Postiwyd: Iau 06 Tach 2003 3:28 pm
Aled a ddywedodd:Sail yr ymchwiliad ydi pam y bu i'r Paras saethu'n farw 14 o bobl ddi-niwed, heb yr un arf rhynddynt, nifer ohonyn nhw wedi'w cornelu a methu symyd i unlle, nid yn garej pwy oedd gynne'r IRA y dydd hwnnw.
Hyd yn oed, hyd yn oed petai rywyn wedi saethu at y milwyr (a mewn rhyfel, dyma'r drefn ynte?), nid y rhai a fu farw wnaeth, felly pam gaethon nhw ei saethu? Dyne'r unig gwestiwn sydd.
Yntau, os profir i McGuinnes saethu gynta, ydi hynny'n cyfiawnhau unrhyw Gatholig di-arfog o fewn golwg, gan gynnwys plant?
Nac ydi.
serch hynny, os y bu i'r IRA danio'n gyntaf a oes posibilrwydd 'mewn rhyfel' fod unigolion yn panicio ac yn gwneud cangymeriad? Jyst gofyn.
Ac os oedd Gogledd Iwerddon yn sefyllfa o ryfel (dim bod fi'n derbyn hynny) yna edrycha ar sefyllfaoedd 'rhyfel' yn gyffredinnol - mae'r diniwed yn dioddef mewn cross fire. Felly mae'r cwestiwn ' a saethodd yr IRA at y Paras' yn allweddol.