pogon_szczecin a ddywedodd:[quote=Soni Size]
Mae ffiniau eraill yn cael eu creu gan imperialwyr megis, i blwcio enghraifft o'r awyr, Lloegr, fel ddigwyddodd yn Rhodesia, Ulster, Hong Kong, Gibraltar ac yn y blaen, er mwyn creu coloni imperialaidd. Y mwyaf o bobl fedr yr imperialwyr ei gael i'r llefydd yma gan hel y trigolion o'u ffermydd a'u cartrefi y gorau fydd eu rheolaeth. Mae'n amrywio yn ei lwyddiant, ond fel y gwelir yn Ulster pan mae'n gweithio, mae'n gweithio'n arbennig.
Felly mae rhai ffiniau yn cael eu creu i ryddhau pobl, tra mae eraill yn cael eu creu i gaethiwo pobl.
Enghraifftiau gwych:
Hong Kong
Pa mor anffodus oedd pobl Hong Kong o'u cymharu a Tsieina. Roedd rhaid iddynt ddioddef safon o fyw 10 gwaith neu fwy yn uwch, a ni chawson y cyfle i fwynhau'r Cultural Revolution na'r newyn. Tybed pam oedd sut gymaint ishe gamblo eu bywydau trwy ffoi rhag baradwys Tsieinaidd Comiwnyddol i'r gormeswyr cyfalafol creulon Anglo-Sacsonaidd?
Gibraltar
Mae'r Sbaenwyr sy'n byw yn Gibraltar yn cael eu gormesu sut gymaint gan yr Ymerodraeth Brydeinig bwerus ddrwg, dim ond 99% ohonynt bleidleisiodd o blaid aros fel coloni Prydeinig.
Rhodesia
O'n i'n meddwl byddai rhywun mor P.C. a tithau yn ei galw yn 'Zimbabwe'.
Pam y ffwc nad wyt ti'n mynd i fyw na gan nad wyt ti gwyn dy fyd mewn coloni Prydeinig. Wedi'r cyfan ti'n rhannu yn gwmws yr un credau a Mugabe. Mae fe di cael gwared o'r coloneiddwyr Anglo-Sacsonaidd. Mae fe'n credu mewn Sosialaeth. Yn debyg i tithau nid oes diddordeb da fe mewn barnau/ffeithiau sy'n mynd yn groes i'w credau ffasgaidd anwybyddus. (A gyda llaw mae'n hoff iawn o ranto yn ddi-bwrpas).
Beth sy'n od am Zimbabwe yw'r ffaith nad yw'r wlad yn or-lwyddiannus ar hyn o bryd. Mae ganddyn nhw diweithdra o 60%, chwyddiant o 400%, prinder o fwydydd sylfaenol ac AIDS epidemic. Ar ol 20 mlynedd o annibyniaeth mae safon bywyd trigolion Zimbabwe llawer yn waeth nag oedd e o dan yr Ymerodraeth. Sut mae hynny wedi digwydd?
Mae'r ateb yn syml. Nid gormeswyr oedd cyfalafwyr/coloneiddwyr Rhosdesia ond y rhai a ddaeth a'r sgiliau sy'n creu cyfoeth. Cael gwared ohonynt a ti'n cael gwared o'r gwydd sy'n dodi'r wy aur. Roedd gweddill cymdeithas yn hollol ddibynnol arnynt.
Digwyddodd yn gwmws yr un peth yn Rwsia dros hanner can mlynedd yn ol. Penderfynnodd Stalin licwidato'r kulaks (ffermwyr mawr) gan roi'r tir i'w gweithwyr. 10 miliwn a fu farw o newyn.
Sioni pam nad wyt ti'n gadael dy syniadau yn y canrif diweddaf lle y maent yn perthyn. Efallai nad yw'r newyddion wedi cyrraedd Pen LLyn eto ond mae'r byd wedi symud ymlaen tipyn bach ers '89.