Rol 'Gwas cigydd' McGuiness ar Ddydd Sul gwaedlyd.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Chris Castle » Sul 23 Tach 2003 4:36 pm

Gei di ragor o enghraifftiau trwy fynd i'r linc i'r Butcher's boy ar wefan Cain

Dwi ddim yn cofio anghytuno bod McGuiness yn cgyfrifol am ladd pobl.

Kathryn Eakin (9)
Gordon Gallagher(9)
Bernadette McCool(9)
Carol Ann McCool (4)
Kathleen Feeny(14)

Doedd y plant uchod ddim wedi'u lladd mewn 'crossfire'. Roedd dau wedi'u lladd trwy osod 'incendiary device' yn eu cartref, dau arall mewn bom di-rybudd

Fel y miloedd wnaeth marw ym Mhagdad, Dresden ayyb.
Dyw mynd drosodd a throssodd "pwy sydd ar fai" dim yn ychwanegu dim i'r pwynt dan sylw. - Sut i atal y llofruddio. (codi sgwarnog oedd "Rol Gwas Cigydd...."

Cymharwch y gweithredau uchod gyda beth wnaeth y Paras. A oedd y plant uchod yn saethu at yr IRA cyn iddynt gael eu lladd?

Ti'n gwbod taw saethu at y Paras wnaeth y pobl anarfog a gafodd eu saethu gan y Paras te?

A gyda llaw dim ond tu-hwnt i Ogledd Iwerddon y mae pobl naif ac anwybuddus yn cydnabod McGuiness yn bennaf fel 'y gweinidog addysg diwethaf' a nid 'the Butcher of the Bogside'. Pan gafodd ei apwyntio naeth plant gerdded maes o'u gwersi. Dyw e ddim erioed di bod mewn ysgol Protestanaidd (sef mwyafrif yr ysgolion y dalaith) . Fydd e byth yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif. Byth.

Felly, Casineb ethnig am byth. :?:

Dwi'n fodlon ystyried fy mod i'n orgydymdeimlyd at Pabyddion yn wlster. Dwi'n fodlon ystyried poendod y Protestaniaid.
Ond ti'n jyst cymryd ochr yr eithafwyr Unoliaethol. Pam ddylai McGuiness anghofio'r gormes go-iawn wnaeth e ddioddef fel dyn ifainc wnaeth arwain at ei weithredoedd treisiol?

Dwi ddim yn cefnogi dulliau treisiol o gwbl, ond dwi'n deall pam maen nhw'n digwydd.

Yn y bon dwi'n dy weld di'n pwysleisio ddrygioni'r un ochr tan anghofio'r llall Pogon. Efallai dwi'n rong....?
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan pogon_szczec » Sul 23 Tach 2003 6:18 pm

Dwi'n gwerthfawrogi bod Chris yn treial bod yn adeiladol fan hyn:

Chris Castle a ddywedodd:

Doedd y plant uchod ddim wedi'u lladd mewn 'crossfire'. Roedd dau wedi'u lladd trwy osod 'incendiary device' yn eu cartref, dau arall mewn bom di-rybudd

Fel y miloedd wnaeth marw ym Mhagdad, Dresden ayyb.

Ond mae'r D.U. yn wlad democrataidd (amherffaith). Dwi'n gallu cyfiawnhau defnyddio trais er mwyn cael gwared o bobl fel Hussein a Hitler am nad oes alternatif. O ran marwolaethau yn Bagdad, doedd Prydain ac America ddim yn targedu 'civilians' yn bwrpasol, ond mae'n amlwg bod yr IRA yn gwneud hynny, e.e. trwy taflu 'incendiary device' trwy ffenest cartref.

Cymharwch y gweithredau uchod gyda beth wnaeth y Paras. A oedd y plant uchod yn saethu at yr IRA cyn iddynt gael eu lladd?

Ti'n gwbod taw saethu at y Paras wnaeth y pobl anarfog a gafodd eu saethu gan y Paras te?

Dwi'n derbyn taw diniwed oedd y rhai a gafodd eu lladd. Ond rhaid cofio hefyd bod yr IRA yn saethu at y Paras. Bodau dynol ffaeliedig yw milwyr sy'n gallu panico, colli disgyblaeth a gor-ymateb. Ond os ydym yn archwilio lloffruddiaethau dan orchymyn McGuiness, yr oedd lot ohonynt wedi'u planio mewn gwaed oer.

Hefyd mae'n rhaid cofio bod McGuinness wedi galw am y Paras cael eu proseciwtio. Pam na ddylai gael ei broseciwtio ei hun am weithredoedd mwy ffiaidd fel lladd plant mewn gwaed oer?

A gyda llaw dim ond tu-hwnt i Ogledd Iwerddon y mae pobl naif ac anwybuddus yn cydnabod McGuiness yn bennaf fel 'y gweinidog addysg diwethaf' a nid 'the Butcher of the Bogside'. Pan gafodd ei apwyntio naeth plant gerdded maes o'u gwersi. Dyw e ddim erioed di bod mewn ysgol Protestanaidd (sef mwyafrif yr ysgolion y dalaith) . Fydd e byth yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif. Byth.

Felly, Casineb ethnig am byth. :?:

Pwynt da.

Dwi'n meddwl bod rhaid i Unioliaethwyr a Nationalists rhannu pwer yn Ngogledd Iwerddon. Ond dwi wedi dod i'r casgliad na ddylai rhaid i Unioliaethwyr rannu pwer gyda grwp anneomocrataidd yn ei hanfod fel Sinn Fein/I.R.A. Os wyt ti wedi darllen, "From Guns to Government", mae'n glir taw aelod o Gyngor Llywodraethu'r I.R.A. yw McGuinness. Mae'n amlwg hefyd bod yr IRA yn dal i weithredu, (mis yn ol gwnaethon nhw herwgipio a mwy na thebyg lladd dyn o Dde Armagh, a mae llywodraeth Blair yn fodlon derbyn y fath na o weithred os yw o fewn y cymuned Nationalist). Appeasement yw caniatau Plaid mewn llywodraeth i gael ei byddin breifat ei hun. Mae unrhyw gytundeb sy'n gynnwys Sinn Fein/IRA mewn llywodraeth wedi'i adeiladu ar dywod.

Dwi'n fodlon ystyried fy mod i'n orgydymdeimlyd at Pabyddion yn wlster. Dwi'n fodlon ystyried poendod y Protestaniaid.
Ond ti'n jyst cymryd ochr yr eithafwyr Unoliaethol. Pam ddylai McGuiness anghofio'r gormes go-iawn wnaeth e ddioddef fel dyn ifainc wnaeth arwain at ei weithredoedd treisiol?

Yn y bon dwi'n dy weld di'n pwysleisio ddrygioni'r un ochr tan anghofio'r llall Pogon. Efallai dwi'n rong....?

Dwi ddim yn meddwl mod i'n cefnogi'r eithafwyr. Hyd y gwn, teyrngarwyr yw'r eithafwyr o fewn y cymuned Protestanaidd, a byddwn i'n dweud y maent yr un mor ffiaidd a'r IRA. Ond does neb yn awgrymu y dylai thwg fel Adair fynd yn weinidog.

Gallaf dderbyn bod McGuinness wedi gweld rhywfaint o anghyfiawnder yn ei fywyd. Ond nid yw hynny yn cyfiawnhau achosi marwolaeth i blant mewn enghraifft glur o gasineb ethnig.

Hoffwn i weud mwy am sefyllfa y cymuned Protestaniaid yn Londonderry/Derry. Yn 1970 roedd o gwmpas 15,000 yn byw yng ngorllewin y ddinas. Heddiw mae o gwmpas mil mewn un stad (Fountain).
Y maent yn rhy ofnus i fynd i ganol y ddinas sy wedi mynd yn 'no go area' iddynt. Mae'r ei ysgol uwchradd yn mynd i gau oherwydd prinder disgyblion.

Falle bod Pabyddion wedi cael cam yn hanesyddol yn y ddinas, ond beth am y sefyllfa heddiw?

Mae Protestaniaid mewn nifer o lefydd yn Wlster yn colli tir fel y mae cymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru.

Pam mae cymaint o Gymry yn gefnogol i'r rhai sy'n gorfodi iddynt adael eu cartrefi?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan nicdafis » Sul 23 Tach 2003 6:48 pm

pogon, i gyd dw i wedi trial wneud yma yw dweud bod rhaid amddiffyn hawliau sifil Martin McGuinness, hyd yn oed os ydy e'n gyfrifol am bopeth yr wyt ti'n disgrifio uchod. Hyd yn oed 'sai hi'n wir taw fe yw'r unig wleidydd yn y byd sydd â gwaed ar ei ddwylo (sy'n bell o fod yn wir, ond gadawn ni hynny am nawr) mae rhaid i ni amddiffyn ei hawliau sifil, neu golli ein hawliau sifil ein hunain. <i>Enlightened self-interest</i>, ys dwedir y Sais.

Am bwrpas y ddadl hon, ti'n hollol iawn, does dim ots 'da fi faint o bobl lladdwyd gan McGuinness achos dyw hynny ddim yn berthnasol <i>i'r ddadl hon</i>. Am hynny, mae dy enghraifft o Ian Brady yn ddefnyddiol, achos fy mod i'n ddigon sal yn fy meddwl i gredu bod hawliau sifil gyda fe, hefyd, er mod i'n falch ei fod e'n saff mewn cachar.

Falle dy fod di'n gyfforddus gyda system cyfraith sy'n seiliedig ar syniadau o'r oesoedd canol, ond dw i ddim. Os ydy'r gymdeithas dan sylw wedi penderfynnu bod yr hawl i beidio ateb cwestiwn mewn llys yn un sylfaenol, mae rhaid ei fod e'n sylfaenol i bawb, nid jyst y bobl neis yma.

Dw i'n digwydd meddwl bod gwahaniaeth rhwng lladd pobl am resymau gwleidyddol ac am resymau personol, ac mae George Bush yn cytuno â fi. Mae Bush wedi dweud yr wythnos hon taw weithiau does dim dewis ond i ddefnyddio grym milwrol (hynny yw, i ladd pobl) er mwyn cyrraedd nod gwleidyddol - ydy hynny yn golygu ei fod e cynddrwg ag Ian Brady hefyd? Mae gan Bush a McGuinness llawer mwy mewn cyffredin na McGuinness a Brady, tybiwn i. (Diolch am dy restr o blant lladdwyd gan McGuinness. Dyma restr o <a href="http://www.iraqbodycount.net/200names.htm">200 o bobl</a> a'u lladwyd gan Bush eleni. Mae fy rhestr i yn fwy na dy restr di. Beth ydw i wedi ennill?)

Wedi dweud hynny, does dim achos gwleidyddol byddwn i'n barod i ladd drosto*, naci i farw drosto chwaith. Mae hyn yn siwr o fod yn enghraifft arall o ragrith pa bynnag bocs wyt ti am fy rhoi fi ynddo heddi, ond beth alla i ddweud am hynny?

* Dw i'n gallu dychmygu fy hunan mewn sefyllfa lle na fyddai hyn yn wir, ond diolch i'r drefn, mae'n ddigon hawdd fod yn heddychlon yng Nghymru 2003.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 23 Tach 2003 6:53 pm

nicdafis a ddywedodd:... does dim ots 'da fi faint o bobl lladdwyd gan McGuinness ...

pawb arall a ddywedodd:<i>Ffasgwr!</i>

Jyst i'ch helpu chi gyda'ch ymatebion ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan RET79 » Sul 23 Tach 2003 7:42 pm

Rhaid i bobl ddechrau sylweddoli fod soldiwrs America yn ymosod ar soldiwrs Irac nid ymosod ar bobl diniwed. Roedd gan soldiwrs Irac ddewis o roi eu hunain fyny neu ymladd.

Mae pobl diniwed wedi cael eu lladd yn ddamweiniol ym mhob rhyfel erioed a mae America wedi gwneud pob ymdrech bosib i leihau y nifer hyn. Wrth i dechnoleg America wella bydd y nifer yma'n cael ei leihau wrth i amser fynd yn ei blaen.

200 o bobl. Beth am gymru'r ffigwr yma hefo y nifer o bobl diniwed wnaeth Saddam ei ladd ers rhyfel y gwlff a cofiwch byddai Saddam yn lladd llawer mwy o bobl os byddai wedi cael ei ganiatau i aros mewn grym yn Irac fel roedd pobl y chwith eisiau 'by implication'.

Byddai polisiau'r chwith wedi gadael Saddam mewn pwer i ladd llawer iawn mwy o bobl diniwed am flynyddoedd i ddod.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan S.W. » Sul 23 Tach 2003 8:43 pm

Gyda'r holl ddadleuon yma am Martin McGuinness sydd wedi bod yn mynd ymlaen yma sydd wedi bod yn ddigon difyr a mae'r gwefanau sydd wedi cael eu dyfynnu ganambell rhai - pogon a wrach rhywun arall wedi bod yn ddifyr ond rhaid iddynt cael eu gweld trwy golwg llawnach. Mae'r rhanfwyaf o'r gwefannau yma, oni bai am Cain sydd yn rhan o un o Brifysgolion Gogledd Iwerddon os ydw i'n cofio'n iawn wedi cael eu ysgrifennu gan grwpiau sydd yn amlwgo fewn glweidyddiaeth unoliaethol, neu'n bapurau Newydd 'Prydeinig' eu naws.

Mae hyd yn oed, y gwefan Cain wyt ti'n sôn amdano yn cyfeirio'n gryf at waith yr Amharchus Ian Paisley. Mae on amlwg yn ei farn yn erbyn MsGuinness ond mae'r ffwl yn anghofio son am yr amser pan y bu iddo gerdded i fewn i Neuadd yng Ngoledd Iwerddon gyda aelod blaenllaw arall o'r DUP (Jeffrey Robinson dwin meddwl) mewn berrets coch a bocsys llawn baseball bats yn annog pobl i fynd allan a delio gyda'r 'Fenians'. Mae'r dyn yn ffwl sydd yn casau catholigion ac am weld Gogledd Iwerddon yn mynd yn nol yn hytrach nag ymlaen.

Mae McGuinness o leiaf wedi cadarnhau ei fod yn gyn aelod o'r IRA (dwin cymryd bod hynny'n golygu ei fod yn cynnwys lladd pobl neu fyddai wedi bod yn drefysgwr sal ar y diawl!) Ond mae Paisley wedi gwrthod cydnabod ei orffenol ef gan nad yw'n gweld ymosod ar Gatholigion fel terfysgaeth! Gyda hanes gwlaedlyd Gogledd Iwerddon mae'n anochel bod rhai o'r gwleidyddion o'r ddwy ochr gyda gwaed ar eu dwylo.

Os wyt ti am ddarllen gwefannu Unoliaethol darllena rhai Gweriniaethol hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan pogon_szczec » Llun 24 Tach 2003 1:25 pm

S.W. a ddywedodd:

Sori i swnio yn 'anadeiladol' ond y mae hyn i gyd jyst yn rwtsh llwyr.

Os yw sail ffeithiol i'r digwyddiadau a ddisgrifir uchod plis rho linc i ni.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Mr Gasyth » Llun 24 Tach 2003 1:35 pm

Rwtch llwyr, pam? Dwi di clywed straeon tebyg hefyd, a be sy'n gneud ti feddwl os nad ydi rwbeth ar y we nad ydi o ddim yn wir?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan S.W. » Llun 24 Tach 2003 5:26 pm

Sori nath o ddim ddod o ddyfndreoedd fy meddwl, mae genni bethau gwell i wendu gyda fy mywyd nag palu celwyddau am Martin McGuinness. Ellai ddim ffeindio gwefan ond ges i'r gwybodaeth o lyfr 'Loyalists' gan Peter Taylor sydd wedi ei seilio ar gyfres deledu BBC. Gafodd ei gyfeirio ato'n ddiweddar hefyd ar Question Time pan roedd o ym Melffast. Gwrthododd Jeffrey Robinson ei ateb oherwydd roedd on gwbod fyddai'n rhoi Paisley a fo yn y cach
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan S.W. » Llun 24 Tach 2003 5:30 pm

P.S. Rhaid dydw i ddim yn siwr os ydy sylwadau Aled ynglyn a dibynadrwydd gwfannau wedi anelu ataf i neu beidio ond mi atebai beth bynnag. Mae'r we yn ffordd dda, 'unmonitored' o roi propoganda. Mae'r ddwy ochr yn euog o hyn dyna pam roeddwn i'n annog chi i edrych ar wefannau o'r ddwy ochr, mae'r wahanaiaethau'n gallu bod yn syfrdanol.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron