Trethi a gwasanaethau

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Tach 2003 11:49 am

Dwi'n cytuno yn llwyr efo be ma Garnet newydd ddeud. Mae angen gwneud rhywbeth, a dydi pwmpio pres mewn i system aneffeithiol yn gwneud dim da.
Yr unig beth da ni'n neud ar y funud ydi patcho fynnu'r creithia hefo plastars, ma angan syrjeri go iawn ar y claf i'w wella fo go iawn!
Ond swn i methu byw yn rhywle lle fedrith y tlawd ddim cael gwellhad am ei bod nhw'n dlawd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Llun 24 Tach 2003 7:06 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ond swn i methu byw yn rhywle lle fedrith y tlawd ddim cael gwellhad am ei bod nhw'n dlawd.


Y broblem yw yn y pendraw means testing sydd yn golygu fod pobl yn gwybod geith nhw ddim eu gwrthod triniaeth am eu bod yn dlawd. Dwi ddim am i bobl gael eu gwrthod triniaeth ond mae gormod yn cymryd y piss yn y wlad ma hefo iechyd. Dwi'n meddwl dylai NHS ond fod i'r bobl hynny sydd hefo dim byd, safety net yw o i fod i osgoi peidio trin pobl am bod nhw'n dlawd.

Wrth i fwy fynd yn breifat, bydd y straen ar yr NHS yn lleihau a gyda amser fydd hi'n bosib tori gwariant mewn i'r NHS fel yn y pendraw bydd o ond yno fel safety net ddim fel gwasaneth 'am ddim' i bawb. Wrth dori gwariant ar NHS ti'n gallu tori trethi pobl felly gyda amser bydd pobl yn talu inswrans preifat yn lle talu trethi.

Wel dyna yw'r theori beth bynnag ond wrth gwrs dyw hi ddim mor hawdd a hynna i wneud y peth ddigwydd.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan S.W. » Maw 25 Tach 2003 9:24 am

Dydy gwasaneth iechyd preifat ddim yn gweithio. Mae'r galw am elw yn rhy uchel - mae'r buddsoddwyr i gyd eisiau arian yn nol yn y pendraw, does neb yn buddsoddi arian os nad ydynt am gael rhywbeth yn nol. Mae'r mess mae preifateiddio yn ei greu wedi ei phorfi yn y wlad yma eisioes. Mewn gweldydd fel America sydd gyda gwasanaeth iechyd preifat yn gorfod cael arian i gadw'r buddsoddwyr yn hapus trwy godi eu prisiau i fyny gan olygu bod llawer o bobl sydd angen gofal o'r fath ddim yn ei gael o - pobl o ardaloedd fel y Bronks etc.

Gwnaeth Clinton geisio greu sylfaen i math o NHS yn ei dymor olaf oherwydd bod nifer gynyddol o bobl ddim yn gallu fforddio'r insiwrans.A roedd yn rhan o faniffesto'r Democratiaid yn yr etholiad i gael Al Gore i fewn. Ond bellach mae'r ffwl Bush wedi gwhio'r cynllun yn nol gan ei gwneud hi'n waeth i'r pobl hynny.

Yn y bôn dydy gofal preifat ddim yn gweithio achos yn y diwedd elw sydd yn rheoli ac os dydyn nhw ddim yn cael elw wel mae prisiau yn mynd i fyny, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i bobl dalu mwy o insiwrans. Ar ben hynny byddai ysbytai a meddygfeydd yn cau lawr oherwydd bydd cwmniau yn ceisio cadw eu gariant i lawr felly yn lle trafeilio 30 milltir i'r ysbyty gellir disgwyl mynd e.e. 60 milltir. Dim yn swnio fel opsiwn da iawn i fi!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cwlcymro » Mer 26 Tach 2003 2:22 pm

Dwi'n meddwl dylai NHS ond fod i'r bobl hynny sydd hefo dim byd, safety net yw o i fod i osgoi peidio trin pobl am bod nhw'n dlawd.


Ond os, fel wti isho, fod pobl yn cael dewis, talu trethi am NHS a'i iwsho, neu peidio talu a peidio iwsho, yna fydd na ddim pres bron yn cael ei roi i'r NHS.

Ma'r system 'basic' yn America i'r bobl tlota yn cynnig dim mwy na 'patch them up and send them home'. Felly unwaith eto mi fydd pobl dlawd yn cael triniaeth wael, jusd achos bo nhw'n dlawd. Teg?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mr Gasyth » Mer 26 Tach 2003 4:39 pm

Pwy di'r bobl ma sy'n 'cymryd y piss' efo'r NHS? Bobl sal? Bobl dlawd? Pwy? Mi ddylai meddygon ac ysbytai drin y bobl fwyaf sal yn gyntaf, nid y person efo'r job bwysicaf fel wyt ti'n awgrymu RET. Ac os ddylai bobl gefnog gael stopio talu i mewn i'r NHS o lle yn union ma'r arian i redeg y gwasanaeth er mwyn y rheiny sydd methu fforddio yswyriant preifat yn mynd i ddod? Nid gan yr anffodusion sydd ar ol ma hynny'n saff, achos os na fedran nhw fforddio yswyriant yna go brin eu bod nhw'n talu lot o drethi chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Tach 2003 4:51 pm

RET79 a ddywedodd:Dwi ddim am i bobl gael eu gwrthod triniaeth ond mae gormod yn cymryd y piss yn y wlad ma hefo iechyd. Dwi'n meddwl dylai NHS ond fod i'r bobl hynny sydd hefo dim byd, safety net yw o i fod i osgoi peidio trin pobl am bod nhw'n dlawd.


Beth ti'n argymell felly ydi system lle mae'r rhai sy'n medru fforddio gwneud hynnu yn talu am wasanaeth o safon uchel, tra bo pawb arall yn bodloni efo gwasanaeth eilradd am ddim - y safety net honedig 'ma.

RET79 a ddywedodd:Wrth i fwy fynd yn breifat, bydd y straen ar yr NHS yn lleihau a gyda amser fydd hi'n bosib tori gwariant mewn i'r NHS fel yn y pendraw bydd o ond yno fel safety net ddim fel gwasaneth 'am ddim' i bawb. Wrth dori gwariant ar NHS ti'n gallu tori trethi pobl felly gyda amser bydd pobl yn talu inswrans preifat yn lle talu trethi.


Neu, wrth i fwy o bobl fynd yn breifat, mae mwy a mwy o'r adnoddau a personel gora yn symyd i'r sector breifat, gan ein arwain ni, yn y diwedd, at system lle mai dim ond y gwasanaeth mwyaf elfennol sy'n cael ei gynnig gan y wladwriaeth.

Dwi'n ategu'r pwynt fod y ddadl yma yn mynd a ni i dir moesol yn hytrach na rhesymegol. Dwi ddim jyst yn talu trethi i edrych ar fy ol fy hun, ond i sicrhau fod neb ym Mhrydain yn gorfod mynd heb unrhyw fath o driniaeth feddygol oherwydd eu bod nhw'n methu fforddio hynnu. I mi, dyna ydi un o brif swyddogaethau llywodraeth. Anarchiaeth ydi be' wyt ti'n ei gynnig.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Boris » Mer 26 Tach 2003 5:15 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Neu, wrth i fwy o bobl fynd yn breifat, mae mwy a mwy o'r adnoddau a personel gora yn symyd i'r sector breifat, gan ein arwain ni, yn y diwedd, at system lle mai dim ond y gwasanaeth mwyaf elfennol sy'n cael ei gynnig gan y wladwriaeth.

Dwi'n ategu'r pwynt fod y ddadl yma yn mynd a ni i dir moesol yn hytrach na rhesymegol. Dwi ddim jyst yn talu trethi i edrych ar fy ol fy hun, ond i sicrhau fod neb ym Mhrydain yn gorfod mynd heb unrhyw fath o driniaeth feddygol oherwydd eu bod nhw'n methu fforddio hynnu. I mi, dyna ydi un o brif swyddogaethau llywodraeth. Anarchiaeth ydi be' wyt ti'n ei gynnig.


Mae yna broblemau gyda dy ddadl.

yn gyntaf mae'r 'drifft' i Wasanaeth Iechyd Preifat eisioes yn digwydd. Ar hyn o bryd mae'r 'drifft' yma yn anheg iawn gan fod y rhai sy'n gallu talu ddwy waith yn gwneud hynny tra fod eraill yn methu. O leiaf mae syniad y Ceidwadwyr o gynnig 60% o ffioedd preifat ar sail 'means testing' yn agor y drws i fwy gael y dewis o driniaeth safonol. Perffaith - na. Gwell na'r hyn sy'n digwydd? Yn sicr.

Mae moesoldeb yn rhan o'r ddadl am dreth. Serch hynny, ychydig iawn o wasanaethau sydd ddim ar gael i bawb ym Mhrydain. Oes mae yna restrau aros, ond mae hynny oherwydd strwythyr stalinaidd biwrocratiaeth y Gwasanaeth Iechyd. Ond ai moesol yw sefyllfa sy'n gweld teuluoedd yn derbyn £37,000 y flwyddyn mewn budd-daliadau sy'n rhydd o dreth (ia, nol i 'wife swap') tra'n honni bod problemau iechyd yn ei gwahardd rhag gweithio tra fod unigolyn sy'n ennill £9,000 yn talu £1,211.85 mewn trethi ac Yswyriant Gwladol?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Garnet Bowen » Mer 26 Tach 2003 5:30 pm

Boris a ddywedodd:Yn gyntaf mae'r 'drifft' i Wasanaeth Iechyd Preifat eisioes yn digwydd. Ar hyn o bryd mae'r 'drifft' yma yn anheg iawn gan fod y rhai sy'n gallu talu ddwy waith yn gwneud hynny tra fod eraill yn methu.


Dwi ddim yn siwr os ydi hi cweit yn deg bo chdi'n disgrifio'r peth fel "talu ddwywaith". Wedi'r cwbwl, mae trethi yn gwneud mwy na dim ond talu am yr un driniaeth arbennig wyt ti yn ei chael. Yn fwy na thebyg, mi fydd dy drethi di wedi mynd tuag at dalu am flynyddoedd o hyfforddiant i ddoctoriad, er engraifft. Mae'r syniad o roi rheolaeth absoliwt i bobl sut mae nhw'n "gwario" eu trethi yn treiddio'n llawer dyfnach na dim ond iechyd. Ti'n galw am chwyldro sylfaenol yn y berthynas rhwng llywodraeth a'r unigolyn.

Sy'n dod a ni at yr ail bwynt.....

Boris a ddywedodd:Ai moesol yw sefyllfa sy'n gweld teuluoedd yn derbyn £37,000 y flwyddyn mewn budd-daliadau sy'n rhydd o dreth


Nacydi siwr. Ond nid dyma ydi rol llywodraeth yn fy marn i. Nid pasio pres o bocedi'r cyfoethog i bocedi'r tlawd. Ond yn hytrach, sicrhau fod rhai gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu i bawb.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan RET79 » Mer 26 Tach 2003 6:07 pm

Boris a ddywedodd:yn gyntaf mae'r 'drifft' i Wasanaeth Iechyd Preifat eisioes yn digwydd. Ar hyn o bryd mae'r 'drifft' yma yn anheg iawn gan fod y rhai sy'n gallu talu ddwy waith yn gwneud hynny tra fod eraill yn methu.


Cytuno.

Os yw pobl ddim yn hapus hefo'r gwasanaeth iechyd yna dwi ddim am eu stopio nhw i fuddsoddi mewn inswrans preifat i gael triniaeth breifat. Efallai bydd gallu fforddio hyn yn dibynnu ar weithio mwy neu i roi fyny rhywbeth (aberth). Sgen i ddim problem hefo hyn, felna mae bywyd yn gweithio. Ti'n gwneud penderfyniadau dros ti dy hun felly gei di roi dy arian mewn i'r pethau sydd bwysicaf i ti.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Boris » Mer 26 Tach 2003 6:10 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi ddim yn siwr os ydi hi cweit yn deg bo chdi'n disgrifio'r peth fel "talu ddwywaith". Wedi'r cwbwl, mae trethi yn gwneud mwy na dim ond talu am yr un driniaeth arbennig wyt ti yn ei chael. Yn fwy na thebyg, mi fydd dy drethi di wedi mynd tuag at dalu am flynyddoedd o hyfforddiant i ddoctoriad, er engraifft. Mae'r syniad o roi rheolaeth absoliwt i bobl sut mae nhw'n "gwario" eu trethi yn treiddio'n llawer dyfnach na dim ond iechyd. Ti'n galw am chwyldro sylfaenol yn y berthynas rhwng llywodraeth a'r unigolyn.



Ydw, ydw ac ydw eto.

Dyna'n union dwi'n neud. Yn 1945 cafwyd llywodraeth chwyldroadol oedd yn ddigon dewr i newid y berthynas rhwng pobl a llywodraeth. Yr oedd yna gyfiawnhad dros y newid gan fod angen cryfhau gofal y wladwriaeth o'r gwan.

Bellach mae angen chwyldor arall. Mae angen lleihau gryn y wladwriaeth a dibyniaeth pobl ar y wladwriaeth honno. Mae'r ffaith fod pobl sy'n ennill cymaint a £66,000 yn flynyddol yn gallu derbyn budd-daliadau 'means tested' yn hollol hurt. Nid nanny state oedd bwriad Nye Bevan ac eraill, ond yn 2003 dyna sydd ganddon, ac o glywed araith y frenhines nanny ffysi, hiliol yn erbyn mewnfudwyr a hynod o ddi hid o hawlia unigolion.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron