Tudalen 1 o 2

YR UNDEBAU LAFUR

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 9:13 am
gan Chris Castle
Erthygl arbennig o dda yw hon gan Paul Foot http://www.guardian.co.uk/comment/story/0,3604,1083007,00.html

Mae'n dweud yn blwmp ac yn blaen pam mae angen undebau. Nid ffan o'r Trot di-gywillydd ydw i wrth gwrs - mae'n gas 'da fi'r SWP (Socialist Workers Party), ond megis Cenedlaetholwyr maen nhw'n llygad eu lle'n achlysurol.

Rheolwyr sydd heb synnwyr cyffredin.
Rheolwyr sy'n fwlis.
Rheolwyr sy'n dilyn syniadaeth eithafol yr adain de pob tro mae siwns 'da nhw.
Rheolwyr sy'n mwynhau gwthio pobl o gwmpas.

Gallaf ddwued o'm profiad personol y Post Brenhinol, taw dweud y gwir yw Foot.

Be' yw dy brofiad di o Undebau/Rheolwyr?

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:05 pm
gan ceribethlem
Mae cael Undeb da yn gefen da i unrhyw weithiwr.
Mae doniau a phrofiadau Undeb yn beth pwysig oherwydd does gan unigolion ddim digon o bwerau yn erbyn cwmni mawr. Mae'r Undeb yn sicrhau na fydd y gweithiwr yn cael ei drin yn anheg.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:36 pm
gan RET79
Gwastraff amser yw'r undebau. Gwastraff arian hefyd - os buaswn i'n dymuno ymuno a undeb yn y gwaith buasai'n costio tua 2.50 yr wythnos. Well gen i fynd am beint hefo'r 2.50 i fod yn onest. Mae dros ganpunt y flwyddyn am undeb yn wastraff arian mawr.

Os ti'n weithiwr mediocre/gwael yna efallai bod hi'n werth ymuno ac undeb os ti methu dal dy swydd ar safon dy waith. Dwi ddim yn cytuno a'r syniad os ti wedi cael dy benodi mewn swydd yna ti'n fod yno am weddill dy oes. Ti ond yn haeddu cael dy gyflogi os yw dy waith yn safonol.

Mae athrawon gwael yn cadw eu swyddi yn yr ysgolion yn rhy hawdd gan fod yr undebau mor gryf. Mae hyn yn wael i gymdeithas gan fod plant yn cael eu methu gan athrawon sal ddylai fod wedi cael y sack ers blynyddoedd.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:38 pm
gan eusebio
RET79 a ddywedodd:Gwastraff amser yw'r undebau. Gwastraff arian hefyd - os buaswn i'n dymuno ymuno a undeb yn y gwaith buasai'n costio tua 2.50 yr wythnos. Well gen i fynd am beint hefo'r 2.50 i fod yn onest. Mae dros ganpunt y flwyddyn am undeb yn wastraff arian mawr.


Wel dyna ni syrpreis :lol:

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:46 pm
gan ceribethlem
RET79 a ddywedodd:Mae athrawon gwael yn cadw eu swyddi yn yr ysgolion yn rhy hawdd gan fod yr undebau mor gryf. Mae hyn yn wael i gymdeithas gan fod plant yn cael eu methu gan athrawon sal ddylai fod wedi cael y sack ers blynyddoedd.


Rhaid cofio fod nifer o storiau am athrawon cael eu cyhyddo o gam-ddefnydd o'u pwerau, ac efallai am golli swyddi.
Mae'r Undebau yn ymladd achos yr athro yma, ac yn aml mae'n troi mas taw celwydd llwydd oedd y cyhuddiad yma.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 6:05 pm
gan RET79
ceribethlem a ddywedodd:
Rhaid cofio fod nifer o storiau am athrawon cael eu cyhyddo o gam-ddefnydd o'u pwerau, ac efallai am golli swyddi.
Mae'r Undebau yn ymladd achos yr athro yma, ac yn aml mae'n troi mas taw celwydd llwydd oedd y cyhuddiad yma.


Ti ddim angen undeb i wneud hynna, beth am gyfreithiwr?

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 9:17 pm
gan eusebio
mae cyfreithiwr yn ddrud uffernol o gymharu â phris ymaelodi mewn undeb.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 8:58 am
gan Chris Castle
RET79
Ti ddim angen undeb i wneud hynna, beth am gyfreithiwr?


am £2.50 yr wythnos? :P

asiwriant yw undeb wrth gwrs, ond hefyd modd i ddemocrateiddio'r gweithle. Fel ti'n dweud mae hunanlesiant y tu ôl i ymddygiad pob dyn. Ond sicrhau taw hunanlesiant pawb yw hunanlesiant yr unigolion hefyd sydd y her. Datblygiad o'r hen syniad Comonwealth yw undebau a sosialiaeth felly.

Nid Gwladwriaeth na Gymanwlad yw Comonwealth yma, ond y fath syniad sy'n esgogi â'r hoff theori economig RET a'i debyg sef "trickle-down". - "Cyfoeth un dyn yn ychwanegu at gyfoeth y wlad a felly pawb arall."

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 2:43 pm
gan Garnet Bowen
Maer undebau llafur yn ran holl-bwysig o'r farchnad rydd, i sicrhau fod gweithwyr yn medru trafod gyda cyflogwyr a phrynwyr yn deg.

Ond

Mae'r math o weithredu sy'n cael ei fygwth gan Undeb y Frigad Dan yn niweidiol, oherwydd ei fod wedi ei anelu at fyd gwleidyddiaeth, yn hytrach na byd gwaith. Nid dadl rhwng y dynion tan a'u cyflogwyr ydi hon, ond rhwng yr undebau milwriaethus a'r llywodraeth. A phan ddigwyddodd hyn y tro dwytha, fe ddilynodd yna 18 mlynedd o lywodraeth geidwadol hynod o niwediol.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 5:40 pm
gan RET79
Chris Castle a ddywedodd:
RET79
Ti ddim angen undeb i wneud hynna, beth am gyfreithiwr?


am £2.50 yr wythnos? :P

asiwriant yw undeb wrth gwrs, ond hefyd modd i ddemocrateiddio'r gweithle.


Ychydig o bwyntiau:

1. Well gen i dalu yswiriant cyfreithiol na talu undeb
2. Democratiaeth mewn gweithle? Gwaith sydd mewn gweithle. Os ti eisiau gwneud penderfyniadau yna gweithia dy hun fyny
3. Os ti wirioneddol yn cael cachu anheg gan dy fos byth a beunydd yna hel dy CV allan a ffeindia rhywle gwell i weithio, dyw nhw ddim yn haeddu ti.