Trethi a gwasanaethau

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Boris » Gwe 28 Tach 2003 2:00 pm

Chris Castle a ddywedodd:
dylid cyflwyno 'voucher' system sy'n caniatau i bawb ddewis lle i gael triniaeth.


Os chi'n mynnu cael triniaeth Preifat - ar gyfer hwyluso amseru y triniaeth (sunday gall ladder removel to avoid losing work time)/cael stafell moethus tra dan triniaeth ayyb, does dim 'da fi yn dy erbyn di.

Os ti'n defnyddio eich arian i lwgwobrio Meddygion Llwgr i roi triniaeth iti cyn eraill, mae hynny'n anfoesol

Os wyt am cael voucher system sydd mewn gwirionedd yn government sponsored discount system for the rich to subsidise their special treatment. Mae hynny'n anfoesol.


Cris, ti'n wrong.

Os di'r dosbarth canol ayb yn credu nad yw'r trethi sy'n cael eu talu yn troi yn wasanaeth yna fe fydden nhw yn cefnu ar y gwasanaeth iechyd ac fe fydd yn rhesymol gofyn 'pam talu'r dreth'.

O gael 'voucher' system mae PAWB yn cael yr hawl i ddewis ac hefyd yn cael budd o wasanaeth cyhoeddus - onid dyna ystyr 'stakeholding'? O weld budd o fod yn rhan o system gyhoeddus onid cryfhau yr NHS fydden ni?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cyfnod Mamolaeth » Gwe 28 Tach 2003 3:07 pm

mae'r rhan fwya o'r Dosbarth Canol eisoes wedi derbyn fod yr NHS yn warthus, ac yn talu ryw fath o yswiriant i gael eu trin yn sydyn yn yr ysbytai preifat (sydd yn dreth ychwanegol)

er mwyn codi safon Ysbytai fydda rhaid codi trethi, a fydda'r Dosbarth Canol Hunanol (Middle Englanders) byth yn derbyn hyn (ac yn fotio am y Blaid fydda'n gaddo'r trethi isaf - Toriaid) , felly does fawr o ddewis deud y gwir.

fel sosialydd, fyswn i'n cau ceg am godi trethi a gadael i'r Dosbarth Canol dalu'r ecstra am eu triniaeth breifat, a jest trio gwella sut mae'r arian ar gael i'r NHS yn cael ei wario, dan y drefn bresennol.
canlyniad Llafur yn codi trethi fydda buddugoliaeth i'r Toris - nad anghofier tacs bom Neil Piloc - a wedyn llai i'r NHS a vouchers a wedyn ysbytai da ac ysbytai shait (fel sydd gyda ni ar y foment ym myd addysg - ysgolion uwchradd da yn gorlifo, ac ysgolion cachu yn wag - cytuno efo Cardi - ni ddylid gadael Busnes yn agos at Iechyd ac Addysg. Ylwch y llanast ydi PFI - £500miliwn am lon werth £100 miliwn ar Ynys Mon yn esiampl dda o fyd busnes yn manteisio ar arian trethdalwyr - sglyfs

Ond pan ddaw'r Senedd i Gaerdydd, rhaid codi trethi i gynyddu'r Celc i gwffio ein legasi anffodus o afiechyd yma yng Nghymru - dyblu trethi slags cyfoethog Caerdydd a Gogledd Ddwyrain Cymru i helpu hwrs tlawd y gorllewin
Cyfnod Mamolaeth
 

Postiogan Boris » Gwe 28 Tach 2003 4:33 pm

Cyfnod Mamolaeth a ddywedodd:
Ond pan ddaw'r Senedd i Gaerdydd, rhaid codi trethi i gynyddu'r Celc i gwffio ein legasi anffodus o afiechyd yma yng Nghymru - dyblu trethi slags cyfoethog Caerdydd a Gogledd Ddwyrain Cymru i helpu hwrs tlawd y gorllewin


Dwi'n cael yr argraff fod 'hormones' cyfnod mamolaeth yn chwarae fyny.

Dwi'n credu fod diflaniad y dosbarthiadau canol o addysg a iechyd y wladwriaeth yn fwy tebygol o arwain at dranc y gwasanaethau hyn na unrhyw beth arall. Tydi iechyd ddim yn bwysig yng ngwleidyddiaeth UDA gan fod 75% o'r boblogaeth yn ok ac yn poeni dim am y 25% arall. Gyda system dreth yn talu am y gwasanaeth mae gan bawb (i fod) berchnogaeth ar y gwasanaethau cyhoeddus. O golli y perchnogaeth hwn (fel ym myd addysg yn Llundain) buan iawn y bydd 'middle England' ac hefyd 'middle Wales' o ran hynny yn gofyn "pam talu trethi?"

Holl bwrpas cynlluniau Liam Fox yw cadw diddordeb pobl yn y Gwasanaeth Iechyd. Dyna yw fy nealltwriaeth o fod wedi darllen manylion cynlluniau y Toriaid - ac ydw dwi'n ddigon o 'anorak' i wneud hynny.

O ran sefyllfa Cymru ar angen am fwy o wariant ohrwydd problemau iechyd diwydiannau trwm - 'rubbish'.

Mae ystadegau yn dangos fod y sefyllfa yn Ngogledd Orllewin Lloegr, Newcastle, Maesydd Glo Durham a melinau dur Middlesborough yn llawer gwell na'r sefyllfa yng Nghymru. Fel dwi di deud o'r blaen, os mai arian yw'r ateb yna pam, gyda'r Cynulliad yn gwario 50% yn fwy ar iechyd fod dom ond 3% yn fwy o gleifion yn cael triniaeth?

Mae lle i rants bob amser o fewn Maes e, ond mae lle hefyd i ddadl resymol. Mae'n rhaid newid y drefn os am wasanaeth gwell, a tydi arian ddim yn ateb i bob problem.

Ac un pwynt arall. Bob tro mae'r ddadl am fusnes a gwasanaethau cyhoeddus mae y chwith yn son am PFI neu Railtrack. Pam ddim BT? Pam ddim BP? Pam ddim Easy Jet, BMI Baby neu Duo? Dan yr hen system gyda BA yn nwylo y llywodraeth fyddai'r chwyldro hwn mewn trafeilio erioed wedi digwydd. Diolch i'r drefn am y farchnad rydd dwi'n ddweud.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron