Ffasgiaeth Gogledd iwerddon
Postiwyd:
Maw 18 Tach 2003 8:49 am
gan Chris Castle
Mae
erthygl yma yn braslunio ffasgiaeth yng Ngogledd iwerddon a'i chyswllt ag aelodau/cefnogwyr y grwpiau "Teyrngarol"
[/url]
Postiwyd:
Mer 26 Tach 2003 12:14 pm
gan Garnet Bowen
Tydi hyn ddim yn broblem ymysg y man bleidiau eithafol yn unig. Mae gan Ian Paisley gysylltiadau clos gyda nifer o ffigyrau amheus yn America. Mae ganddo ddoethuriaeth anrhydedd gan Brifysgol Bob Jones, prifysgol a oedd, tan 2000, yn gwahardd myfyrwyr rhag mynd allan efo aelodau o hil arall.
O ddeud hynnu, tydi gweriniaeth Iwerddon ddim yn ddi-fai chwaith. Mae 'na hen draddodiad ffasgaidd yn perthyn i'r mudiad gweriniaethol. Aeth na nifer sylweddol o Wyddelod draw i ymladd ar ochr Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen, penderfynnodd Iwerddon aros yn niwtral yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae Dulyn yn adnabyddus hyd heddiw fel dinas arbennig o hiliol.