gan mred » Sad 13 Rhag 2003 2:22 pm
Trosglwyddo grym economaidd a gwleidyddol i gorfforaethau rhyngwladol, a minimeiddio dylanwad yr unigolyn, sy'n gyrru gweledigaeth Blair ac yn siapio'i bolisïau hyd y gwela'i. Sylwer ar y gagendor cynyddol rhwng barn y boblogaeth ac agenda gwleidyddion.
Mae mwyafrifoedd mawr yn erbyn cnydau GM a phreifateiddio'r gwasanaeth iechyd, ond mae athroniaeth Blair yn golygu mai gofynion y corfforaethau gaiff eu hateb yn y meysydd hyn (dwi'n rhagweld y bydd yn cymeradwyo cnydau GM yn fuan wedi'r etholiad nesaf, pan fydd barn boblogaidd yn amherthnasol iddo).
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.