A ddylai Martin McGuinness fod yn Weinidog Addysg?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai Martin McGuiness fod yn Weinidog Addysg?

Dylai
17
85%
Na ddylai
3
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 20

Postiogan Eamon » Iau 29 Ion 2004 12:35 am

Pogon a ddywedodd:Mwy o bolycs gan ein ffasgydd llwyr anwybyddus.

Jyst cer i unrhyw search engine, teipia 'IRA drugs' i mewn, a fyddi di'n cael miloedd o ganlyniadau.


Mae geni newyddion da i ti yma Pogon - galli wneud ffortiwn. Mae Fianna Fail yn colli tir i SF yn gyflym mewn llawer o stadau dosbarth gweithiol yn ninas Dulyn. Un o'r rhesymau am hyn yw eu bod yn gas ofnadwy efo gwerthwyr cyffuriau. Os wyt ti'n gwybod rhywbeth gwertha enwau aelodau PIRA / SF sy'n delio mewn cyffuriau i'r papurau yma sy'n cefnogi FF mae digon ohonynt. Ar y llaw arall os nad wyt yn gwybod dim paid ag agor dy geg.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Postiogan Eamon » Iau 29 Ion 2004 12:43 am

Mae rhywun yma(ddim yn cofio pwy) yn dweud nad ydi'r Guardian yn iawn yn deud bod mwy o Babyddion na Protestaniaid am fod yn y chwe sir mewn dipin.
Rwyt yn gywir i ddweud nad yw’r Guardian gwybod pam mor gyflym mae’r boblogaeth Babyddol yn tyfu yn y 6 sir o’i gymharu a’r un Brotestanaidd. Ond nid wyt ti yn gwybod chwaith. Does na neb.
Roedd cyfrifiad 2001 i fod i gynnig atebion, ond nid felly y bu. Yr hyn a wyddom i sicrwydd yw bod 39.5% o’r boblogaeth yn datgan eu bod yn perthyn i’r tri eglwys / enwad (Prespetariaid, Anglicaniaid a Methodistiaid) a gysylltir a gwleidyddiaeth unoliaethol, a bod 40.3% yn dweud eu body n perthyn i’r Eglwys Babyddol a bod 6.1% o’r boblogaeth yn Gristnogion eraill’. Nid oedd 13.9% am ddatgan eu cefndir crefyddol.
Llwyddodd ystadegwyr swyddfa’r cyfrifiad trwy gymleth ffyrdd i droi hyn yn: Protestaniaid – 53.1% (895,000)
Pabyddion – 43.8% (738,000)
‘Eraill’ – 3.1% (52,000)
Mae hyn yn gwymp yn y ganran unoliaethol – y ganran isaf i gael ei chofnodi erioed. Serch hynny nid yw’n cymaint o gwymp ag oedd llawer o Unoliaethwyr yn ei ofni. Os yw’r dulliau a ddefnyddid gan ystadegwyr i ail ddosbarthu’r 13.9% nad oedd am ddatgan eu crefydd yn fregus (a mae lle i gredu ei fod), yna gall y niferoedd fod yn weddol agos.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai