Tudalen 8 o 9

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2004 5:51 pm
gan pogon_szczec
pogon_szczecin a ddywedodd:[quote=Soni Size]

Mae ffiniau eraill yn cael eu creu gan imperialwyr megis, i blwcio enghraifft o'r awyr, Lloegr, fel ddigwyddodd yn Rhodesia, Ulster, Hong Kong, Gibraltar ac yn y blaen, er mwyn creu coloni imperialaidd. Y mwyaf o bobl fedr yr imperialwyr ei gael i'r llefydd yma gan hel y trigolion o'u ffermydd a'u cartrefi y gorau fydd eu rheolaeth. Mae'n amrywio yn ei lwyddiant, ond fel y gwelir yn Ulster pan mae'n gweithio, mae'n gweithio'n arbennig.

Felly mae rhai ffiniau yn cael eu creu i ryddhau pobl, tra mae eraill yn cael eu creu i gaethiwo pobl.


Enghraifftiau gwych:

Hong Kong

Pa mor anffodus oedd pobl Hong Kong o'u cymharu a Tsieina. Roedd rhaid iddynt ddioddef safon o fyw 10 gwaith neu fwy yn uwch, a ni chawson y cyfle i fwynhau'r Cultural Revolution na'r newyn. Tybed pam oedd sut gymaint ishe gamblo eu bywydau trwy ffoi rhag baradwys Tsieinaidd Comiwnyddol i'r gormeswyr cyfalafol creulon Anglo-Sacsonaidd?

Gibraltar
Mae'r Sbaenwyr sy'n byw yn Gibraltar yn cael eu gormesu sut gymaint gan yr Ymerodraeth Brydeinig bwerus ddrwg, dim ond 99% ohonynt bleidleisiodd o blaid aros fel coloni Prydeinig.

Rhodesia

O'n i'n meddwl byddai rhywun mor P.C. a tithau yn ei galw yn 'Zimbabwe'.
Pam y ffwc nad wyt ti'n mynd i fyw na gan nad wyt ti gwyn dy fyd mewn coloni Prydeinig. Wedi'r cyfan ti'n rhannu yn gwmws yr un credau a Mugabe. Mae fe di cael gwared o'r coloneiddwyr Anglo-Sacsonaidd. Mae fe'n credu mewn Sosialaeth. Yn debyg i tithau nid oes diddordeb da fe mewn barnau/ffeithiau sy'n mynd yn groes i'w credau ffasgaidd anwybyddus. (A gyda llaw mae'n hoff iawn o ranto yn ddi-bwrpas).

Beth sy'n od am Zimbabwe yw'r ffaith nad yw'r wlad yn or-lwyddiannus ar hyn o bryd. Mae ganddyn nhw diweithdra o 60%, chwyddiant o 400%, prinder o fwydydd sylfaenol ac AIDS epidemic. Ar ol 20 mlynedd o annibyniaeth mae safon bywyd trigolion Zimbabwe llawer yn waeth nag oedd e o dan yr Ymerodraeth. Sut mae hynny wedi digwydd?

Mae'r ateb yn syml. Nid gormeswyr oedd cyfalafwyr/coloneiddwyr Rhosdesia ond y rhai a ddaeth a'r sgiliau sy'n creu cyfoeth. Cael gwared ohonynt a ti'n cael gwared o'r gwydd sy'n dodi'r wy aur. Roedd gweddill cymdeithas yn hollol ddibynnol arnynt.

Digwyddodd yn gwmws yr un peth yn Rwsia dros hanner can mlynedd yn ol. Penderfynnodd Stalin licwidato'r kulaks (ffermwyr mawr) gan roi'r tir i'w gweithwyr. 10 miliwn a fu farw o newyn.

Sioni pam nad wyt ti'n gadael dy syniadau yn y canrif diweddaf lle y maent yn perthyn. Efallai nad yw'r newyddion wedi cyrraedd Pen LLyn eto ond mae'r byd wedi symud ymlaen tipyn bach ers '89.

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2004 6:00 pm
gan pogon_szczec
Cardi Bach a ddywedodd:sdim amser da fi i falu cachu gyda ti Comical Pogon - ond wyt ti wirionedol yn credu yn y nonsens na ti newydd sgwennu uchod? :ofn:

Imperialist o'r math gwaetha wyt ti pogon
.

Gewch chi gyfiwnhau y geiriau uchod plis Cardi.

Os dwi'n sgwennu nonsens, rhaid i ti ddangos fy ngwallau.

Ac os nag wyt ti'n gallu gwneud hynny rhaid i ti dderbyn, yng ngeiriau Boris, bod y gwir yn dy brifo.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 11:40 am
gan Sioni Size
Dwi'n gwerthfawrogi fod na lot o ymdrech wedi mynd at dy ddadansoddiad o'r colonis, Pogon, ond dwi'n methu deall beth oeddet ti'n drio brofi neu wrthbrofi.
Beth wyt ti wedi brofi yw datganiad Cardi dy fod yn imperialwr, sef y cwestiwn y gofynaist yn syth wedyn iddo fo brofi.

Mae un arall o dy lincs blaenorol di yn cyfeirio at unigolyn gafodd ei saethu yn ei goes am fod yn werthwr cyffuriau ar ol rhybuddion. Dim son am 'protection money', dim son am turf war, dim ond ei fod yn werthwr cyffuriau.
Dwi'n meddwl fod hynna'n eithafol braidd, ond dylid ei osod mewn cyd-destun o ardaloedd tlawd a phobl ifanc diwaith yn chwilio am ddihangfa, gan weld cyffuriau'n ryddhad ond yn chwalu eu bywyd yn y diwedd wrth iddynt chwilio am yr arian i'w prynu. Mewn ardaloedd lle nad oes neb yn cydweithredu hefo'r heddlu am resymau da.
Mae gwrthwynebiad yr IRA a chyffuriau i'w weld yn y Green Book, sef llawlyfr a chanllawiau yr IRA i'w aelodau.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 12:38 pm
gan Cardi Bach
pogon_szczecin a ddywedodd:

Enghraifftiau gwych:

Hong Kong

Pa mor anffodus oedd pobl Hong Kong o'u cymharu a Tsieina. Roedd rhaid iddynt ddioddef safon o fyw 10 gwaith neu fwy yn uwch, a ni chawson y cyfle i fwynhau'r Cultural Revolution na'r newyn. Tybed pam oedd sut gymaint ishe gamblo eu bywydau trwy ffoi rhag baradwys Tsieinaidd Comiwnyddol i'r gormeswyr cyfalafol creulon Anglo-Sacsonaidd?

Gibraltar
Mae'r Sbaenwyr sy'n byw yn Gibraltar yn cael eu gormesu sut gymaint gan yr Ymerodraeth Brydeinig bwerus ddrwg, dim ond 99% ohonynt bleidleisiodd o blaid aros fel coloni Prydeinig.

Rhodesia

O'n i'n meddwl byddai rhywun mor P.C. a tithau yn ei galw yn 'Zimbabwe'.
Pam y ffwc nad wyt ti'n mynd i fyw na gan nad wyt ti gwyn dy fyd mewn coloni Prydeinig. Wedi'r cyfan ti'n rhannu yn gwmws yr un credau a Mugabe. Mae fe di cael gwared o'r coloneiddwyr Anglo-Sacsonaidd. Mae fe'n credu mewn Sosialaeth. Yn debyg i tithau nid oes diddordeb da fe mewn barnau/ffeithiau sy'n mynd yn groes i'w credau ffasgaidd anwybyddus. (A gyda llaw mae'n hoff iawn o ranto yn ddi-bwrpas).

Beth sy'n od am Zimbabwe yw'r ffaith nad yw'r wlad yn or-lwyddiannus ar hyn o bryd. Mae ganddyn nhw diweithdra o 60%, chwyddiant o 400%, prinder o fwydydd sylfaenol ac AIDS epidemic. Ar ol 20 mlynedd o annibyniaeth mae safon bywyd trigolion Zimbabwe llawer yn waeth nag oedd e o dan yr Ymerodraeth. Sut mae hynny wedi digwydd?

Mae'r ateb yn syml. Nid gormeswyr oedd cyfalafwyr/coloneiddwyr Rhosdesia ond y rhai a ddaeth a'r sgiliau sy'n creu cyfoeth. Cael gwared ohonynt a ti'n cael gwared o'r gwydd sy'n dodi'r wy aur. Roedd gweddill cymdeithas yn hollol ddibynnol arnynt.

Digwyddodd yn gwmws yr un peth yn Rwsia dros hanner can mlynedd yn ol. Penderfynnodd Stalin licwidato'r kulaks (ffermwyr mawr) gan roi'r tir i'w gweithwyr. 10 miliwn a fu farw o newyn.

Sioni pam nad wyt ti'n gadael dy syniadau yn y canrif diweddaf lle y maent yn perthyn. Efallai nad yw'r newyddion wedi cyrraedd Pen LLyn eto ond mae'r byd wedi symud ymlaen tipyn bach ers '89.


Yr hyn sydd yma, fel atega Sioni, yw'r gred fod yr ardaloedd a nodir uchod yn well o dan reolaeth ymerodraeth Prydain - ac felly fod Prydain yn gwybod yn well sut i reoli pobl - nag o dan hunan-reolaeth ei phobl eu hun.

Imperialaeth yw hyn.

Imperialaeth o'r math gwaethaf am dy fod di'n traddodi ac yn arddel syniadau sydd wedi hen farw mas ym mhrif ffrwd gwleidyddiaeth Prydain ers hanner canrif bellach, ac yn estyn yn ol i ddyddiau Victoria.

Hefyd dy fod ti'n dewis anwybyddu llwybr hanes er mwyn gweld yr ymerodraeth yn wynach na gwyn, ac felly yn dweud fod dioddefaint miliynnau o bobl o dan drefn gormesol ac alien yn dda ac y dylai pobl fod yn ddiolchgar yn lle cwyno (tebyg iawn i Kilroy-Silk).

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 1:06 pm
gan Sioni Size
Hollol. Dy ddadl di, Pogon, yw mai'r unig ddewis arall i God Save the Queen ydi Stalin. Neu Mugabe.

Wyt ti wirioneddol yn meddwl mai o dras Sbaeneg mae pobl Gibraltar yn dod? Mae dy ffigwr o 99% fwy neu lai'n gywir, ond yn profi pa mor lwyddianus oedd coloneiddio'r Saeson yn medru bod.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 1:31 pm
gan pogon_szczec
Cardi Bach a ddywedodd:
Yr hyn sydd yma, fel atega Sioni, yw'r gred fod yr ardaloedd a nodir uchod yn well o dan reolaeth ymerodraeth Prydain - ac felly fod Prydain yn gwybod yn well sut i reoli pobl - nag o dan hunan-reolaeth ei phobl eu hun.


Y pwynt ydi, yn ddi-os, yr oeddynt yn well off.

Pam nad wyt ti'n ddigon ddewr i gydnabod hynny?

Mae'n ddiddorol hefyd bod gwledydd sy'n dilyn y llwybr 'cyfalafol' megis De Gorea, Singapore a Hong Kong yn llwyddo, a'r rhai sy'n mabwysiadu polisiau y chwith fel Zimbabwe, Tanzania, Gogledd Gorea yn ffaelu.

Efallai nad yw fy syniadau yn ffasiynol iawn ar faes-e, ond o leiaf mae tystiolaeth hanesyddol ac economaidd ar fy ochr.

Sori os yw'r gwir yn dy brifo.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 1:39 pm
gan Sioni Size
Yn amlwg roedd y rhai gwyn yn well off pogon, yn enwedig y rhai oedd yn siarad Saesneg.
Efallai nad oedd y rhai oedd yn cael eu concro mor llewyrchus a hynny dan gyfundrefn y cotiau coch.

Wyt ti'n trio dweud mai pwrpas Empire Prydain oedd i daenu goleuni a gwarineb dros y byd?

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 4:54 pm
gan Sosij Fowr
ma McGuinnes wedi'i ethol i gynrychioli'r Pabyddion - pobol oedd ddim yn cael dweud eu dweud ar fater llywodraethu Gogledd Iwerddon - os ti'm isho boms a bwledi a marwolaeth, rhaid ti gynnwys pawb yn y penderfyniada pwysig ar gyfer y dyfodol.

drwy lywodraethu ar gyfer cordior yr M4 yn unig, rhagwelaf y bydd craprwydd Llywodraeth Caerdydd dros Gymru yn arwain at armagedon

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 5:17 pm
gan Sioni Size
:lol:
Hissht! Paid a deud wrth bawb!

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 12:22 am
gan Eamon
Newt a ddywedodd:Hyd at 2003 ail blaid Genedlaethol Gogledd Iwerddon oedd Sinn Fein ac eto mi roedd y blaid yn cyfiawnhau rhyfel treisgar gyda'r bwriad o greu Iwerddon Unedig.

Mae hyn yn ffeithiol anghywir. Cafodd SF fwy o bleidleisiau na'r SDLP yn etholiadau lleol 2001 ac yn etholiadau Westminster 2001.