Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 10:45 am
gan Cardi Bach
SbecsPeledrX a ddywedodd:Cardi ma hyna jest yn anghywir. Roedd yr SDLP yn rhan o'r trafod ar Gytundeb Gwener y Groglith. Y gwir yw fod Sinn Fein jest di neud gwell job o'r trafodaethau. Roedd llywodraeth prydain yn trafod a'r ddau. Nid oedd modd siarad a dim ond Hume gan fod Sinn Fein yn cynrychioli carfan eang o farn cenedlaetholwyr y chwe sir ac yn ryw fath o lais gwleidyddol i'r PIRA - fel mae llywodraeth prydain yn llais i'r British Empire Army. Doedd dim modd cael heddwch heb cynrychiolwyr y ddau fyddin!

Fel ddudodd Aled - agwedd di droi y DUP a'r wannabe Paisleys yn yr UUP sydd wedi lleihau apel yr SDLP. Y cenedlaetholwyr mwy breintiedig a dosbarth canol wedi gweld nad yw'r unoliaethwyr yn fodlon cyrraedd cyfaddawd a hwy.


Ti'n iawn. mi rodd yr SDLP a phob plaid arall (ag eithrio'r DUP) yn rhan o'r trafodaethau, ac mae ngosodiad i, fel yi sgrifennwyd, yn anghywir. I drial esbonio serch hynny beth o'n i'n olygu, hyn ac adegau eraill oeddwn i'n feddwl. nawr, mae hyn yn ddigon teg gan mai Sinn Fein oedd yn cynrychioli llais wleidyddol yr IRA fel petai. Ond yr hyn roedd hynny'n wneud oedd 'marginaliso' yr SDLP a rhoi pwer ecsgliwsif i ddwy blaid dros ddyfodol y broses heddwch - a hynny wedi ei wthio gan lywodraeth Prydain ac Iwerddon.

Fel wedes, mae hyn yn ddealladwy, os oedd y llywodraeth yn gweld mai dyma oedd y ddwy blaid oedd angen cael i gytuno ermwyn ennill heddwch. Ond y pwynt pwysig fan hyn, fi'n credu, yw, os hynny, pam troi cefn ar y broses ar y funud ola?

Fi'n ame fod gweithredoedd Trimble wrth fynnu nad oedd datganiad de Chastelain yn ddigon da wedi chwarae rhan itha pwysig yn yr etholiadau sydd newydd fod - i'r ddwy ochor. O ochor y cenedlaetholwyr fe olygodd 'trenching' o farn, a roddodd swing i Sinn fein, ac o ochor yr Unoliaethwyr yr un modd wrth iddyn nhw weld nad oedd, er yr holl waith caled a ewyllys da ar ran y bobl gyffredin, nad oedd posib cael man canol.

Odi hwnna'n egluro rhywfaint ar yn ffordd i o feddwl?

PostioPostiwyd: Iau 04 Rhag 2003 12:51 pm
gan SbecsPeledrX
MAE'N HAWDD DEALL PAM NAD HYN DDIGWYDDODD, OND MAE'N BITI. GWARTH AR Y PIRA.


Ond wrth gwrs, dyma byrdwn fy nadl - dyma pam fod Sinn Fein yn haeddu clod. Roedd y PIRA wedi sefydlu ei hun a doedd y Brits methu ei churo ond doedd PIRA chwaith ddim am gael buddigoliaeth sydyn yn erbyn Prydain wedi iddi greu atgasedd mor gryf at y cysyniad o Iwerddon rhydd unedig ymhlith y dosbarth gweithiol unoliaethol.

Rhoddodd arweinwyr gwleidyddol gweriniaetholdeb eu bywydau yn y fantol er mwyn arwain y mudiad ar lon heddwch. Dwi'n credu fod arweinyddiaeth Sinn Fein wedi dangos dewrdra anhygoel (hyd yn oed os nad ydwyf o reidrwydd yn cytuno ai pholisiau) Digon hawdd fydde i Gerry Adams fod wedi troi yn Michael Collins arall.

PostioPostiwyd: Iau 04 Rhag 2003 5:44 pm
gan RET79
Cardi Bach a ddywedodd:Ar y foment wy'n pryderu am ddyfodol heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r bleidlais yn amlwg wedi cael ei pholareiddio - fel roedd llawer ohono ni wedi rhagweld, a'r pleidiau mwya pwyllog a chymhedrol (o'r ddwy ochr) sydd wedi colli mas.
.


Dwi'n rhannu dy bryder am y broses heddwch a dwi'n gobeithio wneith hyn ddim arwain at ymgyrch newydd gan yr IRA. O leiaf hefo'r sefyllfa cyn yr etholiad roedd yr IRA ar ceasefire gan eu bod yn cael eu cynnwys rownd y bwrdd trafod a rhannu pwer yn yr asembli. Rwan, dwi ddim yn rhy siwr bydd yr IRA yn gallu cadw eu ceasefire.

Wedi dweud hyn wrth gwrs dwi'n meddwl fod Trimble wedi mynd mor bell ac y gallai i drio cynnwys sinn fein ond yn anffodus roedd hi'n mynd braidd yn amlwg nad oedd gan yr IRA wir ddiddordeb i roi eu arfau i mewn a bod yn heddychlon.

Bai IRA/Sinn Fein yw hyn yn fy marn i. Efallai fod tamaid o fai ar Trimble am roi fewn gymaint ond mae'n dda ei fod wedi gwneud hynny gan rwan rydym ni'n gweld fod gan Sinn Fein ddim gwir ddiddordeb mewn dulliau heddychlon. Dwi'n meddwl fod Sinn Fein/IRA wrth eu bodd yn ddistaw bach fod y DUP mewn pwer gan wneith hyn roi esgus iddyn nhw i ddechrau ymgyrch fomio newydd.

PostioPostiwyd: Iau 04 Rhag 2003 10:54 pm
gan S.W.
Ni ellir rhoi'r bai am trafferthion Gogledd Iwerddon ar Sinn Fein a'r IRA yn unig. Mae'r gymuned gweriniaethol/gatholig yng Ngogledd Iwerddon wedi dioddef blynyddoedd o beidio cael eu barn hwy yn cael ei wrando arno yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon/Prydain. Effaith hyn oedd bod pobl yn mynd yn fwy eithafol. Er bod nifer o Unoliaethwyr wedi mynd mor bell ag y maentnhw yn gallu mynd, mae Sinn Fein a'r IRA wedi mynd yn bellach nag y mae nifer o bobl yn fodlon ei dderbyn hefyd - siarad gyda'r Unoliaethwyr megis Paisley, a bod y Weriniaeth bellach wedi gollwng rhan o'i chyfansoddiad sydd yn hawlio'r Gogledd.

Mae'n sefyllfa llawer mwy cymhelth nag dim ond du a gwyn

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 12:13 pm
gan Dielw
Crefydd ydi'r peth mwya gwirion mae dyn erioed wedi ei greu. Pawb yn stopio credu yn Sion Corn yn 10 oed ffor fuck sake a mae o llawer mwy credadwy na concept gwbl abstract dach chi'n galw'n "Dduw". Joc a hanner! (er bod rhai agweddau o'r eglwys yn neud fi'n sâl - llosgi gwrachod, gwyddonwyr, eu stance ar atal cenhedlu, paedophilia a mae'r list yn mynd ymlaen ac ymlaen...)

Sa na lai o ryfeloedd heb crefydd thats ffo sho, a oce sa na mwy o suicides a phobl depressed, ond sa pobl mwy "enlightened" yn gyffredinol ac yn gwrthfawrogi'r byd naturiol yn well. Be sy'n bod efo pobl?

Dyna fo dwi di cal fy rant.