A ddylai Martin McGuinness fod yn Weinidog Addysg?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai Martin McGuiness fod yn Weinidog Addysg?

Dylai
17
85%
Na ddylai
3
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 20

Postiogan mred » Iau 25 Rhag 2003 9:12 pm

Dwi'n gweld ein cyfaill yn estyn am gyfrol nodedig Bedwyr, "Llawlyfr i regfeydd ffieiddiaf cefn gwlad Môn", yr eiliad hwn. :winc:

Dwi'n credu i mi grybwyll y diffyg ymddiriedaeth oedd/sydd gan y gymuned Gatholig yn gyffredinol yn yr heddlu, a bod y mudiadau gweriniaethol yn gweithredu mewn gwagle fel petai pan yn 'cadw trefn'. Dydi fy ngwybodaeth i o'r sefyllfa ddim digon cyflawn i mi fedru trafod yn ddyfnach; ond, sut fath o gamymddygiad sy'n cael ei gosbi gan y parafilwyr? A oes graddfeydd o gosbau (ai alltudio ydi'r eithaf?) Ac oni fyddai braidd yn anghyson i'r rhai hynny sydd yn y fasnach gyffuriau farnu a chosbi aelodau eraill o'r gymuned am dramgwyddo? Mae'n siŵr bod hon yn sefyllfa sy'n anodd i unrhywun ei hamgyffred heb brofiad o fod mewn cymuned a fu dan warchae fwy na heb ers degawdau.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan pogon_szczec » Iau 25 Rhag 2003 11:05 pm

I fod yn gwbl onest dwi'n gweld mwy o sens mewn cyfraniadau Mred na S.W., er fod S.W. yn treial dadleu yn gwrtais.

Gofynodd Mred:

Sut fath o gamymddygiad sy'n cael ei gosbi gan y parafilwyr?

Dwi di gwneud tipyn bach o ymychwil i mewn i'r pwnc. Mae'r wybodaeth yn cyfeirio at gweithgareddau yr IRA yn unig, ond dwi ddim yn amau bod trais y teyrngarwyr cynddrwg a thrais y gweriniaethwyr.

THOSE WACKY IRISH FREEDOM FIGHTERS DONTCHA JUST LOVE 'EM !!!


"The motive can be a personal grudge or real or imagined slight."


SOUTH ARMAGH COUPLE FORCED INTO EXILE FOR MIXED MARRIAGE


15 YEAR OLD BOY EXILED FOR PLAYGROUND FIGHT WITH SON OF REPUBLICAN


WOMAN EXILED FOR ENDING RELATIONSHIP WITH REPUBLICAN


http://www.wsws.org/articles/1999/sep19 ... -s03.shtml

Dyma linc da:

IRA SHOOT BOY FOR BREAKING WINDOW


linc

Un arall:

BOY(15) BEATEN WITH IRON BARS


linc

Amlwg bod unrhyw un sy'n gefnogol i'r fath na o 'blismona' naill ai yn poeni dim am hawliau dynol, neu yn anwybyddus o'r dulliau sy'n cael eu defnyddio.


[gol: wedi rhoi'r lincs a oedd yn torri'r dudalen mewn tagiau. Nic.]
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan mred » Gwe 26 Rhag 2003 1:52 am

Er fod gennyt bwyntiau dilys, dydw'i ddim yn gweld dy farn di ar Ogledd Iwerddon at ei gilydd, o'r hyn ydw'i wedi'i ddarllen beth bynnag, yn gytbwys; nac yn adeiladol iawn (yng nghyd-destun dyfodol y dalaith). Fuaset ti'n deud bod Prydain - gan olygu hefyd y lluoedd arfog/RUC - wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau yno ar draul y Catholigion?

Mae gennyf fi'n bersonol brofiad o'r modd y mae cynrychiolwyr y wladwriaeth, yn yr achos yma yr heddlu, yn barod i ddefnyddio trais yn erbyn bobl a merched diamddiffyn, i sathru ar hawliau sifil cymuned, gosod gwarchae ar gartrefi bobl ddiniwed, camdyngu (perjure) eu tystiolaeth ar raddfa enfawr o'r top i'r gwaelod er mwyn gwyrdroi cyfiawnder, goddef presenoldeb gwerthwyr cyffuriau mewn cymuned er mwyn cael gwybodaeth, gollwng merch ifanc yn ei phais nos ar strydoedd tref oriau mân y bore (a rhoi enghraifft fwy penodol), ayb.

Mae gallu'r wladwriaeth ganolog i ormesu ei phoblogaeth yn llawer mwy nag unrhyw gasgliad o'i deiliaid/dinasyddion. Hi sy'n dal holl awenau grym wedi'r cwbl. Os y bu i drais gael ei normaleiddio yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, yr oedd gan y wladwriaeth ran bwysig yn hyn, boed fel gweithredydd (e.e.yn Deri), neu drwy gydweithrediad (e.e.llofruddio ymgyrchwyr hawliau sifil), neu mewn rôl fwy oddefol.

Oherwydd y gallu yma i ormesu, mae'n hollbwysig fod cynrychiolwyr y wladwriaeth yn gorfod ateb am eu camymddygiad, er mwyn eu ffrwyno, gan mai natur sefydliadau ydi i wthio'r ffiniau'n gyson. Dyma sut y gall gwladwriaeth ffasgaidd ddatblygu.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan pogon_szczec » Gwe 26 Rhag 2003 1:49 pm

Ymateb i Mred:

mred a ddywedodd:Er fod gennyt bwyntiau dilys, dydw'i ddim yn gweld dy farn di ar Ogledd Iwerddon at ei gilydd, o'r hyn ydw'i wedi'i ddarllen beth bynnag, yn gytbwys; nac yn adeiladol iawn (yng nghyd-destun dyfodol y dalaith).


Dwi ddim yn treial bod yn gytbwys, dwi'n amddiffyn safbwynt cymuned Unioliaethol Gogledd Iwerddon am fod sut gymaint o ragfarn yn eu herbyn ymhlith y Cymry Cymraeg.

Dwi'n fodlon condemnio ymosodiadau secterianaidd gan 'deyrngarwyr' ar Babyddion yn yr un termau a ymosodiadau Sinn Fein/I.R.A. ar Brotestaniaid.

Fuaset ti'n deud bod Prydain - gan olygu hefyd y lluoedd arfog/RUC - wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau yno ar draul y Catholigion?


Cwestiwn anodd iawn.

Ni allaf gyfiawnhau popeth a wnaethon nhw, ond gobeithio alla i rhoi camymddygiad y lluoedd arfog/R.U.C. yn y gyd-destun iawn.

O ran yr RUC, pan gawson eu sefydlu roedd 30% eu aelodau yn Babyddion. Erbyn y 90au roedd y ffigwr wedi gostwng i 8%. Sdim syndod oherwydd bod yr I.R.A. yn dargedu Pabyddion a oedd yn aelodau yr R.U.C..

Cofia taw bodau dynol gyda emosiynau a nid robots yw heddweision a milwyr. Os dwi'n cofio yn iawn mae 300 aelod y R.U.C. wedi'u lladd gan yr I.R.A.. Dwi ddim yn cael fy synnu bod rhai yn edrych am ddial.

Eamon Collins a sgrifennodd 'Killing Rage' oedd Intelligence Officer y I.R.A. yn Newry pan gafodd 10 heddwas eu lladd mewn bom. Darllenais ei ddisgrifiad o gael ei interegatio gan y R.U.C. yn Newry syth ar ol y digwyddiad. Nid oedd y heddlu yn gwrtais iawn iddo i weud y lleiaf. Sut yn gwmws mae dyn yn disgwyl i'r heddweision ymateb i bennaeth leol y IRA yn son am ei hawliau syth ar ol i 10 o'i mets wedi'u lladd.

Dwi ddim yn amau bod y R.U.C. wedi anwybyddu hawliau y rhai a gafodd eu hinteregatio ganddynt. Beth mae dyn yn disgwyl mewn conflict gwaedlyd, brwnt pan oeddynt yn cael eu saethu yn gyson. Ond:

Ni wnaethon nhw lladd mewn gwaed oer, tynnu bysedd oddi ar law fel wnaeth yr I.R.A. yn achos McConville, gweddw a mam i ddeg, ni wnaethon nhw gladdu neb mewn lleoliad dirgel heb weud wrth eu perthynasau ac yn y blaen ...................

Mae gennyf fi'n bersonol brofiad o'r modd y mae cynrychiolwyr y wladwriaeth, yn yr achos yma yr heddlu, yn barod i ddefnyddio trais yn erbyn bobl a merched diamddiffyn, i sathru ar hawliau sifil cymuned, gosod gwarchae ar gartrefi bobl ddiniwed, camdyngu (perjure) eu tystiolaeth ar raddfa enfawr o'r top i'r gwaelod er mwyn gwyrdroi cyfiawnder, goddef presenoldeb gwerthwyr cyffuriau mewn cymuned er mwyn cael gwybodaeth, gollwng merch ifanc yn ei phais nos ar strydoedd tref oriau mân y bore (a rhoi enghraifft fwy penodol), ac y y b.


Felly gweud wrthon ni am dy brofiadau. 'Falle bod da fi rywbeth i ddysgu.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 26 Rhag 2003 6:16 pm

Felly poggon ella fod hin amser derbyn fod pawb di neud petha drwg, A symyd ymlaen? Does dim yn stopio poenydwyr o'r ochr "teyrngarol" rhag fod yn rhan or broses felly pam ddylid stopio pobl fel Mc Guinness? Ai dim ond achos fod gan y "teyrngarwyr" grym ymerodraeth prydain yn gefn iddynt?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Sioni Size » Sad 27 Rhag 2003 5:37 pm

Dwi wedi astudio dy linciau di Pogon, a fel oeddwn yn tybio does na ddim rhithyn o dystiolaeth ynddyn nhw o'r IRA yn delio mewn cyffuriau fel sefydliad. Wrth deipio dy search i fewn roedd na lawer o weiddi gan wefannau ond unwaith eto dim tystiolaeth fod yr IRA yn proffidio o'r diwydiant cyffuriau. Fel dywedais eisioes, mae'r heddlu yn cyfaddef fod hyn yn gelwydd.
Mae dros hanner y lincs yn ymwneud hefo FARC. Siawns fod pawb yn gwybod y nonsens mae'r Americans yn eu godi yn erbyn y mudiad i gael eu ffordd yng Ngholombia a'u 'War on Drugs'. Fydda na neb call yn coelio intelligence America pan mae hi'n dod at Golombia.
Mae llawer o dystiolaeth o'r IRA yn lladd delwyr cyffuriau ar ol llawer o rybuddion gennyt, ond dim ond cyhuddiadau yn unig eu bod yn proffidio yn y diwydiant, fel sydd yna wastad er mwyn cadw'r bai ar y ddwy ochr. Pan mae'r loyalists ar fai mae angen balans da chi'n gweld.
Mae'r celwydd yma mor eang fel ei fod y rhan o'r ffeithiau bellach.
Pwynt bach ond pwysig.
Pogon, a oedd yr IRA yn saethu at yr RUC yn y chwedegau, yn yr adeg pan oedd yr RUC yn helpu'r teyrngarwyr yn eu ymosodiadau ar gatholigion? Oeddan nhw? Ta i ganlyniad i'r ffaith mai byddin loyalist mewn iwnifform swyddogol oedd y gwrthymosod. Pa run Pogon?
Ia siwr, yr IRA oedd yn gyfrifol fod Catholics yn gadael yr RUC, nid ymddygiad y swyddogion dewr hynny tuag at y catholics. Gwych.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan pogon_szczec » Sad 27 Rhag 2003 10:39 pm

Sioni Size a ddywedodd: yn Wrth deipio dy search i fewn roedd na lawer o weiddi gan wefannau ond unwaith eto dim tystiolaeth fod yr IRA yn proffidio o'r diwydiant cyffuriau. Fel dywedais eisioes, mae'r heddlu yn cyfaddef fod hyn yn gelwydd.


Adroddiad swyddogol y U.S. Senate, sy'n cynnwys lobi Gwyddeleg cryf.

The drug dealers were shot because they had failed to pay 'protection' money to the provisonal I.R.A..


Ffynhonnell y wyodaeth yr R.U.C.


http://www.gao.gov/archive/2000/os00018r.pdf
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan pogon_szczec » Sul 28 Rhag 2003 1:56 am

SbecsPeledrX a ddywedodd:Felly poggon ella fod hin amser derbyn fod pawb di neud petha drwg, A symyd ymlaen? Does dim yn stopio poenydwyr o'r ochr "teyrngarol" rhag fod yn rhan or broses felly pam ddylid stopio pobl fel Mc Guinness? Ai dim ond achos fod gan y "teyrngarwyr" grym ymerodraeth prydain yn gefn iddynt?


Ni ddylai'r teyrngarwyr fod yn rhan o'r proses. Nid yw'r pleidiau 'teyrngarol' yn cael hyd yn oed 2% y pleidlais yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r llwyodraeth Prydeinig yn iselheu ei hun wrth siarad a nhw. Fyddan nhw ddim yn trin y B.N.P. gyda pharch ym Mhyrydain Fawr.

Adair/McGuinness yw dau ochr yr un geiniog.

Adair = thug

McGuinness = articulate and plausible thug in an Armani suit
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Sioni Size » Sul 28 Rhag 2003 6:33 pm

Ond mae Sinn Fein yn cael chwarter y bleidlais. Ti'n gwrthddweud dy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan pogon_szczec » Sad 10 Ion 2004 5:49 pm

[]
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron