A ddylai Martin McGuinness fod yn Weinidog Addysg?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai Martin McGuiness fod yn Weinidog Addysg?

Dylai
17
85%
Na ddylai
3
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 20

A ddylai Martin McGuinness fod yn Weinidog Addysg?

Postiogan pogon_szczec » Sul 16 Tach 2003 1:40 pm

Gan fod etholiad newydd yng Ngogledd Iwerddon, a ddylai Martin McGuiness fod yn Weinidog Addysg?

Os nag oes barn gyda chi plis darllenwch y linciau isod:

Linc o blaid:
http://www.anphoblacht.com/news/detail/2168

Linc yn erbyn:
http://www.upmj.co.uk/Martin%20McGuinness.htm

Cofiant Martin Mcguiness (o wefan CAIN):
http://cain.ulst.ac.uk/othelem/people/m ... ston01.htm
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Chris Castle » Maw 18 Tach 2003 9:00 am

Byddai gwahardd y dyn rhag ei swydd yn arwain at fynd yn ôl at y dyddiau pan lofruddiwyd cymaint o bobl. Mae dwylo'r ddwy ochr yr un mor waedlyd.

Felly symudwch ymlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Newt Gingrich » Maw 25 Tach 2003 10:48 pm

Tydi hwn ddim yn gwestiwn ia neu na.

O ofyn 'fyddwn i yn hoffi M McG ynweinidog addysg ar fy mhlant yna yr ateb fyddai 'na dim diolch'. Ond nid dyna'r unig ffactor yn yr achos hwn.

Fory, sef Mercher 26/11/03 fe fydd pobl Gogledd Iwerddon yn bwrw pleidlais yn etholiadau Senedd y Dalaith. Os yw Sinn fein yn goddiweddyd yr SDLP yna hawl democrataidd Sinn Fein dan y drefn etholiadol oedd yn rhan o gytundeb Gwener y Groglith fydd enwebu aelodau etholedig i 'Gabinet' y Dalaith.

Mae hyn yn golygu y bydd gan M McG fandad democrataidd ar gyfer ei enwebu fel Gweinidog yn y llywodraeth. Dwi'n gwybod ac yn derbyn y bydd hyn yn anodd iawn i'r Unoliaethwyr, ond a all yr Unoliaethwyr anwybyddu barn 45% o'r Gymuned Gatholig? O barhau gyda'r 'stalemate' sydd ohoni dim ond y DUP a Sinn Fein fydd yn elwa. Er mwyn heddwch tymor hir y dalaith efallai felly fod yn rhaid 'derbyn' M McG fel gweinidog yn llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 18 Rhag 2003 11:51 pm

onid ymladdodd llawer o weinidogion llywodraethau San Steffan mewn rhyfeloedd, fe ymladdodd Prince Andrew mewn rhyfel, y Malfinas.

beth yw'r gwahaniaeth? does dim gwahaniaeth sylfaenol, dim ond yr amgylchiadau syn wahanol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Boris » Gwe 19 Rhag 2003 7:09 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:onid ymladdodd llawer o weinidogion llywodraethau San Steffan mewn rhyfeloedd, fe ymladdodd Prince Andrew mewn rhyfel, y Malfinas.

beth yw'r gwahaniaeth? does dim gwahaniaeth sylfaenol, dim ond yr amgylchiadau syn wahanol.


O tyfa fyny :crechwen:

Unwaith eto trendis 'di drais' mudiad cenedlaethol Cymru yn gosod terfysgwyr a llofruddwyr gwaed oer gogledd Iwerddon ar bedestal.

Rhag dy gywilydd di Rhys.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Gwe 19 Rhag 2003 7:10 pm

Sylwi fod sy slogan "siarad mewn sloganau" yn un da iawn - siwtio chdi i'r dim
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Leusa » Gwe 19 Rhag 2003 8:35 pm

Oh yes- do grow up Rhys, dear.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 19 Rhag 2003 11:31 pm

Boris a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:onid ymladdodd llawer o weinidogion llywodraethau San Steffan mewn rhyfeloedd, fe ymladdodd Prince Andrew mewn rhyfel, y Malfinas.

beth yw'r gwahaniaeth? does dim gwahaniaeth sylfaenol, dim ond yr amgylchiadau syn wahanol.


O tyfa fyny :crechwen:

Unwaith eto trendis 'di drais' mudiad cenedlaethol Cymru yn gosod terfysgwyr a llofruddwyr gwaed oer gogledd Iwerddon ar bedestal.

Rhag dy gywilydd di Rhys.


dwi'n meddwl fod defnydd terfysgwyr o drais run mor wael ac anghywir a defnydd imperialaidd o drais.

felly yr unig beth dwi'n deud ydy fod angen cal gwared o safonnau dwbwl, ac mae nid y wlad gryfaf sy'n cael y gair olaf.

oleia ma ginai farn yn hytrach na chwerthin ar ben farn nad wyt yn ei gytuno efo fo :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan mred » Gwe 19 Rhag 2003 11:45 pm

Cwestiwn syml gan berson syml Pogon. Wyt ti rŵan yn arddel egwyddor gyffredinol na ddylai bobl â gwaed ar eu dwylo ymgymryd â chyfrifoldebau ar lefel llywodraethol?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dylan » Sad 20 Rhag 2003 5:42 am

Neu mewn geiriau eraill:

pogon, beth ydi dy farn ar Nelson Mandela? Wedi'r cyfan, terfysgwr oedd o yn y bôn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Bing [Bot] a 11 gwestai

cron