Tudalen 1 o 1

Oh Blydi 'Ell

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 7:52 pm
gan eusebio
Mae'r bardd Benjamin Zephaniah wedi gwrthod derbyn OBE, ac os dwi'n gywir, dwi'n credu mai'r person diwethaf i wrthod y fath 'anrhydedd' oedd Carwyn James oherwydd ei feddylfryd Cenedlaetholgar.

O gofio bod Cenedlaetholwyr mawr fel Sean Connery wedi derbyn anrhydeddau gan y Frenhines, fuasech chi'n derbyn gong?

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 7:55 pm
gan Di-Angen
Na byddwn i ddim yn derbyn un (incredibly unlikely anyway!!)

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 7:56 pm
gan Macsen
Mi fysai well gen i dderbyn Obo.... gwneud swn neis.

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 9:49 pm
gan Madrwyddygryf
Wel fys'n ni ddim yn meindio un. Ond byswn ni ddim yn gallu derbyn oherwydd fy nghred gweriniaethol

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 11:01 pm
gan Dylan
"Order of the British Empire"? Pa ffycing ymerodraeth? :)

felly, ym...na fyddwn

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2003 12:19 am
gan Macsen
Sa ti'n troi fyny yn gwisgo swan... sa fo'n gwneud joc o'r holl beth.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2003 10:36 am
gan Hogyn o Rachub
Nefar in Iwrop

PostioPostiwyd: Sad 29 Tach 2003 12:14 pm
gan Geraint
Na. Nefar. Byth.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 2:17 am
gan Huw T
Hmmm, byddwn i'n 'proud' iawn o weld fy nghyfraniad i ba bynnag faes yn cael ei gydnabod, mae'n rhaid i fi gyfadde. Ac mae na ddigon o Genedlaetholwyr (which technically dydw i ddim) wedi derbyn anrhydedd yn y gorffenol.

As for gweriniaethwyr (gweler rhuthffurf) .....ym :rolio: