RET79 a ddywedodd:Dwi ddim am i bobl gael eu gwrthod triniaeth ond mae gormod yn cymryd y piss yn y wlad ma hefo iechyd. Dwi'n meddwl dylai NHS ond fod i'r bobl hynny sydd hefo dim byd, safety net yw o i fod i osgoi peidio trin pobl am bod nhw'n dlawd.
Beth ti'n argymell felly ydi system lle mae'r rhai sy'n medru fforddio gwneud hynnu yn talu am wasanaeth o safon uchel, tra bo pawb arall yn bodloni efo gwasanaeth eilradd am ddim - y
safety net honedig 'ma.
RET79 a ddywedodd:Wrth i fwy fynd yn breifat, bydd y straen ar yr NHS yn lleihau a gyda amser fydd hi'n bosib tori gwariant mewn i'r NHS fel yn y pendraw bydd o ond yno fel safety net ddim fel gwasaneth 'am ddim' i bawb. Wrth dori gwariant ar NHS ti'n gallu tori trethi pobl felly gyda amser bydd pobl yn talu inswrans preifat yn lle talu trethi.
Neu, wrth i fwy o bobl fynd yn breifat, mae mwy a mwy o'r adnoddau a personel gora yn symyd i'r sector breifat, gan ein arwain ni, yn y diwedd, at system lle mai dim ond y gwasanaeth mwyaf elfennol sy'n cael ei gynnig gan y wladwriaeth.
Dwi'n ategu'r pwynt fod y ddadl yma yn mynd a ni i dir moesol yn hytrach na rhesymegol. Dwi ddim jyst yn talu trethi i edrych ar fy ol fy hun, ond i sicrhau fod neb ym Mhrydain yn gorfod mynd heb unrhyw fath o driniaeth feddygol oherwydd eu bod nhw'n methu fforddio hynnu. I mi, dyna ydi un o brif swyddogaethau llywodraeth. Anarchiaeth ydi be' wyt ti'n ei gynnig.