Tudalen 1 o 1

Y Blaid Lafur

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 7:02 pm
gan Lowri Fflur
:( Dwi erioed wedi clywed gymaint o CRAP a hyn yn fy mywyd. Mae' r blaid Lafur wedi mynd yn bellach na be sa y blaid Doriaidd erioed wedi meiddio mynd ers dod i bwer trwy fyw off ei hen enw o fod yn blaid sosialaidd. Y petha gweutha maent wedi ei wneud yn fy marn i yw dechrau 5 rhyfel ar wledydd bach a gwneud i bobl dalu am ei haddysg.

PostioPostiwyd: Sad 13 Rhag 2003 2:22 pm
gan mred
Trosglwyddo grym economaidd a gwleidyddol i gorfforaethau rhyngwladol, a minimeiddio dylanwad yr unigolyn, sy'n gyrru gweledigaeth Blair ac yn siapio'i bolisïau hyd y gwela'i. Sylwer ar y gagendor cynyddol rhwng barn y boblogaeth ac agenda gwleidyddion.

Mae mwyafrifoedd mawr yn erbyn cnydau GM a phreifateiddio'r gwasanaeth iechyd, ond mae athroniaeth Blair yn golygu mai gofynion y corfforaethau gaiff eu hateb yn y meysydd hyn (dwi'n rhagweld y bydd yn cymeradwyo cnydau GM yn fuan wedi'r etholiad nesaf, pan fydd barn boblogaidd yn amherthnasol iddo).

PostioPostiwyd: Sul 14 Rhag 2003 7:03 pm
gan Hogyn o Rachub
Yn anffodus mae Prydain (neu Lloegr, i fod yn hollol fanwl) yn wlad geidwadol. Er mwyn i Lafur ennill pleidleisiau dde-o'r-canol 'ma roedd yn rhaid i Blair newid y Blaid Lafur i fod yn dde-o'r-canol os oedden nhw eisiau dal pwyr, ac wedyn ei chadw.

Ac mi lwyddodd.