gan mred » Gwe 26 Rhag 2003 1:52 am
Er fod gennyt bwyntiau dilys, dydw'i ddim yn gweld dy farn di ar Ogledd Iwerddon at ei gilydd, o'r hyn ydw'i wedi'i ddarllen beth bynnag, yn gytbwys; nac yn adeiladol iawn (yng nghyd-destun dyfodol y dalaith). Fuaset ti'n deud bod Prydain - gan olygu hefyd y lluoedd arfog/RUC - wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau yno ar draul y Catholigion?
Mae gennyf fi'n bersonol brofiad o'r modd y mae cynrychiolwyr y wladwriaeth, yn yr achos yma yr heddlu, yn barod i ddefnyddio trais yn erbyn bobl a merched diamddiffyn, i sathru ar hawliau sifil cymuned, gosod gwarchae ar gartrefi bobl ddiniwed, camdyngu (perjure) eu tystiolaeth ar raddfa enfawr o'r top i'r gwaelod er mwyn gwyrdroi cyfiawnder, goddef presenoldeb gwerthwyr cyffuriau mewn cymuned er mwyn cael gwybodaeth, gollwng merch ifanc yn ei phais nos ar strydoedd tref oriau mân y bore (a rhoi enghraifft fwy penodol), ayb.
Mae gallu'r wladwriaeth ganolog i ormesu ei phoblogaeth yn llawer mwy nag unrhyw gasgliad o'i deiliaid/dinasyddion. Hi sy'n dal holl awenau grym wedi'r cwbl. Os y bu i drais gael ei normaleiddio yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, yr oedd gan y wladwriaeth ran bwysig yn hyn, boed fel gweithredydd (e.e.yn Deri), neu drwy gydweithrediad (e.e.llofruddio ymgyrchwyr hawliau sifil), neu mewn rôl fwy oddefol.
Oherwydd y gallu yma i ormesu, mae'n hollbwysig fod cynrychiolwyr y wladwriaeth yn gorfod ateb am eu camymddygiad, er mwyn eu ffrwyno, gan mai natur sefydliadau ydi i wthio'r ffiniau'n gyson. Dyma sut y gall gwladwriaeth ffasgaidd ddatblygu.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.