Boris a ddywedodd:
Dyma ni wedi cyrraedd craidd y ddadl - talu dy drethi a mae'r llywodraeth yn dewis neu cadw dy drethi a dewis dy hyn.
Craidd dadl Sosialydd yw fod y wladwriaeth yn gwybod yn well, ond mae tystiolaeth o bob man yn dangos yn glir nad yw'r wladwriaeth yn gallu gwario yn effeithiol. Ers 1999 mae gwario ar iechyd yng Nghymru wedi codi 50% a mwy, mae na 3% yn fwy o gleifion yn cael triniaeth.
Ateb i'r broblem yma yn y Gwasaaeth Iechyd yw 'rhyddid i Ysbytai ac rhyddid i unigolion'. Mae'n allweddol fod pobl yn cael y dewis o ddefnyddio Ysbytai Penodol, a Cardi, fel un sydd wedi gweld cleifion o'r Gogledd yn gorfod mynd i Loegr dan y drefn bresennol, dwi'n credu y byddai dewis ysbytai yn rhywbeth y byddai amryw yn fwy na bodlon ei wneud er mwyn cael triniaeth safonol a phrydlon.
Yr hyn mae cystadleuaeth yn ei wneud yw caniatau i ysbytai wella er mwyn cystadlu am gleifion, ac o roi yr hawl i ddewis (+ arian cyfatebol) yn nwylo y claf yna mae yna farchnad mewn grym. Effaith grym y farchnad fydd ysbytai yn defnyddio arian yn gall er mwyn gwella eu peffromiad - llai o fiwrocratiaeth (mae yna dros 10% yn fwy o fiwrocratiaid yn yr NHS na sydd yna o wlau) a mwy o offer, buddsoddiad mewn glendid a rhaglen o ddenu staff meddygol yn ôl i'r system.
Y dewis arall yw parhau i daflu arian at y broblem heb unrhyw effaith amlwg. Mae'n ddyletswydd arnom i newid - mae'r sefyllfa sydd yn bodoli yn warth.
Wy ddim yn credu mod i erioed wedi honni fod y 'wladwriaeth yn gwbod yn well', ond yn sicr mae llywodraeth sy'n cael ei redeg, yn honedig, gan y bobl ermwyn y bobl yn gwybod yn well na busnes - ynghylch beth yw anghenion y gymdeithas. Ond dadl arall am beth yw sosialaeth yw hon, a finne fel ti ddim yn gefnogol o State Socialism (paid boddran mynd ar ol hon, fel wedes i, dadl arall yw hi).
Ond na un lle pendant lle yr y'n ni'n cytuno yw fod y drefn bresenol ddim yn gweithio, ac mai taflu arian heb ddim arwydd o welliant yw ateb y llywodraeth bresenol.
Ond ti'n son am dy brofaid o weld cleifion yn gorfod mynd o Ogledd Orllewin Cymru i Loegr, ac y byddai'n well ganddyn nhw gael dewis. dyma'n union beth oedd fy mhwynt blaenorol. O dan y drefn 'Foundation Hospitals', mae'n siwr y bydd ysbyty o Fanceinion neu Lerpwl yn ennill statws uwch a gwell na Ysbyty Gwynedd yn reit gloi oherwydd y boblogaeth leol a'r cyfoeth cymharol. pa ddewis fyddai hyn i gleifion Gwynedd a Mon? Bydd yr adnoddau a meddygon gorau oll yn yr ysbyty yn Manceinion, a bydd yn rhaid i gleifion - yn enwedig rhai a threfferthion arbenigol - Gwynedd a Mon deithio i Fanceinion. Beth sy'n wahanol? A ble mae'r dewis?
Wy ddim yn credu y gallwn i gefnogi system 'voucher'. Pam na ddylai pawb gael yr un gwasanaeth ym mhob ysbyty? Bydd dim rhaid 'dethol a dewis' wedyn.
Hynny yw os yw'r system Geidwadol yma o 'voucher' yn golygu fod pob ysbyty yn cael yr un arian a'r un adnoddau, yna pam cael voucher? Pam dewis mynd i Fanceinion pan fo'r union wasanaeth gystal ym Mangor?
Yr hyn ma'r voucher system a 'dewis' yn awgrymu i fi yw fod rhai ysbytai yn mynd i gael gwell adnoddau a rhai a gwaeth. Pan fo'n dod i hynny nid mater o ddewis yw hi ond mater o raid, sydd eto yn chwythu y ddadl ynghylch 'dewis'. Blyff yw 'dewis', ffordd pinc fflwffi o wisgo lan polisi sy'n mynd i olygu fod rhywrai rhwle yn mynd i golli mas.
Pan fo'n dod i iechyd dylai 'rhoi dewis' ddim fod yn opsiwn, ond yn hytrach dylai'r gwasanaeth fod yno pan fo angen.