Tudalen 1 o 3

Gogledd Iwerddon - Lle Rwan?

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2003 11:11 pm
gan Newt Gingrich
Wel, mae na rhai wythnosau ers i'r drafodaeth ynghylch Yr Urdd Oren dawelu. Serch hynny, yn ystod y drafodaeth honno bu i mi ddatgan sawl gwaith fod tanseilio Trimble yn gam gwag i'r broses heddwch gan mai'r DUP fyddai'n elwa.

Yn anffodus 'roeddwn yn gywir. Mae'r DUP wedi ennill 50% yn fwy o seddi gan godi o 20 i 30. Mae'r UUP wedi syrthio 1 yn unig o 28 i 27, ond mae'r 27 yma yn cynnwys sawl aelod sy'n cytuno efo'r DUP a ddim Trimble.

Mae SinnFein wedl canabaleiddio pleidlais genedlaetholgar Wyddelig y dalaith gan godi o 18 i 24 sedd. Mae'r SDP wedi syrthio o 24 i 18 sedd. Diddorol yw nodi mai dim ond un aelod o bleidiau sy'n cefnogi terfysgwyr teyrngarol gafodd ei ethol, sef David Irvine.

Lle rwan i Ogledd Iwerddon?

Dwi'n digaloni am Gytundeb Gwener y Groglith. Dan y cytundeb fe fydd rhaid i'r DUP (plaid fwyaf y senedd) enwebu Gweinidog Cyntaf. Yna fe fydd yn rhaid i Sinn Fein (plaid fwyaf Cenedlaetholwyr gwyddelig) enwebu dirprwy.

Felly Paisley + Adams neu McG = heddwch?

Dwi ddim yn optimist ac mae hyn yn gofyn gwyrth. 'Come back Trimble' ddywedwn i.

Trafodaeth gall plis :ofn:

PostioPostiwyd: Sad 29 Tach 2003 2:56 pm
gan pogon_szczec
Yr unig beth gallaf weud yw peidiwch byth a bychanu y Parch Ian Kyle Paisley.

Ychydig ddyddiau ar ol i gyfranwyr wedi pardduo ei enw mae'n mynd yn arweinydd y blaid fwyaf yng Ngogledd Iwerddon - yn anffodus ar ol dros 20 mlynedd o aros.

Sdim byd gas yn David Trimble, triodd e ei orau glas, ond ar ddiwedd y dydd doedd dim bwynt hyd yn oed treial rhannu pwer gyda mudiad mor wrthun a Sinn Fein/I.R.A..

Felly mae naifrwydd Trimble wedi'i golli arweiniaeth Unioliaethwyr Iwerddon ac y mae'n sicr o rannu tynged 'Lundy's eraill Iwerddon.

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 9:18 am
gan Chris Castle
peidiwch byth a bychanu y Parch Ian Kyle Paisley.


Mae'n gnweud jobyn da oddi wrtho ei hun.

Ond Na nid jôc yw e o gwbl. Peidiwch anghofiwch roedd syniadaeth anemocretaidd ef a'i ffrindiau (dim pleidleisiau na hawliau i babyddion) yn cadw pabyddion dan bawd. Heb eu siofinistiaeth a chasineb byddai Gogledd iwerddon yn gweithio.
Roedd agwedd pobl megis ef yn arwain at pabyddion mynd drosodd i Sien Fein. Tyfiant y DUP wnaeth achosi tranc yr SDLP.

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 1:26 pm
gan pogon_szczec
3 phwynt:

1. Pryd na chafodd Pabyddion y pleidlais yng Ngogledd Iwerddon?

2. Y llywodraeth Brydeinig wedi dinistrio y SDLP oherwydd eu bod yn gwrando mwy i Sinn Fein/IRA (oherwydd grwp arfog yn nhw)

3. Nid 'eithafol' yw gwrthod rhannu pwer gyda plaid efo adain arfog.

Mae'r cymuned Protestanaidd jyst wedi dangos synnwyr cyffredin trwy bleidleisio dros Paisley, dyn a fydd yn cadw at ei air h.y. DIM TERORISTS MEWN LLYWODRAETH.

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 1:50 pm
gan Mr Gasyth
A dim heddwch ychwaith.
Nid y ffaith fod Sinn Feinn yn gysylltiedig a mudiad terfysgol ydi problem Paisley efo nhw waeth bynnag be mae o'n ddeud. Ei wir broblem o ydi eu bod nhw'n Babyddion ac yn Weriniaethwyr a fod ganddyn nhw'r hyfdra i fynnu eu bod yn cael lle yn llywodraeth Gogledd Iwerddon. Fase gan Paisley ddim problem efo rhannu pwer efo terfysgwyr teyrngarol tase raid iddo fo.
Ma o'r gwleidydd mwya ffiaidd dwi rioed wedi dod ar ei draws a dwi'n gorfod chwerthin bob tro ma'n cael ei alw'n Reverend, dyn Duw ar f'enaid i!! Maddeuant? Car dy gymydog? Ma hi'n anffodus tu hwnt fod uniolaethwyr gogledd Iwerddon wedi penderfynnu llochesu y tu ol i'w atgasedd. Buan y gwelan nhw na all Paisley fyth sicrhau heddwch i Ogledd Iwerddon.

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 5:33 pm
gan ceribethlem
Cytuno gyda Aled.

Mae dy bwynt di Pogon:
Pryd na chafodd Pabyddion y pleidlais yng Ngogledd Iwerddon?

yn ymateb i Chris yn profi nad wyt yn darllen popeth mae pobl yn ei ddweud.
Dyma beth ddywedodd Chris:
Peidiwch anghofiwch roedd syniadaeth anemocretaidd ef a'i ffrindiau (dim pleidleisiau na hawliau i babyddion) yn cadw pabyddion dan bawd. Heb eu siofinistiaeth a chasineb byddai Gogledd iwerddon yn gweithio.

Mae Chris yn defnyddio'r gair syniadaeth, h.y. yw pe bai Paisley yn cael ei ffordd yna ni fyddai'r pabyddion yn cael pleidleisio.

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 9:14 am
gan Chris Castle
1. Pryd na chafodd Pabyddion y pleidlais yng Ngogledd Iwerddon?


Roedd rhaid bod yn "householder" i gael pleidlais am amser hir yn Iwerddon er oedd "universal franchise" ym Mhrydain - am rhesymau enwadol (sectarian) oedd hynny.
- i ymateb dy gwestiwn cyn ei gofyn, cadwyd Pabyddion mas o swyddi da gan y Protestaniaid. Felly sdim lot o Babyddion oedd yn "householders".

2. Y llywodraeth Brydeinig wedi dinistrio y SDLP oherwydd eu bod yn gwrando mwy i Sinn Fein/IRA (oherwydd grwp arfog yn nhw)


MAe pleidleiswyr yr SDLP wedi decharu pleidleisio dros y Llywodraeth te?

3. Nid 'eithafol' yw gwrthod rhannu pwer gyda plaid efo adain arfog.


Pan chi'n rhan o gyfundrefn sydd wedi elwa o drais Llywodraethol ac yn trio mynd yn ôl at math o apartheid mae YN. Nid yw'r DUP o ddifri dros ennill heddwch teg yn fy marn i. Mae eu aelodau nhw yr un mor ddrwg ag yw Sien Fein.

Cofiwch roedd pobl yn mynd drosodd i IRA/Sien Fein oddi ar yr SDLP o achos ysglyfaethion megis Paisley. Os nid yw'r GWLAD yn eich amddiffyn, dych chi'n mynd drosodd i'r "Freedom Fighters". - gwir yn Iwerddon, Gwir yng Ngwlad Pwyl.

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 9:21 am
gan Chris Castle
DIM TERORISTS MEWN LLYWODRAETH.


Gywirdeb delfrydol yw hon, ond Naifrwydd Llwyr ym mhob ffwrdd ymarferol.

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 10:06 am
gan Boris
Aled a ddywedodd:A dim heddwch ychwaith.
Nid y ffaith fod Sinn Feinn yn gysylltiedig a mudiad terfysgol ydi problem Paisley efo nhw waeth bynnag be mae o'n ddeud. Ei wir broblem o ydi eu bod nhw'n Babyddion ac yn Weriniaethwyr a fod ganddyn nhw'r hyfdra i fynnu eu bod yn cael lle yn llywodraeth Gogledd Iwerddon. Fase gan Paisley ddim problem efo rhannu pwer efo terfysgwyr teyrngarol tase raid iddo fo.
Ma o'r gwleidydd mwya ffiaidd dwi rioed wedi dod ar ei draws a dwi'n gorfod chwerthin bob tro ma'n cael ei alw'n Reverend, dyn Duw ar f'enaid i!! Maddeuant? Car dy gymydog? Ma hi'n anffodus tu hwnt fod uniolaethwyr gogledd Iwerddon wedi penderfynnu llochesu y tu ol i'w atgasedd. Buan y gwelan nhw na all Paisley fyth sicrhau heddwch i Ogledd Iwerddon.


Rant di sail a hollol ragfarnllyd

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 10:11 am
gan Boris
Chris Castle a ddywedodd:
2. Y llywodraeth Brydeinig wedi dinistrio y SDLP oherwydd eu bod yn gwrando mwy i Sinn Fein/IRA (oherwydd grwp arfog yn nhw)


MAe pleidleiswyr yr SDLP wedi decharu pleidleisio dros y Llywodraeth te?



Paid a bod mor nawddoglyd. Mae Seamus Mallon, cyn ddirprwy arweinydd yr SDLP wedi gwneud y pwynt mae hoelen olaf yn arch yr SDLP oedd penderfyniad Blair ac Ahern i wrthod cyfarfod yr SDLP ac yn hytrach delio gyda Sinn Fein wrth ymdrechu i ail gychwyn y broses heddwch. Yn ôl Mallon, y neges glir oedd mae Sin Fein sydd a chlust y llywodraeth.

Tydi bychanu Pogon ar y pwynt hwn yn ddim mwy na bychanu un o arweinwyr dewraf y mudiad cenedlaethol yn Ngogledd Iwerddon ac heddychwr o argyhoeddiad.

Ond fel dwi di gweld sawl gwaith, mae heddychiaeth aelodau Maes e yn mynd mas drwy'r ffenast pan mae'r "oh so cool" IRA/Sin Fein dan sylw.