair yn y blwch croes holi am awr a deugain munud - atebodd o bob cwestiwn.

Os yw M McG am fod yn rhan o'r broses heddwch siawns y dylai fod yn ffyddlon i boblogaeth gogledd Iwerddon, nid i aelodau o'r IRA sy'n mwynhau amnest.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai