Tudalen 1 o 1

Wel mae rhai pethau byth yn newid.

PostioPostiwyd: Sul 30 Tach 2003 7:53 pm
gan Madrwyddygryf

PostioPostiwyd: Sul 30 Tach 2003 8:16 pm
gan Macsen
Ai dyna lle mae RET yn cael ei comedy material? :winc:

PostioPostiwyd: Sul 30 Tach 2003 11:26 pm
gan RET79
Mae Hague yn foi doniol go iawn ac roedd o'n wych ar y despatch box.

PostioPostiwyd: Sul 30 Tach 2003 11:30 pm
gan Madrwyddygryf
Ia ond diawch ar un ochor, roedd y Ceidwadwyr yn siarad am dod yn fwy 'inclusive'. Ond wedyn mae Hague yn agor ei geg, ac mae'n dangos does dim wedi newid.

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2003 12:03 am
gan RET79
Alunewilliams a ddywedodd:Ia ond diawch ar un ochor, roedd y Ceidwadwyr yn siarad am dod yn fwy 'inclusive'. Ond wedyn mae Hague yn agor ei geg, ac mae'n dangos does dim wedi newid.



Dwi ddim yn hoff o'r busnes inclusive ma i fod yn onest.

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 9:22 pm
gan Leusa
be di inclusive?

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 9:57 am
gan Chris Castle
be di inclusive?


Peidio â gwneud pobl yn anghyfforddus er mwyn eu gwthio nhw mas o'ch cymuned.
Sicrhau dych chi ddim yn dweud pethau fydd yn gwneud pobl meddwl dych chi'n eu casau am bwy ydynt.

Dwi ddim yn hoff o'r busnes inclusive ma i fod yn onest


Ti'n mynnu'r hawl i fwlian pobl erill, a bod yn anghwrtais te?

Cywirdeb Gwleidyddol wyt ti'n golygu?
(bydd yn ofalus a meddwl am eiliad cyn ymateb RET.
"cwestiwn tric" yw e.)
[/quote]

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 9:58 am
gan Cardi Bach
Leusa a ddywedodd:be di inclusive?


fod pawb yn cymryd rhan yn hytrach na chriw dethol - include ayb.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 10:09 am
gan Barbarella
Cardi Bach a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:be di inclusive?

fod pawb yn cymryd rhan yn hytrach na chriw dethol - include ayb.

Mae wedi datblygu ei ystyr fach ei hun erbyn hyn wrth sôn am blaid gwleidyddol -- sef y ddylai'r blaid ymddwyn mewn ffordd sy'n mynd i olygu bod modd cynnwys (yr include bit) pobl o bob ran o gymdeithas -- hynny yw, dyw e ddim yn inclusive os chi'n slagio off mamau sengl achos mae nhw'n annhebygol o deimlo allen nhw ymuno/cefnogi'r blaid wedyn.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 2:25 am
gan Huw T
Hahaha. C'mon ma rheina yn eitha doniol! Wedi bod ar yr ochr dderbyn o lawer o jocs Cymreig drwy fynd i brifysgol yn Lloegr. Ma jyst angen bod yn groendrwchus, and give as good as you get :crechwen: