gan Eamon » Iau 29 Ion 2004 12:43 am
Mae rhywun yma(ddim yn cofio pwy) yn dweud nad ydi'r Guardian yn iawn yn deud bod mwy o Babyddion na Protestaniaid am fod yn y chwe sir mewn dipin.
Rwyt yn gywir i ddweud nad yw’r Guardian gwybod pam mor gyflym mae’r boblogaeth Babyddol yn tyfu yn y 6 sir o’i gymharu a’r un Brotestanaidd. Ond nid wyt ti yn gwybod chwaith. Does na neb.
Roedd cyfrifiad 2001 i fod i gynnig atebion, ond nid felly y bu. Yr hyn a wyddom i sicrwydd yw bod 39.5% o’r boblogaeth yn datgan eu bod yn perthyn i’r tri eglwys / enwad (Prespetariaid, Anglicaniaid a Methodistiaid) a gysylltir a gwleidyddiaeth unoliaethol, a bod 40.3% yn dweud eu body n perthyn i’r Eglwys Babyddol a bod 6.1% o’r boblogaeth yn Gristnogion eraill’. Nid oedd 13.9% am ddatgan eu cefndir crefyddol.
Llwyddodd ystadegwyr swyddfa’r cyfrifiad trwy gymleth ffyrdd i droi hyn yn: Protestaniaid – 53.1% (895,000)
Pabyddion – 43.8% (738,000)
‘Eraill’ – 3.1% (52,000)
Mae hyn yn gwymp yn y ganran unoliaethol – y ganran isaf i gael ei chofnodi erioed. Serch hynny nid yw’n cymaint o gwymp ag oedd llawer o Unoliaethwyr yn ei ofni. Os yw’r dulliau a ddefnyddid gan ystadegwyr i ail ddosbarthu’r 13.9% nad oedd am ddatgan eu crefydd yn fregus (a mae lle i gredu ei fod), yna gall y niferoedd fod yn weddol agos.