Trethi a gwasanaethau

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Trethi a gwasanaethau

Postiogan RET79 » Gwe 21 Tach 2003 5:50 pm

Wel, dwi'n talu fy nhrethi incwm, treth cyngor, NI, VAT, leisans TV, treth car... dipyn o drethi mewn gwirionedd. Mae ymchwiliadau wedi dangos fod am hanner y flwyddyn waith ti'n gweithio i'r llywodreath.

Dau enghraifft o'r gwasanaeth di-ddim dwi'n ei gael.

1. GPs. Fedra i ddim cael apwyntiad hefo doctor os dwi'n sal os nad ydw i'n cicio stwr uffernol ar y ffon a'i ddisgrifio fel 'emergency'. Hyd yn oed ar ol defnyddio'r gair yna dwi'n lwcus i gael gweld doctor y diwrnod wedyn. A dwi'n gorfod talu prescriptiwn llawn bob tro.

2. Heddlu. Roedd diffyg diddordeb yr heddlu yn y ffaith fod lleidr wedi tori fewn i fy nghar a dwyn fy 6CD changer a 15 CD yn dweud cyfrolau. Wnaeth nhw wrthod dod i weld y car hyd yn oed. Dim help o gwbl. Waeth iddyn nhw ddweud wrtha i "don't bother calling next time" ddim.

Ar ol cysidro'r holl drethi dwi yn ei dalu yna mae'r gwasanaeth hyn yn ddiawledig o sal.

Hoffwn gael mwy o ddewis personol yn y pobl dwi eisiau i wylio ar ol fy eiddo a fy iechyd. Mae gen i ofn hefo'r system bresennol mod i'n talu lot fewn ond cael ychydig iawn allan.

Trafodwch.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Newt Gingrich » Sad 22 Tach 2003 1:11 am

Cytuno'n llwyr. A dyma fydd maes y gad yn yr etholiad nesaf.

Pam, gyda trethi wedi codi 50%, fod Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwaethygu. Mae New Labour wedi chwythu y ddadl tax and spend drwy ddiffyg llwyddiant polisi o wario mwy heb effaith.

Yng Nghymru mae gwariant ar y gwasanaeth iechyd wedi codi 60% ers dyfodiad y Cynulliad ond mae llai yn cael triniaeth - so be di'r pwynt.

Nid mwy o arian yw'r ateb ond newid y system.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan RET79 » Sad 22 Tach 2003 1:19 am

Cywir. Mae taflu mwy o arian at system sydd yn aneffeithlon, ac yn methu pobl eisoes, yn wastraff mwy byth o arian.

Dwi o blaid y syniad o allu optio allan o wasanaethau'r wlad, cael refund o'r trethi wedyn buaswn yn ddigon hapus topio fo fyny hefo arian fy hyn i fynd at pwy dwi'n dewis i gael gwasanaeth lawer gwell.

O fy mhrofiad i o fynd at GP, rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel person eilradd pan dwi'n dweud dwi'n drethdalwr pan yn fy marn i dylai trethdalwyr fod ar flaen y ciw. Mae'n bwysicach fod trethdalwyr yn cael blaenoriaeth am driniaeth gan bob diwrnod mae nhw off y gwaith yn sal mae'r cyflogwr yn colli arian ac mae'r wlad yn colli arian yn y pendraw.

Pan roeddwn yn byw yng Ngwynedd roeddwn yn talu'r prescrptiwn yn y surgery ond doedd ganddyn nhw byth newid allan o ddecpunt gan fod dim lot o arian yn y till gan roedd y rhan fwyaf o bobl yn cael y moddion am ddim.

Y drwg yw, os ti ddim yn talu am rywbeth ac yn ei gael am ddim bob tro, yna ti ddim yn ei werthfawrogi ac fe wnei di ei wastraffu.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan S.W. » Sad 22 Tach 2003 7:53 pm

Os byddet ti'n prynnu dy dabledi di etc trwy wasanaeth preifat h.y. tebyg i'r hyn sydd yn yr Unol Daleithiau baset ti'n gallu disgwyl talu hyd at deg gwaith cymaint a be wyt ti'n ei dalu o dan yr NHS!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Newt Gingrich » Sul 23 Tach 2003 1:40 am

S.W. a ddywedodd:Os byddet ti'n prynnu dy dabledi di etc trwy wasanaeth preifat h.y. tebyg i'r hyn sydd yn yr Unol Daleithiau baset ti'n gallu disgwyl talu hyd at deg gwaith cymaint a be wyt ti'n ei dalu o dan yr NHS!


Dim bob amser yn wir.

Serch hynny SW, ti'n llygad dy le. Os am newid yr NHS ( a di am wneud hynny) yma mae'n rhaid cynnig ffordd well o weithredu.

Nid yr NHS sy'n bwysig ond hawl pawb yng Nghmru ( a Prydain) i gael gwasanaeth on safon. Dyna'r sialens.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Marwolaeth » Sul 23 Tach 2003 2:15 am

RET79 a ddywedodd:1. GPs. Fedra i ddim cael apwyntiad hefo doctor os dwi'n sal os nad ydw i'n cicio stwr uffernol ar y ffon a'i ddisgrifio fel 'emergency'. Hyd yn oed ar ol defnyddio'r gair yna dwi'n lwcus i gael gweld doctor y diwrnod wedyn. A dwi'n gorfod talu prescriptiwn llawn bob tro.

2. Heddlu. Roedd diffyg diddordeb yr heddlu yn y ffaith fod lleidr wedi tori fewn i fy nghar a dwyn fy 6CD changer a 15 CD yn dweud cyfrolau. Wnaeth nhw wrthod dod i weld y car hyd yn oed. Dim help o gwbl. Waeth iddyn nhw ddweud wrtha i "don't bother calling next time" ddim.


Mae gennyn nhw bysgod mwy i'w ffrio, debyg. Mae marw mewn gwledydd eraill yn broses hir a chostus. Does dim gwaeth na galaru wrth gareg fedd dy wr yn gwybod dy fod mewn dyled o'i herwydd.

Cofia bod ti yn cael mwy yn ol nag wyt ti yn ei feddwl. Rhyfedd hefyd dy fod ti yn dadlau cymaint o blaid rhyfeloedd pam bod cymaint o dy bres di yn cael ei wario arnyn nhw. Mi fysai bil arfogi Prydain flwyddyn nesa wedi gallu talu am eitha tipyn o calpol.
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan S.W. » Sul 23 Tach 2003 3:25 pm

Os byddet ti'n gallu cadw'r treth hynny wyt ti'n ei dalu at yr NHS a'i gadw o ar gyfer insiwrans iechyd ac ati. Elli di ddisgwyl talu mwy yn y pendraw nag wyt ti'n ei dalu ar yr NHS. Meddylia tori dy goes neu rhywbeth a methu ei gael o wedi'w drwsio nes dy fod wedi talu gyda dy gerdyn credyd yn gyntaf. Byddai cwmniau preifat yn y pendraw gyda un prif nod - elw! mae'r mess mae gwananaethau eraill sydd wedi cael eu preifateiddio - trennau, air traffic control, ynni niwclear etc yn brawf o hynny. Edrycha ar y mess mae'r cartrefi nyrsio ynddi - yn cau o hyd gan eu bod ddim yn gallu gwneud digon o arian, dyna fyddai'n digwydd i'r holl NHS yn y pendraw os byddai hynny'n digwydd. Byddai'n costio mwy i'r treth dalwr mewn grants i gadw nhw i fynd nag y byddai'r llywodraeth yn ei gael o'u gwerthu.

Bai Thatcher a wan Llafur Newydd adain dde bod yr holl wlad mewn mess a byddwn in dweud mae'r unig ateb ydy i ail wladoli railtrack yn llawn, dilyn hynny gyda'r trennau. Yna'u cau nhw i lawr am ychydig o wythnosau a rhoi 'major overhaul' iddyn nhw. Bydd pobl yn cwyno ac yn gofyn am compo ond stwffio nhw, bydd nhw'n ddigon hapus unwaith bydd yr holl system wedi'w sortio. Yna gyda'r elw o'r gwaith yne (a mi fydd lot) ei rhoi o'n syth yn nol i fewn i coffrau'r llywodraeth iw wario ar bethau angenrheidiol. Gellir cymryd lot mwy o arian treth gan bobl sydd yn ennill dros £60,000. Ar un adeg roedd peldroedwyr tramor yn talu 80% o treth! Dydw i ddim yn dweud dylid trethu tramorwyr (ond fyddai hynny ddim yn syniad drwg mewn rhai ardaloedd). A dylid rhoi MP's ar 'performance related' pay fel mae nhw wedi ei wneud i athrawon. Byddai'n fodd o arbed arian, a neud siwr eu bod yn gweithio'n galed am eu arian yn lle crafu eu tinnau yn San Steffan a'r Cynulliad (fel mae nifer, ond dim pawb yn ei wneud).

Gwerthu tai'r Windsors i wasanaeth Tai - tai cyngor yndyn nhw yn y bôn a dyna sydd yn digwydd i dai cyngor ar draws Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Macsen » Sul 23 Tach 2003 4:43 pm

S.W. a ddywedodd:Yna'u cau nhw i lawr am ychydig o wythnosau a rhoi 'major overhaul' iddyn nhw. Bydd pobl yn cwyno ac yn gofyn am compo ond stwffio nhw, bydd nhw'n ddigon hapus unwaith bydd yr holl system wedi'w sortio.


Ond mai rhai pobl, yn enwedig yr rheini sy'n byw tu allan i Lundain yn gorfod mwynd i mewn bob bore, yn dibynnu yn hollol ar y trennau. Ac mi fysai yn cymeryd mwy nag ychydig o wythnosau i drwsio'r trennau; mae o'n cymeryd ryw dri mis i drwsio darnau bach o drac dyddiau yma.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Sul 23 Tach 2003 7:28 pm

Dwi ddim yn hoff o dalu mewn i system lle mae eraill ddim yn talu mewn ond yn cael yr un gwasanaeth.

Pam ddim talu inswrans iechyd preifat? Mae pobl yn talu inswrans ar ei tai, car, gwyliau... beth sydd bwysicach na talu i yswirio'ch iechyd?

Wrth gwrs, gyda trethi mor uchel mae hi'n anodd annog pobl i dalu inswrans iechyd pan mae gwasanaeth safonol i fod ar gael fel mae hi. Wedi dweud hyn, gyda amser dwi'n meddwl fydd llawer mwy o bobl yn rhoi fyny ar wasanaeth y wlad a mynd yn breifat.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Tach 2003 9:47 am

RET79 a ddywedodd:Dwi ddim yn hoff o dalu mewn i system lle mae eraill ddim yn talu mewn ond yn cael yr un gwasanaeth.

Pam ddim talu inswrans iechyd preifat? Mae pobl yn talu inswrans ar ei tai, car, gwyliau... beth sydd bwysicach na talu i yswirio'ch iechyd?

Wrth gwrs, gyda trethi mor uchel mae hi'n anodd annog pobl i dalu inswrans iechyd pan mae gwasanaeth safonol i fod ar gael fel mae hi. Wedi dweud hyn, gyda amser dwi'n meddwl fydd llawer mwy o bobl yn rhoi fyny ar wasanaeth y wlad a mynd yn breifat.


Efallai dy fod di'n teimlo fel hyn, ond dwi'n meddwl dy fod ti mewn lleifarif ym Mhrydain. Fedr rhywun ddim beio dy resymeg - pam ddylia rywun gael triniaeth am ddim? - ond mae hyn yn mynd yn ddyfnach na dim ond dadleuon oeraidd gwleidyddol. Fyddwn i ddim yn medru byw mewn gwlad lle mae person sal yn methu cael triniaeth oherwydd eu bod nhw'n rhy dlawd. A dwi'n meddwl fod mwyafrif llethol y boblogaeth yn teimlo yr un fath. Cwestiwn moesol, yn hytrach na gwleidyddol, ydi o i lawer o bobl.

Oes, mae angen diwygio'r drefn. Ond nid yswiriant preifat ydi'r ateb.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron